Trefn graddau ysgol 'ar draul lles disgyblion'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Willows CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gormod o bwysau ar ddisgyblion ac ysgolion yn sgil y drefn ar gyfer penderfynu graddau TGAU a Safon Uwch, yn ôl penaethiaid ac undebau.

Ysgolion a cholegau fydd yn pennu'r graddau eleni ond mae 'na bryder y gallai'r canllawiau olygu gorlwytho myfyrwyr gydag asesiadau er mwyn casglu tystiolaeth.

Mae undeb athrawon UCAC wedi ysgrifennu at y gweinidog addysg a'r Comisiynydd Plant i fynegi "pryder difrifol" am y sefyllfa.

Dywedodd bwrdd arholi CBAC a'r rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru bod gan ysgolion a cholegau hyblygrwydd wrth ddewis tystiolaeth.

'Ar draul lles disgyblion'

Yn ôl Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin mae'r system yn "eithaf cymhleth" a "biwrocrataidd".

Bydd canlyniadau TGAU, AS a Safon Uwch yn cael eu penderfynu gan athrawon ar sail gwaith sy'n cael ei wneud yn ystod y cwrs ar ôl i arholiadau ffurfiol gael eu canslo.

Ond yn ôl Dr Jones er bod y graddau'n cael eu pennu gan yr ysgol mae yna bwyslais sylweddol ar gasglu tystiolaeth i gyfiawnhau'r graddau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r system newydd yn "hirach a mwy beichus i ysgolion", meddai Dr Llinos Jones

"Maen nhw'n gofyn bod unrhyw radd sy'n cael ei ddyfarnu gan yr ysgol yn cael ei ategu gan dystiolaeth gadarn i ddangos cyrhaeddiad myfyriwr ar draws eu pynciau, felly mae mwy o bwyslais ar y dystiolaeth eleni na beth oedd llynedd," meddai.

Dywedodd bod ysgolion wedi casglu tystiolaeth am gyrhaeddiad disgyblion er gwaethaf y cyfnod o ddysgu o bell, ond bod rhaid ategu hynny gydag asesiadau yn yr ystafell ddosbarth ar ôl y Pasg.

Y bwriad yn yr ysgol fydd cynnal "asesiadau bach byr" o fewn oriau gwersi'r disgyblion yn hytrach nag arholiadau mwy ffurfiol.

"Ein gofid ni fel ysgolion yw bod 'na ormod o bwyslais yn mynd i fod ar hyn, a hynny ar draul iechyd a lles ein disgyblion ni," meddai.

'Angen mwy o hygrededd i athrawon'

Dywedodd hefyd y byddai'r system newydd yn "hirach a mwy beichus i ysgolion" wrth orfod ymateb i apeliadau posib gan ddisgyblion pan gawn nhw eu canlyniadau dros dro ym mis Mehefin.

Caiff y canlyniadau ffurfiol eu cyhoeddi fis Awst.

Mae Dr Jones yn teimlo bod angen rhoi "mwy o hygrededd i waith athrawon".

"Unwaith eto 'da ni'n teimlo ein bod ni dan warchae mewn ffordd a bod 'na bwysau mas yna, bo nhw ddim yn credu'r hyn sydd gyda ni, ein barn broffesiynol ni fel athrawon," meddai.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, bod angen i ysgolion a cholegau gasglu tystiolaeth fel y gallan nhw wneud penderfyniadau cadarn am raddau i'w myfyrwyr.

"Rydyn ni eisiau bod yn glir iawn bod llawer iawn o hyblygrwydd o ran sut maen nhw'n mynd ati i wneud hyn," meddai.

"Gellir defnyddio tystiolaeth sydd wedi ei gynhyrchu yn ystod y cwrs cyn belled ei fod yn waith y dysgwr ei hun ac yn cynrychioli eu cyrhaeddiad ar ddiwedd y cwrs.

Dywedodd Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan y gallai ysgolion a cholegau ddewis tystiolaeth o "ystod eang o ffynonellau gan gynnwys tasgau wedi eu creu gan y ganolfan, cyn-bapurau wedi'u haddasu, a gwaith cwrs".

"Fe fyddwn ni'n parhau i gydweithio â'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni a Chymwysterau Cymru i gyflwyno dull hyblyg a theg, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael graddau dilys, credadwy a dibynadwy'r haf hwn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cael canlyniadau'n gynt na'r arfer yn well, ond bydd yr wythnosau nesaf yn "heriol", meddai Lleucu

Mae Lleucu, 17, sy'n astudio am bedwar Safon Uwch a'r Fagloriaeth, yn dweud ei bod "ychydig yn bryderus" achos bod "cymaint o ansicrwydd".

"Dwi'n credu bod fy ysgol i wedi bod yn grêt o ran rhoi'r ddarpariaeth o beth maen nhw'n gwybod a rhoi hwnna'n syth i ni," meddai.

"Ni wedi cael amserlen o'r gwersi sydd i ddod dros y saith wythnos nesa' ac mae hynna wedi helpu ond dros y Pasg nawr fydd rhaid paratoi ar gyfer yr asesiadau yma sydd yn edrych mwy fel arholiadau yn y dosbarth erbyn hyn, felly fi'n credu bod lot o waith o'n blaenau," meddai.

"Dwi'n credu bod e'n beth da bo' ni'n cael y canlyniadau'n gynharach blwyddyn yma oherwydd mae wedi bod yn flwyddyn heriol.

"Felly dwi'n siŵr bydd adeg yr haf yn un hapus i ni ddisgyblion o ran llai o bwysau ond dwi'n credu bydd y saith wythnos nesa'n heriol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca Williams o UCAC bod gan aelodau bryderon "gwirioneddol am les eu disgyblion"

Mae undebau dysgu'n dweud bod y sefyllfa yn destun pryder i aelodau ledled Cymru.

"Mae lefel y pryder yn uchel oherwydd mae hyn yn annisgwyl iddyn nhw," meddai swyddog polisi UCAC, Rebecca Williams.

"Roedden nhw'n meddwl bod nhw'n gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd ond mae hyn yn bur wahanol ac maen nhw'n poeni'n wirioneddol am les eu disgyblion nhw.

"Maen nhw'n gweld hyn yn ormod mewn amser byr ac yn annisgwyl - bod e'n rhy debyg mewn gwirionedd i gyfnod arholiadau allanol traddodiadol ond gyda llawer llai o rybudd ac yn dilyn cyfnod sydd wedi bod yn heriol i bawb hefyd."

Pynciau cysylltiedig