Carchar am oes i ddyn o Abertawe am lofruddio ei bartner
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu am oes am guro ei bartner i farwolaeth mewn "ymosodiad ffyrnig a didrugaredd".
Clywodd llys fod Jonathan Campbell, 37, wedi ymddwyn mewn modd treisgar tuag at Helen Bannister am flynyddoedd cyn yr ymosodiad angheuol ar 1 Rhagfyr, 2020.
Bu farw'r fam i ddau, oedd yn 48 oed, o chwyddiadau i'r ymennydd pum diwrnod yn ddiweddarach.
Fe wnaeth Campbell o Heol Waun-Wen yn ardal Mayhill bledio'n euog i lofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe, gan ddweud iddo golli ei dymer gan gyhuddo ei bartner o fod yn anffyddlon.
Hanes o drais
Clywodd y llys fod gan Campbell hanes o drais yn erbyn menywod.
Roedd yna dri achos blaenorol yn ei erbyn, gan gynnwys un o drais yn erbyn Ms Bannister yn 2017.
Roedd y cwpl wedi bod mewn perthynas am bum mlynedd.
Yn ôl Christopher Clee QC, ar ran yr erlyniad, fe wnaeth Campbell ffonio am ambiwlans ar ôl yr ymosodiad.
Dywedodd iddo wedyn fynd allan a phrynu dau fotel o win cyn cwrdd â menyw arall a threulio'r diwrnod yn cerdded o amgylch ardal y Marina yn "smocio canabis ac yfed alcohol".
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ddod o hyd i Ms Bannister yn gorwedd ar ei chefn ar soffa, yn anymwybodol a gydag anafiadau sylweddol.
Cafodd Campbell ei arestio'r noson honno, gan ddweud ei fod wedi taro hi ddwywaith gyda'i ben. Yna ar ôl methu cael ymateb, roedd wedi ei dadwisgo, ei rhoi yn y bath er mwyn ceisio cael ymateb.
Fe wnaeth archwiliad post-mortem ganfod fod ei hymennydd wedi chwyddo ac wedi gwaedu, roedd yna anafiadau hefyd i'w phen, ei hasennau a'i gwddw.
Mewn datganiad dioddefwr i'r llys dywedodd Sarah Jane Bannister fod ei mam wedi bod yn berson "ifanc ei chalon ac yn llawn bywyd".
"Roeddwn wedi erfyn arni i adael Campbell ond wnaeth hi ddim gwrando. Mae e' wedi dwyn fy nyfodol gyda fy mam."
Dywedodd merch arall Ms Bannister, Stacey Harris, ei fod yn gwybod fod Campbell yn dreisgar tuag at ei mam, a bod hynny wedi niweidio ei pherthynas hi gyda'i mam.
"Roeddwn eisiau iddi fod yn rhan o fy mywyd i, a bywyd fy mhlant, ond doedd hynny ddim yn bosib oherwydd fod Campbell yno," meddai.
Mewn datganiad ar ôl yr achos dywedodd y teulu: "Mae ein bywydau wedi eu newid a'u chwalu. Mae beth sydd wedi digwydd yn mynd i'n heffeithio am weddill ein bywydau.
"Bydd y ddedfryd i Campbell byth yn ddigon a bydd e' ddim yn dod a mam yn ôl."
Wrth ddedfrydu Campbell i o leiaf 18 mlynedd o garchar dywedodd y barnwr Paul Thomas fod Campbell wedi cynnal "ymosodiad didrugaredd, meddw a ffyrnig".
Ar ôl yr ymosodiad fe "wnaethoch ei gadael yn anymwybodol, ar ben ei hun, heb help ac yn marw".
"Fe wnaethoch flaenoriaethau prynu dau fotel o win ac yno fe wnaethoch gwrdd â menyw arall."