Nyrs mewn braw o weld cyflwr claf o gartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Dorothea HaleFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Dorothea Hale nifer o friwiau ac yn dioddef effeithiau sychder a diffyg maeth pan fu farw yn 2007

Clywodd cwest fod nyrs wedi cael cymaint o fraw o weld cyflwr gwraig oedrannus pan gafodd ei derbyn i'r ysbyty, nes ei bod wedi gofyn i'w merch: "Be' wnaethon nhw i'ch mam yn y cartref gofal 'na?".

Roedd Catherine Cawte yn rhoi tystiolaeth yn y cwest i farwolaeth ei mam, Dorothea Hale, a oedd yn un o breswylwyr cartref gofal Grosvenor, Abertyleri o fis Gorffennaf i fis Tachwedd 2006.

Disgrifiodd Mrs Cawte ei mam fel ei "ffrind gorau", a dywedodd bod ei hwyrion a'i hwyresau yn ei "haddoli".

Roedd Mrs Hale, 75, wedi cael ei symud i'r cartref ar ôl dioddef strôc ddifrifol ddyddiau'n unig ar ôl cael llawdriniaeth ar ei chalon, a oedd yn golygu ei bod angen gofal parhaus.

'Trist a diobaith'

Dywedodd Catherine Cawte nad oedd Mrs Hale yn ymddangos yn hapus, pan ymwelodd â hi am y tro cyntaf.

"Roedd hi'n edrych fel person gwahanol. Roedd hi wedi heneiddio'n barod. Roedd hi'n crïo - roedd hi'n edrych yn drist a diobaith," meddai.

Daw'r cwest yn sgil Ymgyrch Jasmine - ymchwiliad £11.6m gan Heddlu Gwent i esgeulustod honedig mewn nifer o gartrefi gofal yn y de ddwyrain rhwng 2005 a 2009.

Dros gyfnod o saith mlynedd edrychodd yr ymchwiliad ar 63 o farwolaethau, gan gymryd 4,126 o ddatganiadau, ond chafodd neb ei erlyn.

Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys cartref gofal Brithdir yn Nhredegar Newydd. Mewn cwest ym mis Mawrth cafodd y safonau yno eu disgrifio fel rhai "cwbl annigonol".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei merch nad oedd Dorothea Hale yn hapus yn y cartref gofal

Dywedodd Catherine Cawte y byddai Dorothea Hale yn eistedd yn yr un gadair "ddydd ar ôl dydd".

Mae Mrs Cawte yn nyrs gofrestredig, ond wnaeth hi ddim dweud hynny wrth staff y cartref rhag ofn iddynt deimlo ei bod hi'n eu barnu nhw, meddai.

Ym Medi 2006, dywedodd staff bod Mrs Hale yn ei gwely am bod ganddi ddolur pwyso, a gofynnodd Mrs Cawte am ei weld, gan ddatgelu ei bod yn nyrs.

"Doedd o ddim yn rhywbeth yr oeddwn yn poeni'n ofnadwy amdano. Roedd y croen wedi torri ychydig. Doeddwn i ddim yn poeni nad oedd posib ei drin a'i wella," meddai.

Cyn hir, dywedwyd wrth y teulu bod y briw wedi gwella, ac aeth Mrs Hale yn ôl i'w harfer o eistedd yn ei chadair yn lolfa'r cartref.

Disgrifiodd Mrs Cawte ddigwyddiad arall ddiwedd mis Hydref pan oedd ei mam yn ei gwely unwaith eto, a dywedwyd wrthi bod ganddi ddolur rhydd.

"Roedd yna arogl dychrynllyd yn ei hystafell," meddai, ac ychwanegodd bod ffan ymlaen, persawr aer wedi cael ei chwistrellu, a'r ffenestr ar agor.

'Marw o flaen fy llygaid'

Dywedodd Mrs Cawte ei bod hi'n credu'n ddiweddarach bod yr arogl yn dod o'r dolur pwyso a oedd ar waelod cefn ei mam - rhywbeth nad oedd y teulu'n ymwybodol ohono.

Erbyn canol Tachwedd roedd cyflwr Mrs Hale wedi dirywio, a mynnodd Mrs Cawte bod y staff yn galw ar feddyg teulu, a dyna pryd y cafodd ei derbyn i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.

"Roedd hi'n marw o flaen fy llygaid," meddai Mrs Cawte wrth y cwest yng Nghasnewydd.

"Dwi'n cofio bod yno hefo fy nhad a'm brawd yn aros am beth amser, a dwi'n cofio nyrs yn dod atom ac yn dweud rhywbeth fel 'Be wnaethon nhw i'ch mam yn y cartref gofal 'na? Mae ganddi ddoluriau pwyso, ac mae'r tiwb bwydo yn fudr ac wedi blocio'."

"Dwi'n cofio mai dyna oedd y ffocws ac na fyddai mam yn byw drwy'r penwythnos am ei bod mewn iechyd mor ddrwg.

"Fe gawsom hefyd wybod ei bod dioddef effeithiau sychder a diffyg maeth."

Bu farw Dorothea Hale yn yr ysbyty saith wythnos yn ddiweddarach, ar 6 Ionawr 2007.

Mae disgwyl i'r cwest barhau am bedair wythnos.

Pynciau cysylltiedig