Teyrngedau i'r Parchedig W I Cynwil Williams

  • Cyhoeddwyd
Llyr Gwyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Y Parch. Cynwil Williams, cyn-weinidog Dr Kate Roberts, yn rhannu ei atgofion amdani gyda Llŷr Gwyn Lewis ar gyfer rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru

Bu farw'r awdur a gweinidog yr efengyl Parchg W I Cynwil Williams yn 84 oed.

Cyn dod yn weinidog ar Gapel y Crwys, Caerdydd roedd y Parch. Cynwil Williams yn weinidog ar Gapel Mawr yn Ninbych.

Yn ystod ei gyfnod yno bu'n weinidog ar Dr Kate Roberts, ac yn ddiweddarach fe ysgrifennodd yn helaeth amdani hi a'i gwaith.

Fe hefyd oedd awdur bywgraffiad cyn-Archesgob Cymru, Y Parch. Ddr Rowan Williams.

Wrth ysgrifennu teyrnged iddo, dolen allanol yn wythnosolyn Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb y Bedyddwyr, Cennad, dywedodd Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru: "Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf â theulu'r diweddar Barchedig Cynwil Williams yn dilyn clywed am ei farwolaeth ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Bu'n ŵr a thad annwyl, ac yn ffrind i lawer.

"Fel gweinidog a bugail gofalus, enillodd ei le yng nghalon y bobl a ymddiriedwyd iddo. Fel pregethwr, amlygai ei ddawn a'i allu academaidd a'i ddiddordeb mewn darllen.

"Yr oedd hefyd yn awdur, a'i gyfrol fywgraffyddol am Rowan Williams yn sefyll allan. Fel hanesydd, roedd ei ddiddordeb yn ein gwreiddiau yn annwyl, a bu'n arbennig o ofalus a ffyddlon yn ei ymwneud â Choleg Trefeca. Yr ydym hefyd wedi colli un a lanwodd yn llawn gadair ein Cymdeithasfa a'n Cymanfa fel Llywydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Huw Edwards

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Huw Edwards

Pynciau cysylltiedig