AS yn ymddiheuro gofyn i etholwr am diazepam

  • Cyhoeddwyd
Stephen DoughtyFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Doughty yw llefarydd yr wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin ar faterion tramor

Mae AS Llafur De Caerdydd a Phenarth wedi ymddiheuro am "unrhyw gamgymeriad a wnaed ganddo" wedi iddo ofyn i etholwr am "dabledi y mae modd eu cael drwy bresgripsiwn".

Mewn erthygl ym mhapur y Mail on Sunday dywed Byron Long ei fod wedi rhoi 140 o dabledi diazepam i Stephen Doughty yn ystod 20 cyfarfyddiad mewn siop goffi yng Nghaerdydd.

Dywed llefarydd ar ran Mr Doughty ei fod yn bendant yn gwadu'r honiad ond bod yr AS wedi gofyn i "ffrind personol" am rai tabledi i'w cymryd cyn hediad hir mewn awyren.

Ychwanegodd y llefarydd: "Roedd e mewn panig ar y pryd ac wedi methu trefnu apwyntiad gyda'i feddyg teulu. Felly fe wnaeth e ofyn i ffrind - rhywun yr oedd wedi bod yn siarad ag ef am ei broblemau iechyd meddwl - am rai tabledi diazepam - tabledi yr oedd wedi arfer eu cymryd.

"Mae Stephen yn ymddiheuro am unrhyw gam gwag - ond gwneud cais i ffrind yr oedd wedi ymddiried ynddo ar hyd y blynyddoedd wnaeth ef.

"Yn y pendraw aeth Stephen ddim ar y trip - a doedd e ddim angen y tabledi."

Mae bod ym meddiant diazepam, cyffur dosbarth C heb bresgripsiwn, yn drosedd ac yn gallu golygu dedfryd o hyd at ddwy flynedd o garchar.

Mae'n cael ei ddefnyddio yn feddygol ar gyfer pryder, ffitiau a sbasm o'r cyhyrau.

'Gwadu cael 140 o dabledi'

Mae erthygl Mail on Sunday wedi cyhoeddi yr hyn y mae nhw'n ei galw yn gyfres o negeseuon rhwng Byron Long a Mr Doughty, sy'n AS De Caerdydd a Phenarth a dirprwy weinidog Llafur ar faterion tramor a datblygu rhyngwladol.

Mae'r gyfres o negeseuon honedig yn dweud i Mr Doughty wahodd Mr Long i'w dŷ er mwyn cwrdd â'i gath newydd, gan ychwanegu: "ON. Oes gennyt ti unrhyw Diazepam sbâr drwy siawns? Dwi heb gael cyfle i weld meddyg ac mae angen rhai ar gyfer hedfan wythnos nesa! X."

Yn gynharach ddydd Sul pan ofynnwyd am ymateb y Prif Weinidog, Mark Drakeford i'r honiadau dywedodd nad oedd wedi gweld yr erthygl ei hun ond bod Mr Doughty wedi rhoi eglurhad llawn.

Ychwanegodd llefarydd Mr Doughty: "Mae Stephen wedi siarad yn agored am ei broblemau iechyd meddwl ac mae'n drist ei fod wedi gorfod rhannu manylion meddygol personol - ond mae'n teimlo bod y ffaith fod pobl yn siarad am broblemau iechyd meddwl yn beth da.

"Mae Stephen wedi bod yn cael meddyginiaeth ar sawl achlysur yn ystod y 12 mlynedd diwethaf - gan gynnwys diazepam i ddelio â phyliau o banig."

Pynciau cysylltiedig