Agor a gohirio cwest yn achos marwolaeth Ynysybwl
- Cyhoeddwyd
![Ynysybwl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1752D/production/_118233559_ynys3.jpg)
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos marwolaeth gŵr busnes 53 oed yn Rhondda Cynon Taf mewn tŷ oedd ar dân.
Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd bod Roger Selway wedi marw o anaf gwn i'w ben.
Roedd Heddlu De Cymru wedi cadarnhau, ar ôl cael eu galw i'w gartref ger Ynysybwl ar 27 Ebrill, nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Clywodd Llys Crwner Canol De Cymru bod cymar Mr Selway adref ar y pryd" ac fe glywodd hithau sŵn bang".
Cafodd hyd iddo "yn gorwedd ar ei gefn" ar lawr cyntaf yr eiddo, sydd tua milltir o'r pentref. Cafodd to'r eiddo ei ddinistrio yn y tân.
![Ynysybwl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8307/production/_118234533_ynys4.jpg)
Roedd Mr Selway newydd addasu'r hen ysgubor ac yn byw yno gyda'i gymar ers rhyw 18 mis.
Cafodd ei ddisgrifio gan gymdogion fel dyn "caredig a chyfeillgar". Yn ôl perchnogion ceffylau lleol, a'i welodd yn aml yn mynd â'i gŵn am dro, roedd ganddo ddiddordeb mewn gweithgareddau cefn gwlad, gan gynnwys saethu.
Cafodd ei adnabod trwy olion bysedd ar 4 Mai yn dilyn archwiliad post mortem ar 29 Ebrill.
Cafodd y cwest ei ohirio gan Hydref 20, 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021