MJ Williams: Y Cymro Cymraeg sy'n cael llwyddiant yn Bolton
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droediwr o Wynedd yn anelu i gynrychioli ei wlad eto ar ôl gwella o anafiadau oedd yn peryglu'i yrfa.
Mae Jordan Williams, sy'n enedigol o Fangor, bellach yn serennu i dîm Bolton Wanderers sydd newydd sicrhau dyrchafiad i Adran Un.
Ond mae ei ddyled yn fawr i Lerpwl, meddai ef a'i deulu, a dalodd £150,000 iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin dair blynedd yn ôl.
Roedd yr amddiffynnwr 25 oed - sydd bellach yn cael ei adnabod fel MJ Williams - ar lyfrau Lerpwl ar y pryd, cyn cael ei ryddhau yn fuan wedyn.
Dywedodd Jordan wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru: "Ma' hi wedi bod yn anodd ar ôl cael yr injury - o'n i'n meddwl na faswn yn chwara' eto.
"Ond diolch byth ar ôl gwaith caled o'dd o werth y boen i weld Bolton yn cael promotion.
"Dwi rŵan isio trio cael lle yn tîm Cymru gobeithio."
Bu Jordan - cyn-ddisgybl yn Ysgol y Garnedd - yn chwarae i dîm Penrhos ac Academi Bangor, cyn symud i Wrecsam ac yna i Lerpwl.
"Gafodd o'i sgowtio i chwarae i Wrecsam ac roedd o'n trainio tua pedair gwaith yr wythnos so nes i symud wedyn i fyw i Wrecsam iddo fo gael mwy o gyfle," meddai ei fam, Alison Williams, wrth Dros Frecwast.
"Ac wedyn pan oedd o'n 14 fe gafodd o'i sgowtio i Man City, Lerpwl a Everton.
"'Nath o gymryd Lerpwl ac roedd o'n mynd ar siwrna' dda iawn a nes i symud i Lerpwl i fyw 'efo fo tan ei fod o'n 19, wedyn nes i symud 'nôl."
Ond mae anafiadau wedi bod yn rhoi trafferthion i Jordan drwy gydol ei yrfa.
"'Nath o ddechra' pan o'dd o tua 16 oed, fel hogyn bach roedd ganddo fo drafferth 'efo pengliniau fo ond wnaethon ni jyst adael o, y specialist yn dweud bydd o'n iawn, 'paid â siarad llawar amdano fo'.
"Ond o'n i byth yn meddwl y bydda fo isio chwarae pêl-droed so dwi'n meddwl 'efo fo'n chwara' pêl-droed gymfaint mor ifanc na'th o ddechrau mynd yn waeth.
"Dwi meddwl gafodd o dri triniaeth ond yr un tair blynedd yn ôl oedd yr un massive.
"'Swn i jyst yn licio dweud diolch yn fawr iawn i Lerpwl - os 'sa Jordan wedi bod yn League One ar yr amser yna bydda fo byth wedi cael y driniaeth yma achos roedd o'n costio tua £150,000 so oedd o mewn un ffordd yn lwcus iawn bod o dal ar lyfra' Lerpwl."
Mae Jordan wedi cael blas ar y llwyfan rhyngwladol yn barod.
Mae wedi ennill capiau i'r timau ieuenctid, gan gynnwys y tîm dan-21, ac yn 2015 fe gafodd ei enwi yng ngharfan Chris Coleman.
"Roedd o ar y fainc i dîm cynta' Cymru ac aethon ni lawr i Gaerdydd i wylio'r gêm," meddai Alison.
"Ddoth o ddim ar y diwrnod yna ond o'n i mor prowd bod o ar y fainc i fod yn onest.
"Hwnna wan ydi'r aim [cynrychioli Cymru], hwnna mae o isio mwy na dim byd a - i fi'n bersonol - dwi'n meddwl neith o.
"Dyna sydd rhaid ni gyd feddwl rŵan, yn positif. Fel mae Jordan yn ddeud, does 'na'm isio edrych 'nôl rŵan - i ni gyd symud ymlaen a gobeithio neith bob dim ddod at ei gilydd.
"Dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn sylweddoli faint o waith caled mae o wedi rhoi mewn i fod lle mae o erbyn rŵan, ond dwi mor prowd ohono fo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2014