Cyhuddo dyn o dreisio yn dilyn digwyddiad yn Llanbed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Dregaron bellach wedi cael ei gyhuddo o dreisio yn dilyn digwyddiad yn ardal Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau.
Bu presenoldeb heddlu sylweddol yn y dref wrth i'r awdurdodau chwilio am ddyn mewn cysylltiad â'r ymosodiad.
Bydd Saul Henvey, 45, nawr yn ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Llun i wynebu'r cyhuddiad.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn parhau i ddarparu cymorth i'r dioddefwr.
"Hoffem ddiolch eto i'r cyhoedd am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad yma," meddai'r llu mewn datganiad.