Pwy sydd ddim yn dychwelyd i Senedd Cymru?
- Cyhoeddwyd
Nid oedd saith aelod oedd yno ar ddiwedd y Pumed Senedd yn ymgeiswyr yn yr etholiad, ac fe fethodd 13 â chael eu hailethol. Pwy ydyn nhw?
Llafur
Ann Jones
Ni cheisiodd Dirprwy Lywydd y Senedd, Ann Jones, aelod Llafur dros Ddyffryn Clwyd ers 1999, gael ei hailethol.
Yn 2007 hi oedd yr aelod cyntaf nad oedd yn rhan o'r llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth newydd.
Dywedodd ei bod yn "hynod falch" ei bod wedi cyflwyno'r gyfraith i wneud taenellwyr yn orfodol ym mhob cartref newydd, dolen allanol i ddelio â thanau - Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i wneud hyn - oherwydd bod gweithio o fewn y gwasanaeth tân am bron i 30 mlynedd wedi codi ei hymwybyddiaeth o effaith "dinistriol" tân.
Disgrifiwyd hi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford fel presenoldeb "unigryw yng ngwleidyddiaeth Cymru".
Dyfarnwyd yr OBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd eleni.
Carwyn Jones
Cyhoeddodd ym mis Mai 2018 y byddai'n gadael y Senedd yn etholiad 2021.
Fis yn gynharach cyhoeddodd ei fod yn camu i lawr fel arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, wedi naw mlynedd ar y brig.
Bu dan bwysau sylweddol yn ystod ei fisoedd olaf yn brif weinidog, yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant ym mis Tachwedd 2017, ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet.
Roedd ei yrfa weinidogol hir wedi dechrau gyda chyfrifoldeb am amaeth yn ystod ymlediad clwy'r traed a'r genau yn 2001, a'r farn gyffredinol yw y bu'n llaw gadarn wrth y llyw yn ystod yr argyfwng.
Ef oedd y prif weinidog pan sicrhaodd y cynulliad bwerau deddfu llawn a'i fesur cyntaf o bwerau treth.
"Mae wedi bod yr anrhydedd fwyaf imi fod yn brif weinidog Cymru, ond mae wedi bod yn bleser arbennig fy mod wedi cynrychioli ardal fy nghartref am 22 mlynedd", meddai.
Bu'n cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr ers dechrau datganoli ym 1999.
Ceidwadwyr
Angela Burns
Penderfynodd gamu i lawr o Senedd Cymru yn yr etholiad.
Cafodd ei hethol gyntaf yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn 2007, ac yn eu tro ymdriniodd â phortffolios mawr cyllid, addysg ac iechyd dros ei phlaid ym Mae Caerdydd.
"Rhaid i bob peth da ddod i ben ac mae'n bryd nawr am her newydd a phrofiadau newydd," meddai.
Ar ôl goroesi madredd (sepsis), dywedodd fod bywyd wedi hynny "fel bod ar rollercoaster wrth wisgo mwgwd dros y llygaid".
Suzy Davies
Ymgeisiodd Ms Davies, aelod o'r Senedd yn cynrychioli Gorllewin De Cymru ers 2011, yn erbyn Paul Davies am arweinyddiaeth y Torïaid ym Mae Caerdydd yn 2018.
Roedd hi'n bumed ar restr y Ceidwadwyr yn rhanbarth De Cymru ac felly heb obaith o ennill sedd, ac yna tynnodd yn ôl fel ymgeisydd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwadodd Ms Davies iddi golli ei lle oherwydd ei bod o blaid datganoli, a dywedodd na ofynnwyd iddi am hyn yn ystod y broses ddethol.
Ei rôl ddiweddaraf yn ei phlaid oedd fel llefarydd addysg.
Ymgyrchodd am flynyddoedd am wersi gorfodol ar sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf mewn ysgolion, a wnaeth ddwyn ffrwyth yn un o'i chyfarfodydd llawn olaf yn y Senedd pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams - a oedd wedi gwrthod y galwadau o'r blaen - y bydd yn ofynnol yn y cwricwlwm cenedlaethol newydd.
David Melding
Roedd y Ceidwadwr blaenllaw wedi penderfynu peidio â cheisio cael ei ailethol.
Roedd yn un o'r aelodau a wasanaethodd hiraf yn y Senedd, yn cynrychioli Canol De Cymru ers i'r Cynulliad gael ei greu ym 1999.
Dywedodd cyn dirprwy lywydd y Senedd nad "swydd gyffredin" oedd bod yn wleidydd etholedig, gyda "dim amser i ffwrdd o'r gwaith".
Roedd ei gyfraniadau i drafodion y Senedd bob amser yn feddylgar ac yn huawdl, ac roedd yn fwy brwd o blaid datganoli na'r mwyafrif o'i gydweithwyr Ceidwadol.
Mae Mr Melding wedi addo neilltuo mwy o amser i ysgrifennu, a bod yn "ddinesydd-wleidydd creadigol a direidus".
Plaid Cymru
Helen Mary Jones
Ni ddaeth yn agos at gipio Llanelli y tro hwn, a chan ei bod wedi ei dewis yn ail y tu ôl i Cefin Campbell ar restr y blaid yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ni fydd yn dychwelyd i Fae Caerdydd.
Yn ystod y Cynulliad Cyntaf (1999-2003) hi oedd Aelod Cynulliad Llanelli.
Yn ystod yr Ail Gynulliad (2003-2007) roedd yn Aelod Cynulliad Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Yn ystod y Trydydd Cynulliad (2007-2011) roedd hi nôl yn Aelod Cynulliad etholaeth Llanelli.
Collodd ei lle yn y Cynulliad tan iddi ddychwelyd yn 2018 wedi ymddiswyddiad syfrdanol Simon Thomas.
Roedd hi'n un o gymeriadau mwyaf lliwgar y Senedd, gyda'i chyfraniadau yn huawdl ac yn aml yn angerddol. Un o lefarwyr mwyaf effeithiol y gwrthbleidiau wrth ddal y llywodraeth i gyfrif.
Ond roedd isafbwynt yn ei chyfarfod llawn olaf un pan gafodd ei cheryddu yn swyddogol, dolen allanol gan y Senedd am dorri'r Cod Ymddygiad wedi iddi ail-drydar neges ynghylch treial llofruddiaeth a oedd yn mynd rhagddo.
Dai Lloyd
Fe allai dynnu gwên gan ei gyd-aelodau trwy ddweud "dydw i ddim yn gwybod a ydw i wedi sôn yn y gorffennol fy mod i wedi bod yn feddyg teulu," gyda phawb yn bresennol yn gwybod ei fod wedi dweud hynny lawer o weithiau.
Cafodd ei fagu ar fferm deuluol ger Llanbedr Pont Steffan ond wedi gweithio fel meddyg teulu yn Abertawe am ddegawdau gan fagu profiad a gwybodaeth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol a ddefnyddiodd yn gyson yn nhrafodion y Senedd.
Yn 2017 fe bleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn erbyn ei gynnig a fyddai wedi amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol Cymreig mewn deddfau cynllunio. Roedd Dr Lloyd wedi gobeithio cyflwyno bil fyddai wedi amddiffyn enwau tai, ffermydd, caeau ac ati.
Cynrychiolodd Orllewin De Cymru rhwng 1999 a 2011 cyn colli ei sedd, ond cafodd ei ailethol yn 2016. Mae wedi colli ei sedd y tro hwn ar ôl ceisio cael ei ethol yn sedd Gorllewin Abertawe yn unig, yn hytrach na defnyddio rhwyd ddiogelwch y rhestr ranbarthol hefyd.
Bethan Sayed
Ni cheisiodd gael ei hailethol.
Wedi'i hethol gyntaf yn 2007, dywedodd Ms Sayed y bydd yn treulio mwy o amser gyda'i mab ifanc ond yn parhau i fod yn "rhagweithiol" fel dinesydd.
Dywedodd y bu'n "fraint yn fwy nag y gall geiriau eu disgrifio'n iawn" i gynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru a'i bod yn "hynod falch o'r holl ymgyrchoedd a mentrau" y bu hi'n ymwneud â nhw.
Mae angen i ddiwylliant gwleidyddiaeth 24/7 newid meddai, gan ychwanegu ei bod yn "amhosibl" magu teulu newydd gyda'r oriau y mae'r swydd yn mynnu.
Leanne Wood
Ergyd drom i Blaid Cymru oedd colli ei chyn arweinydd yn y Rhondda, lle y'i ganed a lle mae'n byw hyd heddiw.
Pan etholwyd Leanne Wood yn Arweinydd Plaid Cymru yn 2012, hi oedd y ferch gyntaf i arwain y blaid, ac oherwydd ei phresenoldeb yn nadleuon yr arweinwyr adeg Etholiad Cyffredinol 2015 roedd hi ymysg gwleidyddion mwyaf adnabyddus Prydain ar y pryd.
Ei buddugoliaeth yn y Rhondda yn erbyn y gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews, oedd un o ganlyniadau mwyaf trawiadol etholiad y Cynulliad yn 2016.
Ond siom fawr iddi yn 2018 yn yr etholiad am yr arweinyddiaeth oedd gorfod camu o'r neilltu yn dilyn y rownd gyntaf, wedi iddi orffen yn drydydd gyda 22.3% o'r bleidlais, o gymharu â'r 28% a sicrhaodd Rhun ap Iorwerth - a ddaeth yn ail - a'r 49.7% gafodd Adam Price.
Yn fwyaf diweddar bu'n llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a thai.
Mewn dadl yn 2004 fe alwodd hi'r Frenhines yn "Mrs Windsor". Gofynnodd y Llywydd Dafydd Elis-Thomas iddi dynnu'r sylw yn ôl gan ei fod yn "anghwrtais". Gwrthododd ac felly gofynnwyd iddi adael y siambr. Ymunodd ACau eraill Plaid Cymru â hi wrth gerdded allan, wrth iddi greu hanes fel yr AC cyntaf i gael ei ddiarddel o'r Cynulliad.
Cyn iddi gael ei hethol i'r Cynulliad yn 2003, roedd yn gweithio fel tiwtor proffesiynol a bu'n darlithio mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn gweithio fel swyddog prawf a gweithiwr cymorth gyda Chymorth i Fenywod Cwm Cynon yn 2001 a 2002.
Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio
Caroline Jones
Un o saith gwleidydd UKIP a etholwyd i'r Senedd yn 2016.
Dioddefodd y grŵp o gecru o'r dechrau, a Caroline Jones oedd ei ail arweinydd, am gyfnod byr.
Gadawodd y blaid ar ôl cael ei diorseddu fel arweinydd gan Gareth Bennett mewn pleidlais aelodau. Yn ddiweddarach, peidiodd grŵp UKIP â bodoli, ac ymunodd hi a thri arall o gyn-aelodau UKIP â Phlaid Brexit Nigel Farage yn 2019.
Daeth ei gyrfa seneddol i ben fel arweinydd grŵp gwleidyddol newydd yn y Senedd. Ffurfiodd Ms Jones, David Rowlands a Mandy Jones y pedwerydd grŵp mwyaf yn y senedd 60 aelod o dan enw y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio.
Methodd â chael ei hailethol fel ymgeisydd annibynnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng Ngorllewin De Cymru.
Mandy Jones
Dilynodd hi Nathan Gill fel aelod dros Ogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2017 ond ni chafodd ei derbyn i grŵp UKIP - disgrifiodd hi'r grŵp yn ddiweddarach fel un "gwenwynig".
Eisteddodd fel aelod annibynnol yn dilyn ffrae gydag UKIP dros ei dewis o staff - honnodd y blaid ei bod wedi dewis cyflogi pobl a oedd yn aelodau o bleidiau eraill, neu oedd wedi ymgyrchu dros bleidiau eraill yn ddiweddar.
Roedd hi'n un o bedwar cyn Aelod o'r Senedd UKIP a ymunodd â Phlaid Brexit Nigel Farage yn 2019.
Gorffennodd ei gyrfa yn y Senedd yn y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio.
Wrth siarad yn 2019 yn erbyn cynigion Llywodraeth Cymru i wahardd taro plant, datgelodd sut y cafodd ei cham-drin yn gorfforol gan ei mam fabwysiedig trwy gydol ei phlentyndod.
Dywedodd Ms Jones, a anwyd yn Wolverhampton, fod y cam-drin wedi parhau nes iddi adael cartref ddiwrnod cyn ei phen-blwydd yn 17 oed i briodi.
Methodd â chael ei hailethol fel ymgeisydd Plaid Diwygio'r Deyrnas Unedig yn etholaeth De Clwyd.
David Rowlands
Un arall o'r saith aelod UKIP a etholwyd yn 2016 a adawodd i ymuno â Phlaid Brexit wedi ffraeo ynghylch polisi a chyfeiriad UKIP. Gorffennodd ei yrfa yn y Senedd yn y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio.
Disgrifiodd ef yr ymgyrchydd asgell-dde Tommy Robinson fel "cymeriad dewr", gan ychwanegu bod cyn arweinydd Cynghrair Amddiffyn Lloegr (EDL) "yn adlewyrchu barn llawer iawn o bobl".
Cynrychiolodd Ddwyrain De Cymru, ond methodd â chael ei ailethol ar gyfer Plaid Diwygio'r Deyrnas Unedig yn yr un rhanbarth.
Plaid Diddymu'r Cynulliad
Gareth Bennett
Ymunodd â Phlaid Diddymu'r Cynulliad yr haf diwethaf ond ni chynrychiolodd e nhw yn etholiadau'r Senedd. Methodd â chael ei ailethol fel aelod annibynnol yn etholaeth Cwm Cynon.
Cafodd Mr Bennett ei ethol yn gynrychiolydd UKIP yng Nghanol De Cymru ym mis Mai 2016, ar ôl goroesi galwadau o fewn y blaid iddo gael ei ddad-ddethol oherwydd sylwadau a wnaeth am fewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop.
Wedi cythrwfl yn UKIP, cynhaliwyd etholiad arweinyddiaeth yn 2018 a bu'n fuddugol wedi iddo ymgyrchu ar sail cael gwared ar ddatganoli.
Fe barhaodd ei arweinyddiaeth o grŵp Seneddol y blaid lai na blwyddyn, ar ôl i aelodau adael i ymuno â Phlaid Brexit. Ar ôl cyfnod fel aelod annibynnol ymunodd Mr Bennett â Phlaid Diddymu'r Cynulliad ym mis Mehefin 2020.
Yn 2019 canfu comisiynydd safonau y Senedd fod fideo a wnaed ganddo yn ddiraddiol I'r aelod Llafur Joyce Watson. Fe wnaeth y Senedd ei wahardd o'r sefydliad am wythnos fel cosb.
Y flwyddyn flaenorol, canfu ymchwiliad fod Mr Bennett wedi gwario bron i £10,000 ar swyddfa laith heb arolwg ac yn erbyn cyngor gan gyfreithiwr.
Sbardunodd ffrae hefyd dros hawliau pobl drawsryweddol, trwy rybuddio y gallai cymdeithas "ymffrwydro" pe bai gormod o "wyro oddi wrth y norm".
Datgelodd i aelodau'r Senedd ei fod wedi cael "o leiaf 35 o swyddi, a chefais fy niswyddo o sawl un ohonynt". Nawr bydd angen iddo edrych am ei 36ain.
Mark Reckless
Etholwyd ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2016 ar restr ranbarthol UKIP.
Ym mis Ebrill 2017, gadawodd e UKIP ac ymuno â grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
Ym mis Mai 2019, gadawodd e grŵp y Ceidwadwyr er mwyn ffurfio grŵp Plaid Brexit.
Gorffennodd ei daith ddigynsail o gwmpas y siambr fel aelod o Blaid Diddymu'r Cynulliad.
Methodd â chael ei ailethol yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.
Bu'n ddraenen yn ystlys y Llywydd, Elin Jones, gan gwestiynu a oedd yn wleidyddol ddiduedd yn y Senedd.
Democratiaid Rhyddfrydol
Kirsty Williams
Ni cheisiodd y gweinidog addysg, aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, gael ei hailethol.
Ms Williams oedd yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn Senedd Cymru ac roedd wedi cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed ers 1999.
Mae'n byw ar fferm y teulu ger Aberhonddu gyda'i gŵr a'u tair merch, a dywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu".
Roedd Ms Williams yng nghabinet y Prif Weinidog Llafur Mark Drakeford, mewn parhad o fargen y cytunwyd arni'n wreiddiol gan arweinydd blaenorol Llafur Cymru, Carwyn Jones, yn dilyn etholiad 2016.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai ei hymadawiad yn "gadael twll enfawr - nid yn unig yn Llywodraeth Cymru ond yn y Senedd ac ym mywyd gwleidyddol Cymru".
"Roedd hi'n wleidydd aruthrol yn yr wrthblaid ond mae hi wedi dangos mai ei chryfder gwirioneddol fu wrth roi'r polisïau blaengar y mae hi wedi dadlau drostyn nhw ers amser maith ar waith," meddai.
Ms Williams oedd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru rhwng 2008 a 2016 - yr arweinydd benywaidd cyntaf ar unrhyw un o'r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.
Bydd cwricwlwm newydd y genedl, a fydd yn cael ei weithredu o 2022, yn etifeddiaeth barhaus.
Annibynnol
Michelle Brown
Hi oedd y pedwerydd aelod i adael grŵp UKIP - yn 2019 - gan alw'r grŵp yn "glwb i ddynion sy'n dangos rhagfarn at fenywod".
Dywedodd Ms Brown ei bod wedi ofni bod "llais rheswm" yn y blaid yn pylu pan welodd hi arweinydd UKIP Cymru Neil Hamilton ac arweinydd UKIP ar y pryd, Gerard Batten yn ymddangos ar lwyfan gyda Tommy Robinson, cyn arweinydd Cynghrair Amddiffyn Lloegr.
Beirniadodd hi wleidyddion UKIP hefyd am fynd ar drywydd "hoff brosiectau fel ymosod ar Islam a diddymu'r Cynulliad".
Methodd â chael ei hailethol yn aelod annibynnol ar y rhestr ranbarthol yng ngogledd Cymru. Dywedodd bod y ffaith bod ei henw wedi'i adael oddi ar rai papurau pleidleisio oherwydd camgymeriad argraffu yn sarhad ar ddemocratiaeth.
Dafydd Elis-Thomas
Ni cheisiodd adennill ei sedd ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd.
Bu'n aelod Cynulliad ers iddo gael ei sefydlu yn 1999, a bu'n Llywydd rhwng 1999 a 2011 gan chwarae rhan allweddol yn ei ddatblygiad cyfansoddiadol.
Cyn hynny bu'n aelod Seneddol rhwng 1974 ac 1992, ac roedd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 ac 1991.
Cafodd ei wneud yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi pan adawodd Dŷ'r Cyffredin yn 1992.
Fe adawodd Plaid Cymru yn 2016, ac fe gafodd yr AC annibynnol ei wneud yn ddirprwy weinidog dros dwristiaeth, chwaraeon a diwylliant yn Llywodraeth Lafur Cymru. Rhoddodd fwyafrif gweithredol i Lafur yn y Senedd.
"Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd," meddai.
Nick Ramsay
Dechreuodd ei yrfa yn y Senedd mor addawol fel llefarydd Ceidwadol blaenllaw. Cafodd canlyniad parchus iawn yn ei ymgeisyddiaeth am arweinyddiaeth y blaid yng Nghymru yn 2011, gan sicrhau 47% o'r bleidlais yn erbyn 53% Andrew RT Davies. Ac fe gafodd ei ethol yn gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol.
Daeth ei yrfa seneddol i ben ar ôl cael ei ddad-ddethol gan y Ceidwadwyr a methu â chael ei ailethol yn aelod annibynnol yn yr etholiad.
Gwaethygodd y berthynas rhwng Cymdeithas Geidwadol Mynwy a Mr Ramsay wrth i 2020 rygnu ymlaen, a phenderfynodd aelodau'r blaid ei ddad-ddethol ym mis Rhagfyr.
Cymerodd Mr Ramsay gamau cyfreithiol i atal aelodau'r gymdeithas rhag trafod y mater, ond tynnodd ei her yn ôl unwaith iddi gyrraedd y llysoedd, gyda'r gwleidydd yn gorfod talu degau o filoedd o bunnau i'r gymdeithas.
Propel
Neil McEvoy
Etholwyd ef i'r Cynulliad yn 2016 yn wleidydd Plaid Cymru yn cynrychioli Canol De Cymru.
Cafodd Mr McEvoy ei ddiarddel o Blaid Cymru yn 2018 dros ymddygiad aflonyddgar honedig yng nghynhadledd y blaid.
Ffurfiodd ef a grŵp o gefnogwyr blaid newydd a llwyddodd yn wreiddiol i gofrestru enw ei blaid yn 'Plaid Genedlaethol Cymru' ond fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol newid eu penderfyniad wedi her gyfreithiol gan Blaid Cymru.
Cafodd ei gais i gofrestru yr enw 'Plaid y Genedl Gymreig' (Welsh Nation Party) hefyd ei wrthod.
Fel arweinydd Propel, ceisiodd yn aflwyddiannus i ddiorseddu Mark Drakeford yng Ngorllewin Caerdydd.
UKIP
Neil Hamilton
Yr unig aelod o'r Senedd oedd yn byw y tu allan i Gymru - mae'n byw yn Wiltshire. Cynrychiolodd Ganolbarth a Gorllewin Cymru o 2016 ac ef yw arweinydd UKIP Cymru ac arweinydd dros dro'r blaid yn y DU.
Gosododd ei araith gyntaf y cywair ar gyfer ei yrfa ddadleuol yn y Senedd, pan ddisgrifiodd ef Kirsty Williams a Leanne Wood fel "gordderchwragedd gwleidyddol yng ngwreicty" Carwyn Jones.
Daeth yn arweinydd grŵp UKIP ar ôl iddo ddisodli Nathan Gill yn fuan wedi etholiad cynulliad 2016, cyn cael ei ddisodli ei hun fel arweinydd grŵp UKIP yn 2018.
Ef oedd yr unig un o'r saith aelod UKIP a etholwyd yn 2016 na adawodd y blaid.