Marwolaeth peiriannydd: Honiadau o 'fethiannau systemig'

  • Cyhoeddwyd
Cpl Jonathan BaylissFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Cpl Jonathan Bayliss yn y digwyddiad ym mis Mawrth 2018

Mae teulu peiriannydd y Red Arrows a gafodd ei ladd ar ôl damwain awyren angheuol yng ngogledd Cymru yn dweud eu bod nhw'n credu y cafodd "methiannau systemig" effaith ar y digwyddiadau arweiniodd at ei farwolaeth.

Bu farw Corpral Jonathan Bayliss, 41, ym mis Mawrth 2018 ar ôl i'w awyren Hawk yr oedd yn teithio arni daro'r llain lanio ym maes awyr Y Fali ar Ynys Môn.

Goroesodd yr Awyr-Lefftenant Stark, oedd hefyd yn yr awyren, ar ôl llwyddo ymdaflu o'r awyren.

Gwrthododd cyfreithwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yr honiadau mewn cwest ddydd Gwener, a bydd cwest llawn nawr yn cymryd lle yn yr hydref.

Ond yn siarad trwy linc fideo i'r gwrandawiad yng Nghaernarfon, dywedodd tad Cpl Bayliss wrth y crwner ei fod yn credu bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi "methu darparu'r wybodaeth berthnasol i'r rheiny sydd angen ei wybod".

Dywedodd aelod arall o'r teulu bod y Corpral wedi bod yn yr awyren heb ffordd o ymdaflu.

Dywedodd chwaer Cpl Bayliss, Gayle Todd: "Rydyn ni'n teimlo roedd problemau systemig. Gall y digwyddiad fod wedi digwydd heb golled bywyd fy mrawd os fyddai gweithdrefnau gwell a mesurau diogelwch wedi cael eu rhoi mewn lle."

Ffynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd yr Awyr-Lefftenant David Stark i ymdaflu o'r awyren a goroesodd y ddamwain

Dywedodd cyfreithiwr sy'n cynrychioli'r peilot roedd yna "fethiant i'r system" ac achosodd peryg i'r bobl yn yr awyren, gan ychwanegu y "dylai'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn ymwybodol o hynny".

Yn ôl ymchwiliad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn i'r digwyddiad, gadawodd yr awyren Y Fali gyda'r bwriad o ddynwared injan oedd wedi methu, cyn teithio ymlaen i Sir Lincoln.

Yn ystod yr ymarfer, methodd injan yr awyren a bu gwrthdrawiad yn agos i'r llain lanio gan fod yr awyren yn hedfan yn rhy isel.

Fe wnaeth ymchwiliad ddod i'r canlyniad bod yr Awyr-Lefftenant Stark bron yn bendant yn flinedig pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Ychwanegodd panel yr ymchwiliad gall ei flinder wedi effeithio ar ei benderfyniadau a'i amser ymateb yn ystod adegau allweddol y ddamwain.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y ddamwain yn Y Fali ar Ynys Môn ym mis Mawrth 2018

Ond fe ddywedodd Charlotte Law, cwnsler cyfreithiol i'r peilot, mai'r prif reswm am y gwrthdrawiad oedd yr injan yn methu, ond bod mwy i'r stori: "Dim hwnna yw diwedd y stori. Mae angen gofyn pam ddigwyddodd hynny?"

Dywedodd gall bodiau mwg oedd wedi eu cysylltu i'r awyrennau'n fod wedi "cuddio" dirgryniad a oedd fod rhybuddio bod yna broblem.

Yn cynrychioli'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn y cwest, dywedodd Edward Pleeth bod y digwyddiad wedi cael ei achosi gan yr injan yn methu, a doedd dim tystiolaeth o fethiannau "systemig".