Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Notts County

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar ôl colli gartref yn erbyn Notts County mae yna fwy o bwysau ar Wrecsam i ennill eu dwy gêm olaf i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf, a hynny'n haeddiannol drwy ergyd o bell Jake Reeves.

Mae'r Dreigiau yn parhau yn safle'r gemau ail gyfle ond dim ond pwynt sy'n eu gwahanu nhw oddi wrth Bromley yn yr wythfed safle.

Daeth unig gwir gyfle Wrecsam yn yr hanner cyntaf i Gold Omotayo ond aeth ei ymdrech dros y bar.

Gwellodd perfformiad y tîm cartref yn yr ail hanner gyda Young yn ergydio heibio'r postyn, a dau beniad gan Omotayo hefyd yn agos.

Ond daliodd County yn gadarn, gyda'r canlyniad yn golygu eu bod yn codi uwchben Wrecsam i'r pumed safle.

Yn gynharach yn y dydd cyhoeddodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney, dau o sêr Hollywood sydd wedi prynu'r clwb, y bydd hanes diweddar Wrecsam yn cael ei ddarlledu fel ffilm ddogfen.

Mae FX Entertainment o'r Unol Daleithiau wedi cytuno i brynu dwy gyfres fydd yn olrhain hanes y ddau yn prynu'r clwb a'u hymdrechion i'w adfywio.

Pynciau cysylltiedig