Diwrnod olaf o ymgyrchu i'r pleidiau cyn Etholiad y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddwn yn gwybod pwy fydd y 60 aelod fydd wedi'u hethol i'r Senedd erbyn y penwythnos

Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi bod yn gwneud eu hapêl olaf i bleidleiswyr wrth i ymgyrch Etholiad y Senedd ddod i ben cyn y bleidlais ddydd Iau.

Mae arweinwyr y pleidiau wedi bod yn ymgyrchu mewn seddi targed yng ngogledd, de a chanolbarth Cymru.

Fe ymwelodd canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak, â'r Rhyl tra bod Mark Drakeford, arweinydd y Blaid Lafur wedi ymweld â'r Barri ym Mro Morgannwg.

Fe dreuliodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ran o'r diwrnod yn Llanelli ac fe ymwelodd Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ag Ystradgynlais.

Bydd y pleidleisio yn cychwyn am 07:00 ddydd Iau gyda'r cyfrif yn digwydd ddydd Gwener, drannoeth y bleidlais, oherwydd y pandemig.

Mae'r Ceidwadwyr yn gobeithio ennill mwy o seddi yng ngogledd Cymru wedi iddynt lwyddo i gipio pum sedd oddi ar Lafur yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Wrth ymweld â pharc gwyliau yn Y Rhyl ddydd Mercher fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak roi cefnogaeth - ond hefyd pryd o bysgod a sglodion i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies a'r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennydd Cymru Simon Hart yn derbyn 'cod a sglods' gan y Canghellor Rishi Sunak

Neges y Ceidwadwyr Cymreig oedd y byddai pleidlais iddyn nhw yn "sicrhau y byddai dwy lywodraeth yn cydweithio gyda'i gilydd i sicrhau adferiad wedi'r pandemig".

Wrth gael ei holi am y penderfyniad i beidio ymestyn y cynllun ffyrlo yn ystod y cyfnod clo byr yng Nghymru hydref y llynedd, dywedodd Mr Sunak ei fod ef a'r llywodraeth wedi gweithredu i amddiffyn pobl ymhob rhan o Brydain.

"Mae'r cynllun ffyrlo wedi diogelu bron i hanner miliwn o swyddi yma yng Nghymru ac mae 50,000 o fusnesau wedi elwa wedi iddyn nhw gael benthyciad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn ymgyrchu yn Y Barri ddydd Mercher

Ym Mro Morgannwg roedd Mark Drakeford yn ymgyrchu ddydd Mercher - sedd Llafur yn y Senedd ond y Ceidwadwyr sy'n cynrychioli'r etholaeth yn San Steffan.

Fe wnaeth gyfaddef fod ei blaid yn "brwydro'n galed yng ngogledd Cymru".

Wedi iddo gael ei holi a oedd yn poeni am sedd Bro Morgannwg dywedodd bod "y frwydr go iawn yn yr etholiad hwn rhwng cael llywodraeth Lafur flaengar i Gymru neu rhoi Cymru yn ôl i San Steffan o dan reolaeth y Ceidwadwyr a dyma'r mater dan sylw yn yr etholaeth hon".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Adam Price yn warws Castell Howell yn etholaeth Llanelli ddydd Mercher

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y byddai "pob pleidlais ymhob etholaeth yng Nghymru yn cyfri" a'i fod yn rhagweld mai "mwyafrif bychan fydd yn ennill yr etholiad i bleidiau".

Yn ystod y dydd bu'n ymweld â chanolfan brosesu a gwerthu bwyd yn Cross Hands yn etholaeth Llanelli - sedd ymylol sydd yn nwylo Llafur.

"Ein neges i bobl yw ewch i bleidleisio - mae pob pleidlais yn cyfri'.

"Mae gennym gyfle hanesyddol i ethol llywodraeth Plaid Cymru - y gyntaf mewn hanes. Fe fyddai hynny yn newyddion ar draws y byd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd William Powell a Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymgyrchu yn Ystradgynlais yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn ymgyrchu yn Ystradgynlais ac Aberhonddu yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ddydd Mercher.

Dyma'r unig sedd wnaeth y blaid ei hennill yn etholiad diwethaf y Senedd yn 2016, ond nid Kirsty Williams ydy'r ymgeisydd iddyn nhw yma eleni.

Dywedodd arweinydd y blaid, Jane Dodds ei bod yn cydnabod nad hi fydd prif weinidog nesaf Cymru ac nad oedd hi am ddistyru clymbleidio, ond pwysleisiodd mai'r nod oedd ennill mwy o seddi i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

"Ry'n ni'n bendant am ennill Brycheiniog a Maesyfed ond yn gobeithio am seddi rhanbarthol hefyd," meddai.

Beth sydd gan y pleidiau llai i'w ddweud?

Yn eu hapêl olaf nhw i etholwyr, mae Plaid Werdd Cymru wedi gofyn i bobl gefnogi'r blaid ar y rhestr rhanbarthol.

Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid, Amelia Womack ei bod yn "hen bryd ein bod ni yng Nghymru yn cael y craffu Gwyrdd rydyn ni'n ei haeddu yn y Senedd".

Gofynnodd Mark Reckless, arweinydd Plaid Diddymu'r Cynulliad, i bleidleiswyr beidio â "gwastraffu eu pleidleisiau ar bleidiau a helpodd i roi Brexit i ni, ac sydd wedi dyddio erbyn hyn".

Byddai ei blaid "yn dechrau ar y broses o ddad-ddatganoli ac yn amddiffyn ein Teyrnas Unedig wych," meddai.

"Gall Cymru wneud cymaint yn well na hyn," meddai Nathan Gill, arweinydd Reform UK yng Nghymru a oedd yn ymgyrchu yng Nghonwy ddydd Mercher.

"Mae angen i ni ddod allan o'r cyfnod clo nawr, mae angen caniatáu i'n plant fod yn blant, ac mae angen i'n busnesau wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau, sef gwasanaethu eu cwsmeriaid a chael economi Cymru ar waith eto."