Frank Letch: Byw bywyd i'r eithaf heb freichiau

  • Cyhoeddwyd
Frank LetchFfynhonnell y llun, S4C

"Os 'da chi'n gweld rhywun efo ffon gwyn 'da chi'n dweud fod o'n ddall.

"Os 'da chi'n gweld rhywun heb freichie mae pobl yn meddwl yn negyddol a dweud, 'dydi o ddim yn gallu.'

"Ond dwi'n dweud 'mae o yn gallu'. Ac mae hynny'n bwysig."

Cafodd Frank Letch ei eni heb freichiau ond mae wedi treulio'i fywyd yn profi nad ydy hynny'n ei atal rhag byw bywyd i'r eithaf.

Mae Frank wedi defnyddio ei draed fel dwylo ers iddo fod yn faban yn y pram yn pigo bisgedi i fyny gyda bodiau ei draed: "Trwy fy mywyd dwi wedi 'neud popeth - dwi wedi newid clytiau babanod, dwi wedi coginio, hyfforddi cŵn ac yn y blaen.

"Dyna sut oedden i'n disgwyl bod - mae'n hawdd iawn labelu rhywun a dweud, 'anabl, dall, methu clywed, ddim yn gallu cerdded'.

"Beth o'n i'n trio 'neud oedd gwneud 180 degree turn - yn lle meddwl am bethau negyddol, meddwl am bethau positif, sef beth mae pobl yn gallu gwneud."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n gallu 'neud mwy neu lai bopeth"

Edrych yn ôl

Mae Frank yn nesáu at ei ben-blwydd yn 80 ond yn dal i weithio fel maer yn Crediton, Dyfnaint, ar ôl treulio blynyddoedd hapus o'i fywyd yn ardal y Bala wedi magwraeth yn ardal Peckham, dwyrain Llundain.

Mae'n edrych yn ôl ar ei fywyd drwy ysgrifennu bywgraffiad ar hyn o bryd ac hefyd wedi ffilmio rhaglen newydd am ei fywyd, DRYCH: Byw Heb Freichiau.

Dywedodd: "Dwi'n gobeithio fydd o'n helpu pobl i gofio be' oeddwn i ac i bobl gael diddordeb mewn pobl sy' efo be' mae pawb yn galw 'anabledd'."

Bywyd yng Nghymru

Mae Frank yn cofio yn ôl i'w flynyddoedd hapus yn Llanuwchllyn ger y Bala yn magu pump o blant gyda'i wraig Helen. Symudodd yno i weithio fel athro Ffrangeg yn Ysgol y Berwyn, lle bu'n dysgu am 20 mlynedd: "O'n i wrth fy modd yn yr ardal - a Helen hefyd.

"Dwi'n gorfod dweud dwi'n meddwl mod i'n hapusach oherwydd dysgu Cymraeg. Yn arbennig lle oedden ni'n byw - prifddinas Cymru yw Llanuwchllyn, nid Caerdydd!

"Yn y pentref roedd 90% o'r bobl yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Os 'da chi eisiau cymryd rhan yn y bywyd a'r gymdeithas roedd Cymraeg yn orfodol."

Cafodd dipyn o gefnogaeth i wneud hynny gan ddisgyblion: "Dwi'n cofio rhoi gwers yn Ysgol y Berwyn a trio fy ngorau i siarad Cymraeg gyda'r plant - a Ffrangeg wrth gwrs - a dwi'n cofio diwedd un wers, hogan yn dweud, 'Mr Letch, 'da chi wedi dweud [hyn yn anghywir]... fel arfer 'da ni'n dweud o fel hyn.'

"Dyna'r ffordd i ddysgu athro sut i siarad Cymraeg! I mi roedd yn bwysig fod gan yr hogan ddigon o hyder i allu dod ata'i a esbonio, oedd o'n lyfli."

Gan ddefnyddio ei draed i yfed ei beint o gwrw roedd Frank yn bresenoldeb cyson yn nhafarn lleol yr Eagles ac yn mwynhau gemau o ddartiau yno, wedi eu taflu gyda'i draed.

Gadawodd ef a'r plant y Bala ar ôl marwolaeth Helen pan oedd hi'n 41 oed i fynd i fyw yn yr Alban ac mae bellach yn byw yn Crediton ers blynyddoedd gyda'i wraig Natalia.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Frank a Natalia

Agweddau at anabledd

Pan gafodd Frank ei eni rhoddwyd pwysau ar ei fam i'w roi mewn cartref plant anabl. Dydy'r teulu dal ddim yn gwybod pam cafodd Frank ei eni heb freichiau - does dim anabledd tebyg yn y teulu, ac fe gafodd ei chwaer ei geni gyda dwy fraich.

Dywedodd Frank: "'Dan ni byth wedi poeni [ymchwilio i'r rhesymau] achos sut mae hynny'n helpu?

"Efo Thalidomide mae pawb wedi darganfod fod y cyffuriau yn achosi anawsterau.

"Ond os 'da chi'n cael babi heb freichiau yn ystod y rhyfel a ddim yn cymryd cyffuriau, beth os mae i wneud efo bomio Llundain neu bwyd ddim yn dda?

"Dydi o ddim yn newid dim byd. Dydi o ddim yn helpu pobl eraill. 'Oedd o'n well jest cario ymlaen. Dwi ddim yn gallu darganfod mwy achos dwi'n credu nad oes dim byd i'w ddarganfod."

Mae Frank wedi gweld agweddau tuag at anabledd yn newid yn ystod ei fywyd: "Y peth cynta' yw addysg achos pan o'n i'n blentyn roedd unrhyw un efo unrhyw fath o anabledd yn mynd i ysgol arbennig. A doedd o ddim yn arbennig o gwbl.

"Rŵan y catchphrase yw inclusion - mae mwy neu lai pawb yn gallu mynd i'r ysgol leol. Weithiau mae angen cymorth ond dyna rhywbeth sy' wedi newid i bobl anabl achos maen nhw'n gallu cael addysg gyda ffrindiau o'r ardal leol.

"Ac hefyd mae'n effeithio'r bobl eraill sy'n gorfod derbyn rhywun yn y dosbarth. Dyna un o'r camau mwyaf pwysig ers yr 1960au."

Abledd

Mae Frank yn gweld ei hun fel rhywun sy' ddim yn anabl: "Dwi'n fwy abl, superabled, yn hytrach na'n anabl."

Ond a oes unrhyw beth dyw e ddim yn gallu ei wneud?

Meddai: "Dwi ddim yn gallu cloi botwm top mewn crys a dwi ddim yn gallu gwisgo bow tie heb gymorth. Heblaw hynny, dwi'n gallu 'neud mwy neu lai bopeth."

Gwyliwch DRYCH: Byw Heb Freichiau ar S4C am 09:00 nos Sul, Mai 23.

Hefyd o ddiddordeb