Beirniadu ymateb prifysgolion i honiadau o ymosodiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Samantha Kilford a Sydney Feder
Disgrifiad o’r llun,

Mae Samantha Kilford a Sydney Feder ymysg y menywod sydd wedi arwyddo'r llythyr

Mae menywod o 15 prifysgol wedi arwyddo llythyr yn galw am bolisi gorfodol ar gyfer delio gyda honiadau o ymosodiadau rhyw mewn sefydliadau addysg uwch.

Mae'r menywod yn dweud bod eu prifysgolion wedi methu â mynd i'r afael gyda'u honiadau nhw o ymosodiadau rhyw.

Ar hyn o bryd nid yw'n orfodol i sefydliadau addysg uwch gael polisi penodol mewn lle i ddelio gyda honiadau o'r fath.

Dywedodd corff Universities UK bod "pob prifysgol â pholisïau ac arferion mewn lle".

Ychwanegodd ei fod wedi creu canllawiau i gefnogi'r sector a bod prifysgolion yn cynyddu eu hymdrechion i fynd i'r afael â chamdriniaeth.

Disgrifiad,

Dywedodd Tirion Davies, golygydd papur newydd Prifysgol Caerdydd, Gair Rhydd, ei bod yn beth da bod y menywod wedi bod yn ddigon hyderus i roi eu henwau a rhannu eu profiadau

Mae Samantha Kilford, 23 oed o Gastell-nedd, ymysg y rheiny sydd wedi arwyddo'r llythyr.

Dywedodd bod myfyriwr arall wedi ymosod arni'n rhywiol yn ystod wythnos y glas ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE).

"Fe wnaeth yr ymchwiliad gymryd blwyddyn. Roedd e'n mynd ymlaen am hydoedd ac yn gyfrinachol iawn. Roedd hi'n teimlo fel eu bod yn disgwyl i mi roi give up," meddai.

"Roedd hi'n teimlo fel eu bod nhw'n ei amddiffyn e. Yn yr ymchwiliad fe wnaethon nhw hyd yn oed gynnig y cyfle iddo fy nghwestiynu i am beth o'n i wedi dweud wrthyn nhw.

"Y peth mwyaf rhwystredig yw 'mod i dal ddim yn gwybod beth oedd canlyniad yr ymchwiliad.

"Fe wnaethon nhw ddweud nad oeddwn i'n cael gwybod. Oll wnaethon nhw ddweud oedd bod y cwyn wedi cael ei gadarnhau."

Ffynhonnell y llun, Samantha Kilford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Samantha Kilford fod yr ymchwiliad "mynd ymlaen am hydoedd ac yn gyfrinachol iawn"

Yn eu hymateb i honiadau Ms Kilford dywedodd UWE bod cyfreithiau diogelu data yn eu "hatal rhag rhannu holl fanylion y penderfyniad terfynol".

Ychwanegodd nad yw'r brifysgol yn goddef "unrhyw gam-drin rhyw neu gamymddwyn", ac nad yw'n rhoi'r hawl i'r ymosodwr honedig gwestiynu'r achwynydd.

Teimlo'n 'ddiwerth'

Sydney Feder, 23, wnaeth ysgogi'r llythyr gan ddweud ei bod rhywun wedi ymosod arni'n rhywiol yn ystod ei blwyddyn olaf yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd bod ymchwiliad y brifysgol wedi ei gwneud i deimlo'n "ddiwerth", nad oedd hi'n rhan o'r broses o gwbl ac nad oedd hi wedi cael gwybod canlyniad yr ymchwiliad.

Mae Ms Feder wedi dechrau deiseb ar-lein hefyd, gan alw ar Llywodraeth y DU i osod polisi gorfodol ar gyfer y ffordd y dylai prifysgolion ddelio gyda honiadau.

Dywedodd y Coleg Cerdd a Drama bod unrhyw fater a gafodd ei adrodd iddyn nhw wedi cael ei "ymchwilio yn drwyadl".

Ychwanegodd bod "yr honiadau penodol yma a'r cwestiynau a godwyd yn destun cais sensitif am iawndal, sy'n parhau, ac mae'r coleg wedi cyflwyno amddiffyniad cryf i hyn".

Ffynhonnell y llun, Sydney Feder
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sydney Feder yn galw ar y llywodraeth i osod polisi gorfodol ar gyfer sut dylai prifysgolion ddelio gyda honiadau

Mae'r llythyr hefyd wedi'i arwyddo gan 13 o elusennau a grwpiau ymgyrchu, ac yn gwneud cyfres o argymhellion.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Dylai pob prifysgol gael aelod penodol o staff i ddelio gyda honiadau o ymosodiadau rhyw;

  • Ni ddylai'r ymosodwr honedig fod yn bresennol pan fo'r achwynydd yn adrodd eu stori;

  • Rhaid i bawb sy'n rhan o'r cwyn gael gwybod canlyniad unrhyw ymchwiliad;

  • Rhaid dod i benderfyniad o fewn tri mis o'r cwyn.

Ar hyn o bryd mae prifysgolion a cholegau yn tueddu i ddelio gyda honiadau o'r fath trwy eu prosesau mewnol eu hunain.

Beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud?

Dywedodd Llywodraeth y DU ei fod wedi ymrwymo i weithio gyda'r Swyddfa Myfyrwyr a'i bod yn annog prifysgolion i gydymffurfio gyda datganiad o ddisgwyliadau'r llywodraeth ac adolygu eu polisïau.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cefnogi polisïau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer sefydliadau addysg uwch ac yn ariannu sefydliadau i roi hyfforddiant mewn prifysgolion ledled Cymru.

Mewn datganiad dywedodd Universities UK, sy'n cynrychioli'r sefydliadau ar draws y DU, bod gan bob prifysgol ganllawiau ac arferion mewn lle i fynd i'r afael ag unrhyw aflonyddu, yn ogystal â chanllawiau i fyfyrwyr.

"Rydyn ni wedi gweld prifysgolion yn cynyddu eu hymdrechion i fynd i'r afael ag aflonyddu a chamymddwyn dros y blynyddoedd diwethaf, gan weithio gyda myfyrwyr, staff ac undebau i ddatblygu polisïau ac ymgyrchoedd i gynyddu ymwybyddiaeth ac annog myfyrwyr i gael yr hyder i adrodd digwyddiadau, a gwybod y byddan nhw'n cael eu coelio ac y bydd y brifysgol yn ymateb ble fo angen," meddai.

"Mae Universities UK wedi creu cyfres eang o fframweithiau a chanllawiau cenedlaethol i gefnogi'r sector i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, aflonyddu a throseddau casineb.

"Byddwn yn parhau i gefnogi ein haelodau i newid diwylliant, gan roi polisïau ac arferion mewn lle fel bod prifysgolion yn llefydd diogel i fyw, gweithio ac astudio."

Pynciau cysylltiedig