Ymgyrch Jasmine: 'Angen cynnal cwestau newydd'

  • Cyhoeddwyd
Adroddiad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adroddiad Dr Margaret Flynn ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd cwestau'n cael eu cynnal i nifer o farwolaethau fel rhan o adolygiad i gam-drin honedig mewn cartrefi gofal yn ne Cymru.

Roedd chwech o gartrefi gofal yn destun ymchwiliad Heddlu Gwent ddechreuodd yn 2005 o dan yr enw Ymgyrch Jasmine.

Fe gostiodd yr ymgyrch £15 miliwn.

Yn ôl adroddiad Dr Margaret Flynn, gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, roedd nifer o ddarparwyr gofal ddim yn ymateb i anghenion pobl hŷn.

Dywedodd yr adroddiad y dylai un o berchnogion y cartrefi dan sylw, Dr Prana Das, fod wedi cael ei erlyn.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Mr Jones ddiweddariad manwl yn sgil adroddiad Dr Flynn.

Crwner

Un o'r argymhellion oedd y dylid cynnal cwestau i farwolaethau Stanley Bradford, Megan Downs, Edith Evans, Ronald Jones ac eraill.

Dywedodd Mr Jones, sy' wedi cysylltu gyda Chrwner Gwent, David Bowen: "Mewn achosion lle mae gan Mr Bowen awdurdodaeth, a lle mae'r gyfraith yn galw am hynny, fe fydd cwestau'n cael eu cynnal ac mae e'n anelu at hynny."

Ond dywedodd Mr Jones fod y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Alison Saunders, wedi dweud wrtho "nad oedd angen" cyfeirio'r achos yn ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron.

Yn 2013 daeth yr achos yn erbyn perchennog dau o'r cartrefi dan sylw, Dr Prana Das, i ben pan ddioddefodd Dr Das anaf difrifol i'w ymennydd yn dilyn ymosodiad gan ladron.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth achos yn erbyn Dr Prana Das i ben wedi iddo gael anafiadau i'w ymennydd