Apêl wedi i garafanau gael eu dwyn yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
CaernarfonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gyrwyr oedd yn tynnu'r carafanau eu stopio yng Nghaernarfon

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod wedi arestio un dyn ac yn chwilio am ddau berson arall wedi i garafanau gael eu dwyn yn y gogledd dros nos.

Yn gynnar fore Gwener roedd yna rybudd i yrwyr osgoi Ffordd y Gogledd yng Nghaernarfon wedi i blismyn stopio cerbydau 4x4 a oedd yn tynnu'r carafanau.

Credir bod dau berson wedi dianc mewn pedwerydd cerbyd a bod platiau adnabod y ceir, o bosib, wedi cael eu newid.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod chwe charafán wedi'u dwyn i gyd

Dywedodd yr Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: "Ry'n yn parhau i geisio canfod pwy yw perchnogion y carafanau.

"Ry'n yn ymwybodol bod y digwyddiad yn rhan o weithred ar y cyd lle cafodd o leiaf chwe charafán o ogledd Cymru eu dwyn dros nos.

"Mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu bod hi'n drosedd sydd wedi'i threfnu gan gang o bobl a deithiodd yn benodol i'r gogledd er mwyn dwyn carafanau.

"Ry'n yn gofyn i berchnogion carafanau a safleoedd gwersylla i adolygu eu trefniadau diogelwch yn sgil y troseddau yma. Ry'n hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau fideo o ffyrdd yr A499 a'r A487 rhwng hanner nos a 07:00, fore Gwener i gysylltu â ni ar 101 gan nodi cyfeirnod Z066677."

Pynciau cysylltiedig