Pum munud gyda'r cwisfeistr Chris Roberts

  • Cyhoeddwyd
Chris RobertsFfynhonnell y llun, Chris Roberts

Mae Chris Roberts yn weithiwr cyngor o ddydd i ddydd ond bob nos Wener ers blwyddyn mae wedi bod yn profi brêns y genedl yn ei gwis wythnosol ar raglen Penwythnos Geth a Ger, Radio Cymru.

Nos Wener mae'n gosod ei hanner canfed cwis ar y rhaglen felly cyn y garreg filltir hon fe wnaethon ni benderfynu mai fo fyddai'n gorfod ateb ein cwestiynau ni, er mwyn i ni gael dod i'w adnabod yn well.

Alli di sôn ychydig am dy gefndir?

Dwi'n dod o Lanrug, ger Caernarfon. O ddydd i ddydd dwi'n gweithio fel Swyddog Ymchwil a Dadansoddeg yn Cyngor Gwynedd. Dwi'n gyflwynydd radio a phodlediadau, gan gynnwys, ar hyn o bryd, cwis ar Radio Cymru bob nos Wener efo Geth a Ger.

Wyt ti'n berson chwilfrydig sy'n hoffi gwybodaeth?

Yndw, dwi yn tueddu i ddefnyddio lot ar Google a Wikipedia, a wedyn diflasu unrhyw un wneith wrando am be' nes i ddysgu am pengwins y diwrnod wedyn! Er, dwi'n meddwl bod lot o hwyl mewn cwisys o weithio pethau allan a darganfod yr ateb cywir yn hytrach na cofio rhestrau a ffeithiau, dwi'n licio trio ffeindio'r cysylltiadau rhwng petha'.

Ffynhonnell y llun, Chris Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Chris (chwith) yn cyflwyno Sôn am Sîn gyda'i gyd-gyflwynydd Gethin Griffiths (dde) wrth holi Awen Schiavone ac Yws Gwynedd yng Ngŵyl Ddewi Arall, Caernarfon yn 2020

Lle wnaeth y diddordeb mewn cwisys ddechrau?

Gwylio nhw ar y teledu siŵr o fod! O'dd Supermarket Sweep yn dipyn o ffefryn pan o'n i'n blentyn. Ges i trolley un Nadolig felly o'n i'n ail-greu'r cwis yn fy stafell fyw. Er nad oedd o'n gwis oedd Crystal Maze yn ffefryn arall gennai, o'dd Richard O'Brien yn gyflwynydd anhygoel a'r set a'r gemau yn arbennig.

Dwi'n dal i fwynhau cwisys ar y teledu, mae Impossible a Tipping Point yn ffefrynnau ar hyn o bryd, yn ogystal ag ambell i gwis tafarn a Popmaster ar Radio 2, wrth gwrs!

Beth yw dy ddiddordebau eraill?

Dwi wrth fy modd efo cerddoriaeth byw ac yn mynd i lwythi o gigs a gwyliau, yn lleol a bellach i ffwrdd. (Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfedd arna i!).

Ar ôl bod mewn gig yng Nghaernarfon un noson penderfynodd fi a fy ffrind, Gethin Griffiths, gychwyn blog yn trin a thrafod y sîn gerddoriaeth yn Nghymru - Sôn am Sîn, dolen allanol, sydd bellach yn bodlediad hefyd.

Dwi hefyd yn rhan o'r criw sydd yn trefnu Gŵyl Arall yng Nghaernarfon, gan weithio ar yr ochr gerddoriaeth a comedi yn bennaf. Yn Gŵyl Arall gychwynnodd y busnes cwis 'ma, am wn i, ar ôl i fi bwcio fy hun a Geth i wneud un yn yr ŵyl 'chydig flynyddoedd yn ôl!

Sut brofiad ydi gweithio efo Geth a Ger?

Geth a Ger ydi'r bobl berffaith i fod yn chwarae'r cwis yma ar y radio. Maen nhw'n ddigon da bod o ddim yn awkward, ond ddim yn rhy dda, felly dwi'n cael tynnu arnyn nhw.

Mae Ger reit aml efo ffeithiau diddorol i ychwanegu i'r atebion hefyd a dwi wrth fy modd pan dwi'n llwyddo i wylltio Geth wrth iddo golli ei bwyntiau i gyd yn y rownd ola'!

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris wedi bod yn cyflwyno'r cwis ar raglen Penwythnos Geth a Ger ers dros flwyddyn

Sut wyt ti'n mynd ati i greu cwis gwahanol bob wythnos, a faint o amser mae'n ei gymryd?

Dwi'n tueddu i gymryd ysbrydoliaeth gan y pethau o nghwmpas a'r newyddion ac ati. Mae gennai note yn fy ffôn i sgriblo lawr unrhyw syniadau fel maen nhw'n dod ata' i.

Does gennai ddim lot o reolau pendant efo ysgrifennu'r cwis ond dwi wastad yn trio gwneud yn siŵr bod yna amrywiaeth o bynciau.

Mewn cwis da ddylai pawb gael rhai cwestiynau yn iawn, ond gyda llawer o neb yn cael pob un!

Fydda' i'n cymryd rhyw gwpl o oriau wedyn i roi'r cwis at ei gilydd, symud y cwestiynau o gwmpas fel bod nhw'n llifo'n iawn a bod digon o amrywiaeth. Unwaith dwi wedi ei roi at ei gilydd dwi'n trafod y cwis efo cynhyrchydd y rhaglen, sydd wastad yn helpu os nad ydi'r geiriad cweit yn iawn, neu os ydi'r cwis yn rhy anodd neu'n rhy hawdd yr wythnos honno.

Beth sy'n allweddol i dîm cwis llwyddiannus?

Cael hwyl sy'n bwysig mewn cwis fel yma wrth gwrs, a dyna pam bod y rhan fwyaf o bobl yn dewis gwneud tîm efo'u ffrindiau. Mae hynna'n grêt, ond mae'n debyg eich bod chi'n ffrindiau gan eich bod chi'n rhannu'r un diddordebau. Os 'da chi isho ennill, trïwch gael tîm mwy amrywiol.

Be' am y dyn yn gwaith sy'n ail-greu brwydrau hanesyddol ar y penwythnos? Neu'r ddynes drws nesa' efo cannoedd o blanhigion gwahanol yn ei thŷ gwydr?!

Allith neb wybod bob dim, ond mae 'na rai petha' sy'n haws i ddysgu amdanynt na'i gilydd, a rhai pethau sydd wastad yn dod fyny mewn cwis! Allwch chi byth fynd o'i le drwy ddysgu rhestrau; prif ddinasoedd, ffilmiau James Bond, Christmas No.1s ac yn y blaen!

Ffynhonnell y llun, Chris Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris yn rhan o bwyllgor trefnu Gŵyl Arall, Caernarfon

Fyddet ti'n hoffi cyflwyno rhaglen gwis ar y teledu rhyw ddiwrnod?

Radio ydi fy hoff beth yn y byd. Dwi wedi bod wrth fy modd efo'r radio ers o'n i'n hogyn bach, felly mae cael bod ar Radio Cymru bob wythnos yn fy ngwneud i'n hapus iawn.

Gan ddweud hynna, dwi hefyd wrth fy modd yn dyfeisio gemau a rowndiau cwis gwahanol i fy ffrindiau, fel 'da chi'n cael yn rhywbeth fel Richard Osman's House of Games, a mae cyfrwng y teledu yn cynnig ei hun fwy i bethau fel yna. Felly, pwy a ŵyr? Dwi'n licio meddwl mod i'n ddoniol hefyd, felly bysa' gwneud gêm banel yn cŵl, ella'.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw

Pynciau cysylltiedig