Covid-19 yn 'parhau i darfu' ar fyfyrwyr ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion sy'n cymryd profion TGAU a Safon Uwch yn gorfod hunan-ynysu wrth i achosion o Covid-19 barhau i darfu ar fywyd ysgol.
Athrawon sy'n pennu graddau'r haf wedi i arholiadau gael eu canslo ac mae nifer o ysgolion wedi trefnu asesiadau er mwyn casglu tystiolaeth.
Mae penaethiaid a disgyblion wedi codi pryderon am bwysau'r drefn.
Dywedodd y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru bod yna "hyblygrwydd" er mwyn sicrhau tegwch i bobl ifanc.
Pan wnaeth disgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd brofi'n bositif am Covid-19, bu'n rhaid danfon aelodau o'r chweched dosbarth adref yn ystod asesiadau pwysig.
Roedd y rhan fwyaf o'r disgyblion wedi gallu dychwelyd i'r ysgol a dim ond 18 oedd wedi gorfod hunan-ynysu.
Dywedodd y pennaeth, Iwan Pritchard bod hyn wedi cael effaith ar asesiadau, ond bod yr ysgol wedi gwneud trefniadau addas.
"Da ni'n sicr wedi rhoi pethe mewn lle fel bod e ddim yn amharu ar y disgyblion, ar raddau'r disgyblion yn y pendraw," meddai.
"Mae e'n mynd i neud y broses yn hirach, mae'n mynd i neud y broses o ran safoni a chymedroli'n hirach i athrawon oherwydd bydd y plant ddim wedi cwblhau'r holl asesiadau yr un pryd â phawb arall.
"Da ni'n fwriadol wedi rhagweld y problemau allai godi a wedi rhoi camau mewn lle ar gyfer hynny."
Gormod o bwysau ar staff
Mae pryderon wedi cael eu codi am y drefn eleni wrth i ysgolion a cholegau orfod pennu'r graddau, ond mae rhai penaethiaid ac undebau dysgu'n credu bod y pwyslais ar gasglu tystiolaeth yn rhoi gormod o bwysau ar staff a disgyblion.
Mae wedi golygu bod nifer o ysgolion a cholegau wedi cynnal cyfres o asesiadau ar ddechrau tymor yr haf.
Fe fydd disgyblion yn derbyn canlyniadau dros dro ym mis Mehefin, ac mae disgwyl mwy o fanylion ynglŷn â threfn apelio dadleuol o fewn y dyddiau nesaf.
Yn ôl mam o Sir y Fflint, sydd ddim eisiau rhoi ei henw, mae wedi bod yn gyfnod anodd i'w merch sy'n gwneud Safon Uwch ac yn enwedig i'w mab sy'n gwneud TGAU.
Bu'n rhaid iddo hunan-ynysu ar ôl i gyd-ddisgybl brofi'n bositif am Covid-19.
"Roedd i mewn am saith diwrnod, dechreuodd ei asesiadau ac yna cafodd ei anfon adref," meddai.
"Dydy o ddim yn gwybod os ydy o'n mynd neu dod.
"Mae fy mab yn sefyll arholiadau yn y bôn - maen nhw'n hen bapurau arholiad ond maen nhw yr un safon ag oedd yn cael ei ddisgwyl ddwy flynedd yn ôl.
"Alla i ddim gweld sut gallai hynny fod yn deg, pan nad ydyn nhw wedi cael y gefnogaeth roedd plant yn ei gael bryd hynny."
Profi disgyblion
Mae llawer llai o achosion o coronafeirws yn cael eu nodi gan ysgolion a cholegau ar hyn o bryd, gan adlewyrchu lefelau isel iawn y feirws yn y gymuned, er mae achosion unigol yn gallu arwain at grwpiau mwy yn gorfod hunan-ynysu.
Mae disgyblion oedran uwchradd wedi bod yn cymryd profion coronafeirws cyflym i geisio darganfod achosion heb symptomau.
Yn ôl data diweddara' Iechyd Cyhoeddus Cymru, o 12 Mai, roedd 152 o achosion wedi cael eu cofnodi gan ysgolion a cholegau yn ystod y 21 diwrnod blaenorol - sy'n sylweddol is na'r ffigwr uchaf fis Rhagfyr.
Dywedodd Cadeirydd Cymwysterau Cymru, David Jones bod y drefn yn "hyblyg dros ben".
"Dyna oedd y bwriad o'r man cychwyn," meddai, "i roi'r myfyrwyr, y dysgwyr yn gyntaf - ac i 'neud yn siŵr bod yr hyblygrwydd yma yn gwneud yn siŵr bod chwarae teg iddyn nhw i gyd."
Dywedodd bod yna heriau ond bod popeth mewn lle er mwyn sicrhau bod y drefn yn gweithio i ddisgyblion.
"Mae pob siawns haf yma i neud yn siŵr fydd y canlyniadau yn rhai dilys i'r bobl ifanc ac mae rhan gan bawb i chwarae - yr athrawon, penaethiaid y colegau a'r ysgolion - i wneud yn siŵr fo' nhw'n cyd-fynd hefo'r canllawiau am asesu yr haf yma hefyd."
'Ni angen ymddiried yn ein hathrawon'
Mae Manon, 17 oed o Gaerdydd, ym Mlwyddyn 12 ac yn astudio am ei Safon Uwch.
Mae hi eisoes wedi gwneud chwech asesiad tymor yma ac mae saith ar ôl ganddi.
Roedd hi'n rhan o ymgyrch ddechrau'r flwyddyn i gael gwared ar y drefn asesiadau allanol gafodd ei rhoi mewn lle ar ôl canslo arholiadau.
Fe ganslwyd rheiny, ac mae Manon yn credu bod y drefn bresennol yn decach i ddisgyblion ond ddim chwaith yn ddi-fai.
"Mae 'na deimlad gydag ysgolion gwahanol bod na anghysondeb - o ran falle pa fath o asesiad dwi'n mynd i gael - ond sai'n meddwl bo hwnna o reidrwydd yn fai yr athrawon.
"Mewn gwirionedd fi'n meddwl mai'r diffyg gwybodaeth ar ddechrau'r flwyddyn oedd bron yn gorfodi'r athrawon i ddweud 'dyma be ni angen gwneud' oherwydd o'n nhw angen gwneud penderfyniadau'n gyflym," meddai.
"Felly ma 'na bach o deimlad o anghysondeb ond ar yr un tro, ni angen ymddiried yn ein hathrawon bod y safoni'n mynd i fod yn iawn."
Dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Iwan Pritchard, bod y system bresennol yn "amherffaith" ond mai'r nod oedd sicrhau tegwch i blant.
Ychwanegodd bod y cyfnod wedi bod yn "anodd iawn" i'r disgyblion o ran eu lles.
"Mae lles y disgyblion angen bod yn flaenoriaeth dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf a byddwn ni dal yn gweld effeithiau'r pandemig mewn amser hir i ddod," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2021