Diwrnod cyntaf 60 ASau Senedd Cymru wrth eu gwaith

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Adeilad Senedd Cymru

Bydd 60 o aelodau newydd Senedd Cymru yn dechrau ar eu dyletswyddau fore Llun, wedi canlyniadau'r etholiad wythnos ddiwethaf.

Bu nifer yn tyngu eu llw dros y penwythnos, oriau'n unig ar ôl i'r canlyniadau olaf gael eu cadarnhau.

Mae 19 o'r 60 aelod yn ymuno â'r Senedd am y tro cyntaf erioed.

Mae disgwyl i'r aelodau ddod i adeilad y Senedd dros y dyddiau nesaf cyn y sesiwn lawn gyntaf brynhawn dydd Mercher.

Bryd hynny mae disgwyl i Mark Drakeford gael ei benodi yn ffurfiol fel prif weinidog, yn ogystal â'r broses o benodi Llywydd a dirprwy Lywydd ar gyfer tymor y Senedd.

Ddydd Sul dywedodd Comisiwn y Senedd fod yna gamddealltwriaeth o reoliadau wedi bod ar ôl i nifer o aelodau newydd y Senedd ddweud nad oedd hawl gan blant ddod i'r Siambr ar gyfer y seremoni i dyngu llw.

Dywed y Comisiwn fod gan aelodau sydd â dyletswyddau gofal plant yr hawl i ddod â phlant i'r adeilad ond nid i'r Siambr ei un. Byddai plant yn gallu gwylio'r seremoni o'r cwrt, sy'n rhan o adeiladau'r Senedd.

Ond honnodd rhai aelodau fod y penderfyniad yn un "munud olaf" ac wedi achosi trafferthion gofal plant.

Ffynhonnell y llun, Dawn Bowden/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Dawn Bowden, AS Merthyr Tudful a Rhymni, ddod a'i hŵyr i'r Senedd ar gyfer y seremoni oherwydd trefniadau gofal plant

Mewn neges ar Twitter dywedodd AS Caerffili, Hefin David, bod hwn yn "ddechrau gwael i amodau teulu-gyfeillgar Senedd Cymru, wrth i mi glywed na fydd modd i mi ddod mewn person i dyngu llw gyda fy mhlant tair a phump oed."

"Dwi wedi apelio yn erbyn hyn, sydd yn gwbl dderbyniol o fewn rheolau Llywodraeth Cymru."

Yn ddiweddarach dywedodd Mr David ei fod e wedi derbyn galwad ffôn gan staff y Senedd i ddweud eu bod nhw 'wedi edrych ar y sefyllfa' a bod modd iddo fe a'r plant fynychu'r seremoni am fod ganddo 'ofynion gofal plant'.

Yn y cyfamser, fe benderfynodd eraill dyngu eu llw dros y we yn hytrach na theithio i'r siambr ym Mae Caerdydd, a hynny am y tro cyntaf yn hanes y sefydliad.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Senedd Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Senedd Cymru

Paratoi swyddfa

Dros y dyddiau nesaf bydd yr aelodau i gyd - hen a newydd - yn teithio i Fae Caerdydd ar gyfer y gwaith o sefydlu swyddfa a dod i wybod mwy am y gwaith o'u blaenau.

"Mae wedi bod yn gyfnod prysur ers yr etholiad", meddai Rhys ab Owen, a enillodd sedd dros ranbarth Canol De Cymru ar ran Plaid Cymru.

"Mae cyfarfod grŵp (Plaid Cymru) 'da ni bore fory dros Zoom, yna inductions dydd Mawrth. Mae angen i ni sefydlu swyddfa a dod i wybod am y gwahanol reolau Covid ynglŷn â'r hybrid-plenaries, ac yna'r plenary cyntaf dydd Mercher, wrth gwrs.

"Rydyn ni wedi cael gwybod bod yn rhaid i ni i gyd fod yn adeilad y Senedd ar gyfer hwnnw," meddai. "Bydd rhyw 20 ohonon ni yn y siambr a'r gweddill yn eu swyddfa yn y Senedd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Rhys ab Owen

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Rhys ab Owen

Mae Mr ab Owen yn cymryd ei le yn y Senedd 22 mlynedd ar ôl i'w Dad, Owen John Thomas, gael ei ethol i gynrychioli'r un rhanbarth yng Nghynulliad cyntaf Cymru.

"Wrth feddwl yn ôl ar yr etholiadau o'r blaen, mae 'na gymaint wedi newid ers hynny", meddai.

"Mae cymaint mwy o bwerau nawr gyda'r corff, mae'n sefydliad cwbl wahanol ac yn un sydd â rôl cymaint yn fwy erbyn hyn. "

'Fi wedi anelu at hyn'

Am 11.00 fore Llun bydd aelod newydd arall yn tyngu ei lw yn siambr y Senedd, ar ôl teithio o'i gartref yn Sir Benfro.

"Dwi wedi bod yn gweithio ac yn anelu at hyn er sawl blwyddyn nawr", meddai Samuel Kurtz a gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth De Orllewin Cymru ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies - aelod Preseli Penfro - a Sam Kurtz yn dathlu eu buddugoliaeth yn ystod y cyfrif ddydd Gwener

"Bydd hi'n neis cwrdd ag aelodau newydd ein plaid wyneb yn wyneb, achos mae popeth wedi bod trwy Zoom hyd yn hyn.

"Dydd Mawrth ni'n gobeithio cael llun grŵp y blaid ar y stepiau tu fas i'r Senedd, ac yna mae'r gwaith yn dechrau go iawn o setlo mewn, sortio staff mas a phethe fel 'na", meddai.

"Achos mae'r gwaith wedi dechrau dod mewn yn barod. Nes i nodiadau o'r pethe o'dd pobl ishe i ni sortio mas pan o'n i mas yn canfasio adeg yr etholiad, a dwi wir yn edrych ymlaen ar yr haf pan alla i fynd mas i gwrdd â phobl yn lleol.

Ychwanegodd: "Dwi 'di tyfu lan yn anelu i wneud y gwaith yma, a'r ffaith yw galla i nawr neud e".