Y llywodraeth i dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol

  • Cyhoeddwyd
arianFfynhonnell y llun, PA

Bydd llywodraeth Cymru yn treialu talu Incwm Sylfaenol Cyffredinol i bawb sy'n golygu y bydd pob dinesydd, beth bynnag ei sefyllfa ariannol, yn derbyn swm cyson o arian i dalu am gostau byw sylfaenol.

Dywed y prif weinidog y bydd peilot yn cael ei gynnal "er mwyn canfod a yw addewidion incwm sylfaenol yn cael eu gwireddu" ym mywydau pobl.

Ond mae'r Ceidwadwyr yn mynnu y gallai cynllun o'r fath wneud tlodi yn waeth.

Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai'r cynllun peilot yn cael ei "gynllunio yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn dod â mwy o incwm i'r grŵp o bobl ry'n ni'n medru cydweithio â nhw."

Ychwanegodd: "Bydd yn rhaid iddo fod yn gynllun peilot gan nad oes gennym ddigon o bwerau i'w gynnal ar ein pennau ein hunain.

"Bydd rhaid sicrhau ei fod yn gynllun fforddiadwy a'i fod yn cael ei weithredu o fewn y pwerau sydd gan y Senedd.

"Bydd rhaid i ni ei gynllunio yn fuan er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cael ei weithredu fel peilot a bod modd i ni ddod i gasgliadau yr ydym i gyd eisiau eu gweld," meddai Mr Drakeford.

'Gwneud gwahaniaeth'

Eisoes mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi galw am gynllun o'r fath a dywed ei bod yn croesawu bwriad y llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Sophie Howe
Disgrifiad o’r llun,

'Mae treialu'r cynllun yn gam anferth ymlaen,' medd Sophie Howe

Dywedodd Sophie Howe: "Mae sicrhau incwm sylfaenol fel blaenoriaeth yn gam arwyddocaol gan y llywodraeth newydd i daclo tlodi ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru - elfennau sy'n effeithio ar iechyd hir dymor a dyfodol teuluoedd a chymunedau.

"Mae'n gam anferth ymlaen i'r ymgyrch rwy' i wedi bod mor falch i fod yn rhan ohoni - ac yn ffordd decach o sicrhau fod pobl yn cwrdd â gofynion sylfaenol.

"Dyw'r system bresennol ddim yn gweithio - mae ymrwymiad Cymru i gael cynllun o'r fath yn dangos y gall gwledydd bach fod yn arwain y byd ac yn gwneud y newidiadau mwyaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid y cynllun ond y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu

Yn eu maniffesto fe wnaeth Plaid Cymru gefnogi cynllun peilot ar gyfer Incwm Sylfaenol Cyffredinol gan ddadlau bod "cyflwyno ISC mewn gwledydd eraill wedi gweld cyflogaeth yn cynyddu, yn ogystal â gwella iechyd pobl a chynyddu hyder a chymhelliant unigolion".

Cyn yr etholiad dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru eu bod nhw hefyd yn cefnogi cynllun peilot gan fod y blaid yn credu bod "Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn lleihau anghydraddoldebau, yn gwella lles ac yn cryfhau economi leol".

'Nid dyma'r ateb'

Ond dywed llefarydd ar ran Ceidwadwyr Cymru: "Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn bendant nad sicrhau ISC yw'r ateb i dlodi - mae'r sefydliad yn dweud y gall cynllun o'r fath gynyddu tlodi.

"Rhaid i'r prif weinidog roi hwb i'r economi, gan greu swyddi da, hir-dymor i bobl."

Mewn blog yn 2018 nododd Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Rowntree, Chris Goulden nad yw ISC yn gynllun fforddiadwy ac nad yw'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei gymeradwyo am ei fod yn cael ei weld "fel arian am ddim". Dywedodd hefyd ei fod yn cynyddu tlodi oni bai ei fod yn cael ei newid yn ddirfawr.