Apêl llên trosedd: Mae pawb yn dditectif nawr...

  • Cyhoeddwyd
Gwen ParrottFfynhonnell y llun, Gwen Parrott

Mae Gwen Parrott yn awdur nofelau trosedd a dirgelwch Cymraeg. Mae ganddi gyfres am yr athrawes Dela Arthur wedi ei gosod yn y 1940au, a nofelau cyfoes wedi eu gosod yn nhref ddychmygol Maeseifion. Yma mae hi'n edrych ar apêl y genre:

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Gŵyl Crime Cymru, dolen allanol yn ddiweddar, a ddenodd gannoedd i wylio a gwrando ar sgyrsiau gyda nofelwyr trosedd o Gymru a thramor trwy gyfrwng eu cyfrifiaduron, anodd dadlau â'r dystiolaeth gan gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr taw nofelau ditectif yw'r llyfrau mwyaf poblogaidd erbyn hyn.

Beth sy'n gyfrifol am hyn, felly?

Wedi'r cyfan, nid yw nofelau trosedd yn rhywbeth newydd o bell ffordd. Ers dyddiau Edgar Allan Poe a Wilkie Collins, nôl yn y 19eg ganrif, cydiwyd yn nychymyg miliynau o ddarllenwyr gan straeon am ddirgelion, llofruddiaethau ac arwr-dditectif sy'n datrys pob achos.

Aeth llawer o'r arwyr hyn yn angof ond mae eraill, fel Sherlock Holmes a Hercule Poirot yn fyw ac iach ac i'w gweld yn rheolaidd ar y teledu ac mewn ffilmiau hyd heddiw.

Ffynhonnell y llun, Getty/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Yr hen a newydd: Y Dr Watson a Sherlock Holmes gwreiddiol gan Syr Arthur Conan Doyle o 1892, a'r rhai mwy diweddar o'r gyfres a ymddangosodd ar y teledu gyntaf yn 2010, gyda Martin Freeman a Benedict Cumberbatch

Rhywbeth at ddant pawb

I bobl nad ydynt yn frwd dros nofelau trosedd gall ymddangos mai un peth ydyn nhw, ond mae hyn ymhell o'r gwir.

Cryfder mawr nofelau o'r fath yw'r posibilrwydd o'u gosod ym mhob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i'r dyfodol dychmygol; amrywiaeth eu naws, o nofelau digrif, diniwed i rai hynod waedlyd lle mae'r cyrff yn pentyrru; a'u lleoliadau sy'n ymestyn i bellafoedd y byd.

Golyga eu rhychwant anghredadwy bod ynddynt rywbeth at ddant pawb, gan gynnwys, yn aml, ddarlun craff o fywyd ac agweddau cymdeithasol ym mhob cyfnod a chymdeithas dan haul.

Cyhuddiad arall sy'n cael ei anelu atyn nhw yw nad ydyn nhw'n ddim byd ond pôs i'w ddatrys. Yn ddiamau, mae'r elfen hon yn bwysig, gyda'r darllenwyr yn benderfynol o ddyfalu'r gwir cyn diwedd y nofel, a'r awduron yr un mor benderfynol o'u rhwystro rhag gwneud. Ond mae hyn yn un o gyfrinachau poblogrwydd nofelau trosedd.

Maen nhw'n mynnu bod y darllenydd yn chwarae rhan yn y llyfr, trwy sylwi'n fanwl a meddwl yn rhesymegol. Cânt eu hysgrifennu er mwyn diddanu'r darllenwyr, a hyd yn oed os nad yw'r rheiny'n ymwybodol o hynny, maen nhw'n gwerthfawrogi cymeriadau credadwy a phlot cadarn, heb dyllau.

Ffynhonnell y llun, Gwen Parrott/Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Gwawr goch ar y gorwel oedd trydydd nofel Gwen Parrott yn y gyfres am yr athrawes, Dela Arthur

'Cysur rhyfedd'

A yw hyn yn esbonio'r ffrwydrad yn eu poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf? Ddim yn hollol, efallai, ond fel awdur nofelau trosedd am dros 20 mlynedd, daeth yn amlwg i mi fod nofelau trosedd yn darparu rhyw gysur rhyfedd.

Er gwaethaf unrhyw ddigwyddiadau erchyll yn y stori, y gwir a saif erbyn y diwedd. Mae'n beryglus anghofio mor ddwfn y plannwyd yr angen i weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni ym mhob un ohonom.

Gallech ddadlau bod cyflwr ansicr, enbydus y byd cyfoes yn un o'r rhesymau dros boblogrwydd nofelau trosedd. Tu mewn i'w cloriau, os nad yn y byd go iawn, caiff anghyfiawnder ei gosbi, ac mae'r da'n gorchfygu'r drwg.

Hwyrach ein bod i gyd yn hoffi meddwl pe bai rhywbeth ofnadwy'n digwydd i ni neu ein hanwyliaid y byddai'r wladwriaeth, ar ffurf yr heddlu, neu rhyw unigolyn dewr, yn barod i frwydro i ganfod y gwir.

Rheswm arall, yn fy marn i, yw'r ffaith bod gwaith llu o awduron trosedd o wledydd ac ieithoedd gwahanol yn cael ei gyfieithu erbyn hyn er mwyn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang.

Cyn ymddangosiad y Sgandinafiaid, yr unig awdur trosedd o dramor a oedd yn gyfarwydd i bawb yn yr iaith fain oedd Georges Simenon a'i lyfrau Maigret, ac roedd hynny oherwydd y gyfres deledu mewn du a gwyn.

Mae gennym ni, fel awduron Cymraeg, ddyled fawr i'r 'Sgandis' am bortreadu a chreu diddordeb mewn diwylliant nad yw'n Eingl-Americanaidd. Dros nos, fel petai, creewyd awydd i ddarllen am dirwedd sy'n newydd yn llythrennol ac yn gymdeithasol. Atgyfnerthwyd hyn, fel yn achos Maigret gan addasiadau ar gyfer y teledu.

Teledu yn 'ergyd farwol'?

Weithiau, ystyrir y teledu fel rhywbeth sy'n sicr o roi'r ergyd farwol i lyfrau. Mae'r dystiolaeth o ran nofelau trosedd yn gwrth-ddweud hynny'n llwyr, ac o Morse i Vera, ac o'r Glas i'r Gwyll, hogi'r awch am straeon o'r fath fu'r canlyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyfres Y Gwyll ar S4C yn gwneud i bobl awchu am fwy o straeon o'r fath, yn ôl Gwen Parrott

Rhaid i mi gyfaddef taw gweld y ffilm Noson yr Heliwr gyda Philip Madoc a Hywel Bennett ar y teledu roddodd yr hyder i fi fentro ysgrifennu nofel drosedd yng Gymraeg. Dwi'n cofio meddwl 'Gallwn i wneud hyn!' gyda chymysgedd o falchder a chyffro.

Ychydig iawn o awduron trosedd Cymraeg, heblaw am T. Llew Jones, oedd yn bodoli, a doedd fawr neb yn ysgrifennu cyfresi, sy'n un o bileri'r genre. Calonogwyd fi gan adwaith un o ffrindiau fy Mam ar ôl iddi ddarllen fy nofel gyntaf:

'Feddylies i byth y bydden i'n gallu darllen nofel fel hon yn Gymraeg...'

Ond heddiw, mae 'na dorf ohonom, pob un â llais, lleoliadau a naws unigryw. P'un ai o flaen y tân ar noson stormus, neu wrth y pwll nofio ar ein gwyliau (rhywbryd yn y dyfodol), mae gennym ddewis nawr na fu gennym erioed o'r blaen.

Manteisiwch arno.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig