Galw am ymchwiliad i'r drefn o roi gorchmynion DNR

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Betty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Betty Williams yn cynrychioli Conwy rhwng 1997-2010

Mae cyn aelod seneddol Conwy yn galw am ymchwiliad yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn sgil pryder cynyddol am y defnydd o orchmynion i beidio adfywio cleifion difrifol wael yn ystod y pandemig.

Dywed Betty Williams i'w gŵr Evan farw yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor fis Ebrill diwethaf ar ôl dal yr haint, tua phythefnos ar ôl cael ei daro'n wael.

Dywedodd nad oedd neb wedi cysylltu â hi ynglŷn â phenderfyniad i beidio adfywio - gorchymyn DNR - er iddi siarad gyda staff ar ddiwrnod ei farwolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Evan Williams yn Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill y llynedd

Dywed y bwrdd iechyd nad ydynt yn gallu gwneud sylw ar achosion unigol.

Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Jo Whitehed: "Byddwn yn hoffi estyn fy nghydymdeimlad dwys i Mrs Williams.

"Oherwydd cyfrinachedd y claf, ni allwn wneud sylw ar achosion unigol."

"Byddwn yn ei hannog i gysylltu yn uniongyrchol gyda ni pe bai ganddi unrhyw bryderon".

Ond dywedodd Mrs Williams wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales ei bod eisoes wedi ysgrifennu at y prif weithredwr yn tanlinellu ei phryderon.

Daw hyn wrth i gorff sy'n goruchwylio'r gyfundrefn iechyd yn Lloegr ddweud ei bod yn bosib fod hawliau dynol dros 500 o bobl wedi eu torri yn sgil penderfyniadau DNR yn ystod y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Google

Y tro diwethaf i Mrs Williams weld ei gŵr 79 oed oedd pan gafodd ei gludo gan barafeddygon o'i gartref i Ysbyty Gwynedd.

Bu farw ar Ddydd Gwener y Groglith y llynedd.

"Fe gefais alwad ffôn gan feddyg yn dweud fod ei gyflwr wedi dirywio," meddai.

"Doedd yna ddim son ar gyfarwyddiadau DNR," meddai.

Dywedodd Mrs Williams, AS Conwy rhwng 1997 a 2010, ei bod wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd yn holi am orchymyn DNR ar 27 Ebrill, ac a oedd ei gŵr wedi rhoi ei ganiatâd?

Dywedodd iddi dderbyn cadarnhad ar Fehefin 12 nad oedd wedi rhoi caniatâd.

"Mae o fel tynnu dannedd, roedd yn rhaid i mi wasgu a gwasgu am y wybodaeth".

Dywedodd y byddai'n ysgrifennu at y prif weithredwr unwaith eto yn gofyn iddi "gynnal ymchwiliad ynglŷn â'r modd mae hi'n bwriadau delio gyda hyn."

Profion Covid-19

Mae'r cyn-aelod seneddol Llafur hefyd wedi lleisio ei phryderon am brofion coronafeirws yn Ysbyty Gwynedd.

Cafodd Mr Willaims ei brofi am Covid-19 ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty.

48 awr yn ddiweddarach fe ddaeth canlyniadau'r prawf hwnnw'n ôl yn negyddol, ac fe gafodd ei symud i ward gyffredinol.

Yno fe gafodd ddiagnosis o niwmonia dwys.

Dywedodd Mrs Williams ei bod wedi cael deall fod ei gŵr wedi derbyn ail brawf am coronafeirws ddiwrnod ar ôl y prawf cyntaf, a hynny am fod staff yn credu eu bod wedi colli'r prawf cyntaf.

Fe ddaeth yr ail brawf yn ôl yn negyddol hefyd.

Fe dderbyniodd brawf arall ddiwrnod cyn iddo farw, a'r tro hwn roedd canlyniad y prawf yn un positif.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford: "Rydym wedi bod yn cadw golwg ar y mater hwn yn syth o ddechrau'r pandemig."

Fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford ddweud fod canllawiau wedi eu hanfon i'r gwasanaeth iechyd yn gynnar yn yr argyfwng ynglŷn â gorchmynion DNR gan y prif swyddog meddygol.

Dywedodd fod hyn ar ôl i feddygfa ym Maesteg anfon "llythyr anffodus i gleifion fis Ebrill diwethaf."

Pan gafodd ei holi ar raglen BBC Politics Wales ni roddodd addewid y byddai adolygiad o'r system yn cael ei wneud.

"Os os yna fwy i ddarganfod yna byddwn yn bendant am wybod, rwy'n cytuno a hynny,"meddai.

"Ond rwyf hefyd am ei gwneud yn glir oherwydd rydym wedi cael un digwyddiad yn gynnar, rydym wedi bod yn cadw golwg ar y mater hwn yn syth o ddechrau'r pandemig."