Adferiad economaidd yn cymryd y sylw cyn yr etholiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y pleidiau oll gynlluniau gwahanol ar sut i fynd i'r afael â'r sefyllfa economaidd wedi'r pandemig

Yr adferiad economaidd wedi'r pandemig fydd y prif bwnc wrth i'r pleidiau gwleidyddol dreulio eu penwythnos olaf yn ymgyrchu cyn etholiad y Senedd ddydd Iau.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo creu 65,000 o swyddi newydd os mai nhw fydd mewn pŵer ar ôl 6 Mai.

Dadl Plaid Cymru ydy mai annibyniaeth ydy'r unig ffordd i Gymru "wireddu ei llawn botensial".

Dywedodd Llafur Cymru bod eu cynllun nhw yn cynnwys sicrwydd o le mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg i bawb dan 25 oed.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud eu bod eisiau helpu pobl sy'n ei chael yn anodd talu am eu Treth Cyngor oherwydd y pandemig.

Beth mae'r pleidiau yn ei addo?

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russel George bod gan y blaid "gynllun clir i greu swyddi a chyflawni adferiad economaidd tymor hir, gan ddechrau trwy gefnogi busnesau i greu 65,000 o swyddi newydd fydd â chyflog da".

"Byddwn yn ysgogi twf trwy sgrapio cyfraddau busnes, rhoi cefnogaeth i helpu busnesau i sefydlu a thyfu, a rhoi rhaglen ailhyfforddi ar waith i helpu pobl i ganfod swyddi.

"Ddydd Iau fe allwch chi droi'r dudalen ar 22 mlynedd anodd o Lafur, sydd wedi atal economi Cymru rhag gwireddu ei wir botensial, trwy bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig ar y ddau bapur pleidleisio."

Yn ô arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, "bygythiad annibyniaeth ydy'r unig beth fyddai'n rhoi dylanwad i Gymru yn Llundain".

"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn golygu Cymru gryfach - un y mae San Steffan yn ei hofni a'i pharchu, nid ei hanwybyddu a'i hesgeuluso. Bydd hyn yn golygu mwy o fuddsoddiad a mwy o bwerau."

Ychwanegodd Mr Price: "Mae profiad Yr Alban wedi'n dysgu ni bod y posibilrwydd o annibyniaeth yn gorfodi San Steffan i wrando.

"Dim ond trwy ethol llywodraeth Plaid Cymru ar 6 Mai fydd llais Cymru'n cael ei gryfhau wrth herio Llywodraeth Dorïaidd y DU."

Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris bod cynllun adfer y blaid yn cynnwys "cynnig o waith, addysg neu hyfforddiant i bawb dan 25 a'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol".

"Fe fydda i allan ar draws Cymru pob dydd rhwng nawr a 6 Mai yn curo'r drwm ar gyfer llywodraeth Lafur Cymru," meddai.

"Gyda phob arolwg yn dangos fod y Torïaid yn peri perygl yn yr etholiad yma, mae ein neges yn glir - os ydych chi'n gwerthfawrogi'r hyn mae Llafur Cymru wedi'i wneud i chi, eich teulu a'ch cymuned, mae'n rhaid i chi fynd allan a phleidleisio drostyn nhw."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eisiau sefydlu cronfa gwerth £200,000 i helpu'r "rheiny sydd fwyaf bregus", sy'n ei chael yn anodd talu biliau a dyledion fel Treth Cyngor.

Dywedodd yr arweinydd Jane Dodds y byddai'n "helpu cymaint o drigolion yng Nghymru".

"Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod gwaethaf o'r pandemig coronafeirws mae un peth yn glir - fe wnaeth y pandemig ddatgelu anghydraddoldebau amlwg o fewn ein cymdeithas," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod bod mwy yn ein gwlad yn cael eu heffeithio gan ddyledion o'i gymharu â gweddill y DU, a dyna pam y byddwn ni'n defnyddio'r arian yma i ryddhau pobl o'u hansicrwydd economaidd."