Covid: Dicter merch dros fanylion marwolaeth ei mam

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
L-R Alex Gardner Hughes (Violet’s grand-daughter; Violet; SuzanneFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Alex Gardner Hughes (wyres Violet), Violet a Suzanne

Mae menyw a gollodd ei mam i Covid yn dweud fod "diffyg gwybodaeth am ei marwolaeth" gan yr awdurdod iechyd wedi ei gadael yn teimlo yn "ddiymadferth" ac yn methu galaru yn iawn.

Bu farw Violet Hughes, 82 oed, yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful ym mis Medi.

Dywed ei merch Suzanne nad oedd wedi cael gwybod am union fanylion ei thriniaeth, amser ei marwolaeth ac a oedd hi ar ben ei hun pan fu farw.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod wedi ymroi i "ddysgu gwersi" o'r pryderon sydd wedi eu mynegi gan deuluoedd.

Dywedodd Suzanne ei fod am i'r ymchwiliad cyhoeddus i Covid edrych ar y modd mae ysbytai yn cyfathrebu gyda theuluoedd sydd wedi eu heffeithio.

Roedd ei mam yn dioddef o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac roedd ei harennau hefyd yn methu ac roedd wedi bod yn yr ysbyty o'r blaen.

Yn ôl Suzanne roedd yr ysbyty wedi cysylltu â hi i ddweud eu bod wedi gosod nodyn i beidio adfywio -gorchymyn DNR - ar ei mam.

Ond cafodd hefyd wybod eu bod o'r farn y byddai Violet yn cryfhau ac felly nad oeddent am weithredu cynllun diwedd oes. Oherwydd hynny, nid oedd rheolau Covid yn caniatáu i Suzanne allu ymweld â'i mam.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzanne Hughes yn pwyso am fanylion triniaeth ei mam cyn iddi farw

Galwodd Suzanne yr ysbyty sawl gwaith yn ystod y dydd ond cafodd wybod fod ei mam yn "iawn" ac yn eistedd fyny yn y gwely.

Pan alwodd eto tua 17:20, cafodd wybod bod Violet wedi profi'n bositif i Covid-19 a'i bod yn iawn ac yn derbyn ocsigen.

Yna 90 munud yn ddiweddarach, cafodd alwad arall yn dweud iddi ddod i'r ysbyty gan fod ei mam wedi dirywio.

Erbyn iddi gyrraedd yr ysbyty roedd ei mam wedi marw.

"Roedd mam yn oer, a di-liw," meddai.

"Gofynnais pryd y bu hi farw, dywedodd aelod o'r staff nad oedd yn gallu rhoi'r wybodaeth i mi.

"Dywedodd fod y nyrs oedd yn gyfrifol am fy mam wedi mynd adre.

"Felly gofynnais mae'n rhaid bod yna rhyw fath o negeseuon wedi cael eu trosglwyddo am fy mam a dywedodd 'o dwi ddim yn gwybod dim, dwi newydd ddod i'r ward'."

Doedd dim amser wedi ei roi ar gyfer y farwolaeth, ac roedd y nodiadau am ei oriau olaf yn wag o 14:00 ymlaen.

'Diffyg urddas'

Yr unig wybodaeth oedd nodyn yn dweud fod Suzanne wedi cael gwybod am y prawf Covid positif.

Dywed Suzanne ei fod yn ofnadwy o beth nad oedd yn gallu cael gwybodaeth ynglŷn ag a gafodd unrhyw driniaeth ar gyfer coronafeirws ei roi.

"Dwi ddim yn teimlo fod yna unrhyw urddas. Doedd yna ddim parch i ni fel teulu, nac i fy mam.

"Mae'r effaith yn un mor emosiynol. A oedd fy mam ar ben ei hun, a oedd unrhyw un gyda hi? Mae'r peth yn chwarae ar ein meddyliau.

"Rwy'n meddwl os byddant wedi rhoi mwy o driniaeth Covid o bosib byddai wedi cael ychydig yn fwy o amser gyda'i theulu."

Ymateb y bwrdd iechyd

Dywedodd Greg Dix, cyfarwyddwr nyrsio a gofal cleifion Cwm Taf Morgannwg: "Tra nad ydym yn gallu gwneud sylw am amgylchiadau achosion unigol, mae colli anwyliaid yn amser torcalonnus i unrhyw deulu ac rydym yn cydymdeimlo a nhw.

"Rydym yn cymryd safon gofal a thriniaeth yn hynod ddifrifol ac yn ymddiheuro i unrhyw un sy'n teimlo eu bod wedi eu siomi gan y bwrdd iechyd neu fod y lefel o ofal wedi bod yn is na'r disgwyl.

"Rydym wedi ymroi i ddysgu gwersi o gyfnod y pandemig yn ogystal â phrofiadau unrhyw gleifion neu deuluoedd sy'n codi pryderon, fel ein bod yn gallu gweithio i wella safon y gofal."