Cwpan yr Enfys: Dreigiau 26-42 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Justin Tipuric a Morgan MorrisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Justin Tipuric yn cynorthwyo Morgan Morris i dirio'r bêl dros y llinell i'r Gweilch

Mae'r Gweilch wedi sicrhau eu hail fuddugoliaeth yng Nghwpan yr Enfys gyda buddugoliaeth, a phwynt bonws yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade.

Ymhlith chwaraewyr y Gweilch oedd dau a fydd yn teithio gyda'r Llewod yr haf hwn - Alun Wyn Jones a Justin Tipuric - tra bod y clo Bradley Davies wedi dechrau ei gêm gyntaf i'r Gweilch ers mis Tachwedd 2020.

Roedd yna gais yr un i Dewi Cross, Morgan Morris, Reuben Morgan-Williams, Dan Evans a Max Nagy, ynghyd â 17 pwynt gan Luke Price i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Gweilch.

Cafodd Jonah Holmes ddau gais i'r Dreigiau, ac fe ychwanegodd Dan Baker a Rio Dyer at eu sgôr hefyd, ond roedd y gwyr o'r gorllewin yn drech na nhw.

Mae'r Gweilch yn symud i fyny i drydydd yn y tabl y tu ôl i Benetton o'r Eidal.

Hon oedd y gêm rygbi olaf ar gae Rodney Parade y tymor hwn, gyda'r Dreigiau'n chwarae yn erbyn Glasgow yn Stadiwm Dinas Caerdydd y mis nesaf oherwydd bod y cae yn cael ei ail-osod yng Nghasnewydd.

Pynciau cysylltiedig