Frankie Morris: Chwilio am feiciwr wedi diflaniad dyn 18 oed
- Cyhoeddwyd

Yn ôl yr heddlu fe allai'r beiciwr "fod a gwybodaeth allai fod o gymorth" iddyn nhw
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ddiflaniad Frantisek "Frankie" Morris yn awyddus i ddod o hyd i feiciwr a allai fod â gwybodaeth a allai eu helpu.
Mae'r llu wedi rhyddhau lluniau o unigolyn y maen nhw'n awyddus i siarad ag e.
Mae'r heddlu hefyd yn awyddus i siarad â thri beiciwr gwrywaidd a gafodd eu gweld ar bont ger y Vaynol Arms, Pentir tua 13:40 ddydd Sul 2 Mai.
Dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn: "Ers lansio'r cysylltiad uniongyrchol hon yr wythnos hon, rydym wedi derbyn sawl adroddiad defnyddiol a darnau o wybodaeth, y mae fy nhîm yn eu hasesu ar hyn o bryd."
"Rydyn ni'n apelio ar i unrhyw un a oedd yn y digwyddiad yn chwarel Waunfawr ddydd Sadwrn i gysylltu â ni, yn ddienw os yw'n well gennych.

Roedd Frankie Morris wedi bod mewn parti mewn chwarel ger Waunfawr cyn iddo ddiflanu
Cafodd Frankie ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng yn gwthio ei feic ger y Vaynol Arms
Mae mwy na 30 o swyddogion wedi cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ, ac mae arbenigwyr wedi bod yn adolygu lluniau teledu cylch cyfyng rhwng Pentir a Bangor.
"Mae gennym hefyd dîm o 20 o dditectifs sy'n ymroddedig i'r ymchwiliad hwn, ac rydym yn parhau i gefnogi teulu Frankie trwy ein swyddogion cyswllt teulu arbenigol," meddai'r Prif Arolygydd Llewelyn.
Dywedodd brawd Frankie, Robin, fod y teulu, o Llandegfan, Ynys Môn, "mewn trallod" yn dilyn ei ddiflaniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021