Pum brawddeg i oroesi sgwrs am yr etholiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dynes yn edrych yn ddryslydFfynhonnell y llun, Tim Robberts

Wedi eich drysu gan yr etholiad? Ddim yn siŵr beth i'w ddweud wrth bobl wybodus sy'n dilyn gwleidyddiaeth Bae Caerdydd?

Peidiwch â phoeni, nid chi yw'r unig un - mae ein Senedd yng Nghaerdydd yn gymharol ifanc o hyd a'r system bleidleisio yn wahanol i'r drefn mewn etholiad cyffredinol.

Felly dyma bum brawddeg i'ch helpu chi i oroesi sgwrs wleidyddol gyda theulu neu ffrindiau yr wythnos hon wrth i Gymru bleidleisio dros aelodau Senedd Cymru ar 6 Mai.

"Etholiad gyfansoddiadol ydi hon..."

Annibyniaeth i Gymru, cael gwared â'r Senedd a phopeth yn y canol.

Mae'r pandemig wedi dod â chwestiynau mawr am berthynas Cymru â gweddill y DU i'r amlwg, ac mae gan y pleidiau bolisïau ar y ddau begwn.

Gyda'r holl opsiynau gwahanol ar y bwrdd, fe allai'r etholiad yma fod yn allweddol i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Darllenwch:Annibyniaeth a diddymu'r Senedd: Y farn ar lawr gwlad

"Fydd pethau ddim yr un peth heb y cyfrif dros nos."

Oherwydd y pandemig, fydd yna ddim cyfrif dros nos y tro yma, er siom i'r rheiny sy'n gwirioni ar y marathon arferol tan yr oriau mân ar noson etholiad.

Yn hytrach fe fydd yn digwydd ar ddydd Gwener, 7 Mai.

Felly cofiwch ofyn am brynhawn i ffwrdd o'r gwaith er mwyn ymddangos fel anorac go iawn.

Dilynwch y diwrnod: Ar lif byw arbennig Cymru Fyw, ar raglen ganlyniadau Radio Cymru ac ar S4C, dolen allanol.

Neu fe allech chi dreulio'r prynhawn mewn gardd gwrw tafarn leol ...

"Fe fydd y seddi rhanbarth yn allweddol wrth gwrs - ond pwy a ŵyr pwy fydd yn ennill rheiny!"

Os nad ydych chi'n siŵr pam fod gennych chi ddwy bleidlais ar 6 Mai, efallai bydd ail-adrodd y linell yma yn eich helpu.

Fe all hyd yn oed un sedd fod yn allweddol i blaid wrth iddi geisio ffurfio llywodraeth ac adeiladu mwyafrif - fel y dangosodd cefnogaeth y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams i'r Blaid Lafur yn y senedd ddiwethaf.

Mae pum rhanbarth yng Nghymru, a dyma ble gallai rhai o'r pleidiau llai fod yn gystadleuol. Yn yr etholiad yma mae'r pleidiau wedi ymgyrchu'n galed am ail bleidlais yr etholwyr ac mae'n anodd dyfalu beth fydd yn digwydd ddydd Gwener.

"Rwlét pur" fydd hi, yn enwedig yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru yn ôl Vaughan Roderick, felly gallwch fynd ati yn frwdfrydig i ddarogan beth fydd canlyniadau'r rhanbarth honno - does neb arall yn gwybod chwaith.

Darllenwch:Blog Vaughan Roderick: Gwalia Deserta

"Bydd hi'n ddiddorol gweld faint sy'n troi allan i bleidleisio"

Yn draddodiadol mae canran lai yn pleidleisio mewn etholiadau Cymreig o gymharu ag etholiadau cyffredinol.

Mae'n anodd gwybod pa effaith fydd y pandemig yn ei gael ar y niferoedd y tro yma. Ar un llaw mae'r cyfnod diweddar wedi codi ymwybyddiaeth am ddatganoli, ond rydyn ni'n dal i fyw gyda'r feirws ac fe allai hynny wneud i rai gadw draw.

Am y tro cyntaf, mae pobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd yn cael bwrw pleidlais yn Nghymru. Ond a fyddan nhw yn gwneud defnydd o'r hawl yma?

Mewn pennod ddiweddar o bodlediad Cymru Fyw fe wnaeth criw ifanc esbonio pam na fyddan nhw yn bwrw pleidlais ac roedd diffyg ymwybyddiaeth yn rheswm blaenllaw. Ai dyna fydd y patrwm i bobl ifanc ar draws y wlad?

Gwrandewch:Podlediad Cymru Fyw: Pwy sy'n pleidleisio?

"Cofiwch chi, beth sydd ddim yn y maniffesto sy'n ddifyr…"

Wrth i Senedd Cymru gael pwerau newydd, mae maniffestos y pleidiau hefyd wedi tyfu.

Ond yn ôl Vaughan Roderick, mae'n werth cadw golwg ar beth sydd ddim yn cael ei grybwyll yn yr addewidion.

Fe allai maniffesto y blaid Lafur er enghraifft awgrymu nad ydyn nhw yn disgwyl llywodraethu gyda mwyafrif yn y Senedd nesaf. Mae hynny am na fyddai angen deddfwriaeth i wireddu llawer o'i haddewidion.

Ac mae Vaughan hefyd yn galw maniffesto Plaid Cymru yn "restr siopa ar gyfer senedd grog".

Tybed ai "senedd o fargeinio cyson" fydd hi ar ôl 6 Mai?

Darllenwch: Blog Vaughan Roderick: Darllen rhwng y llinellau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig