Negeseuon bygythiol ar-lein 'wedi croesi llinell'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Ma' pobl wedi mynd â hyn yn rhy bell'

Mae ffermwr adnabyddus o'r gogledd wedi galw ar bobl i bwyllo ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ôl iddo fo a'i deulu dderbyn bygythiadau i'w bywydau.

Dywed Gareth Wyn Jones iddo dderbyn y negeseuon ar ôl iddo ofyn cwestiwn ar wefan caffi figan yn y canolbarth, ac mae wedi dod â'r mater i sylw'r heddlu.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Daily Post, mae'r caffi hefyd wedi derbyn bygythiadau ac mae'r perchnogion wedi apelio ar Facebook i bobl fod yn garedig i'w gilydd.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda'r caffi a'r heddlu er mwyn gofyn am ymateb.

'Agor llygad'

Mae Gareth Wyn Jones yn adnabyddus fel ffermwr sy'n siarad yn blaen am bynciau sy'n bwysig iddo ac o bryd i'w gilydd ddim ofn tynnu blewyn o drwyn.

Ond mae'r ymateb y mae wedi ei dderbyn yn y dyddiau diwethaf ar y cyfryngau cymdeithasol wedi brawychu ei deulu a'i wylltio fo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n dweud bod y negeseuon wedi dod ar ôl i'r Daily Post gyhoeddi erthygl ynglŷn â bygythiadau honedig dderbyniodd y caffi figan yn Llanidloes wedi iddo holi'r caffi a oedden nhw'n gwerthu llaeth buwch.

Dydy'r BBC ddim am ddangos cynnwys y negeseuon na'r cyfrif Facebook. Ond mewn un, mae'r awdur yn sôn am ddod â llinach teulu i ben.

Mae'r negeseuon, meddai, wedi "agor llygad i faint mor annifyr ma' bobl yn medru bod".

'Wedi mynd yn rhy bell'

"Dwi'n foi sy'n siarad yn strêt... 'di pawb ddim yn mynd i licio chdi," meddai.

"Dwi rili teimlo bod pobl - neu'n ma'r person yma, un neu ddau o rai eraill hefyd - 'di mynd â hyn yn rhy bell.

"Ma' 'na llawer iawn 'di deud bo' fi'n haeddu hyn - bo' hwn yn rwbath sy'n iawn i ddigwydd cos dwi'n rhoid fy hun allan yna. Wel, gywilydd arnyn nhw, bod nhw'n meddwl bod pobl yn ca'l bygwth 'y nheulu fi, eu bywydau nhw, a meddwl bod o'n iawn.

"Be o'dd 'di brifo fi mwy na'm byd a 'di gwylltio fi o'dd y ffor' o'dd 'y ngwraig... mae'n ypsetio'r teulu a ma' hwnna yn rwbath sy', dwi'n meddwl, 'di croesi llinell.

"Ma'r bobl 'ma'n afiach a ma' isio rhoi stop arnyn nhw."

Dywed Mr Jones nad ydy o wedi cwyno wrth Facebook hyd yma.

Mae polisi Facebook mewn cysylltiad â thrais ac annog trais yn dweud eu bod yn cael gwared â chynnwys a chyfrifon, ac yn gweithio gyda'r awdurdodau pan mae nhw'n credu bod perygl go iawn i ddiogelwch.

Ceisiodd BBC Cymru gysylltu gyda'r caffi - does dim ateb hyd yn hyn.

Ond mewn neges ar wefan Facebook yr wythnos diwethaf, roedden nhw hefyd yn galw ar bawb "i fod yn garedig i'n gilydd, beth bynnag ein credoau a gwerthoedd".

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan y Daily Post hefyd.