Ffrwyth eu Llafur

  • Cyhoeddwyd

Nawr bod y llwch wedi setlo ar etholiadau 2021 gallwn weld eu bod wedi cynnig ambell i ateb ond hefyd wedi codi nifer o gwestiynau diddorol.

Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau yna'n ymwneud â llwyddiant Llafur yng Nghymru o gymharu â Lloegr a'r Alban.

Nawr bob tro rwy'n trafod Llafur Cymru fe fydd rhai yn bloeddio ar y cyfryngau cymdeithasol nad yw'r fath blaid yn bodoli mewn gwirionedd a taw cangen o'r blaid Brydeinig yw Llafur yng Nghymru.

Mae gen i ddau beth i ddweud wrth y bobol hynny. Y peth cyntaf yw eich bod chi'n iawn, er dim ond i raddau.

Yr ail beth yw does dim affliw o ots. Mae Llafur Cymru yn bodoli ym meddyliau etholwyr Cymru, mewn etholiadau datganoledig, o leiaf, p'un ai ydy hi'n greadigaeth farchnata ai peidio.

Mae'n beiriant ac mae'n beiriant sy'n gweithio.

Yr hyn nad yw creadigaeth Llafur Cymru wedi gwneud yw atal nac arafu dirywiad hir dymor y blaid yn etholiadau San Steffan. Mae'r cwymp yn y bleidlais Lafur yng Nghymru yr un mor serth a garw ac yw hi yn ardaloedd ôl-ddiwydiannol Lloegr.

Mae Huw Beynon o Brifysgol Caerdydd a Ray Hudson o Brifysgol Durham yn gwneud y pwynt yn bert yn "The Shadow of the Mine", llyfr a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.

Mae'r llyfr yn cymharu patrymau pleidleisio yng Nghymru a gogledd ddwyrain Lloegr dros yr hanner canrif ddiwethaf ac mae'r tebygrwydd yn drawiadol. Yn 1966 fe enillodd Llafur 61.1% o'r bleidlais yn y gogledd ddwyrain a 60.6% yng Nghymru. 42.6% a 40.9 % oedd y canrannau cyffelyb yn 2019.

Collwyd traean o'r bleidlais dros gyfnod o hanner canrif gydag ambell i fleep Blairaidd ar hyd y ffordd.

Yng ngwleidyddiaeth dwy blaid gogledd ddwyrain Lloegr fe arweiniodd perfformiad sâl y blaid yn 2019 at nifer o golledion etholiadol. Yn Ne Cymru, o leiaf, roedd ein system tair plaid ni yn golygu bod 40% o'r bleidlais yn ddigon iddi ddal ei gafael ar y rhan fwyaf o'i seddi, am y tro o leiaf.

Mae'r peryg i Lafur yn un amlwg. Yn ôl arweinyddion grwpiau ffocws mae cyfran o'r etholwyr yn gweld Llafur Cymru fel rhywbeth ar wahân i'r blaid Brydeinig ond dim ond mewn etholiadau datganoledig a lleol y mae'r canfyddiad hynny'n gwneud gwahaniaeth.

Dyw'r brand ddim yn ddigon cryf i wrthsefyll y llif Prydeinig mewn etholiad cyffredinol.

Wrth i Lafur Cymru ddathlu'n haeddiannol felly erys y cwestiynau ynghylch dyfodol hir dymor y blaid. Gallasai amgylchiadau gwleidyddol hyd yn oed arwain at droi Llafur Cymru yn blaid yn ei rhinwedd ei hun a hynny yn gynt nag y byddai dyn yn meddwl.

Pynciau cysylltiedig