Cyhuddo dyn o Abertawe o fod yn aelod o grŵp terfysgol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei gyhuddo am ei fod yn parhau i fod yn aelod o'r grŵp eithafol asgell dde, National Action - gweithred sydd bellach wedi'i gwahardd.
Honnir i Alex Davies, 26, o Abertawe fod yn rhan o'r sefydliad rhwng Rhagfyr 2016 a Medi 2017.
Daeth National Action i fodolaeth yn 2013, gyda Mr Davies yn un o'r rhai a'i sefydlodd, ond cafodd y grŵp ei wahardd fel sefydliad terfysgol dair blynedd wedi hynny.
Mae disgwyl i Mr Davies ymddangos gerbron llys ynadon Westminster ar 26 Mai.
Cafodd ei gyhuddo nos Fawrth gan dditectifs o Uned Heddlu Gwrth-Derfysgaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr.