O'r siopau elusen i Vogue: Taith dylunydd ffasiwn cynaliadwy
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o drafod wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf am y niwed mae'r byd ffasiwn yn ei wneud i'r amgylchedd. Yn ôl ffigyrau, y diwydiant ffasiwn sy'n gyfrifol am 10% o allyriadau carbon y byd
Mae Rosie Evans, o Benarth yn wreiddiol, ond bellach yn byw yn Brighton, yn ddylunydd dillad sy'n arbenigo mewn ffasiwn 'araf' a 'chynaliadwy', sydd yn ddiweddar wedi ymddangos yng nghylchgrawn Vogue.
Pan dyw Rosie ddim yn gweithio'n ddiwyd wrth ei pheiriant gwnïo, gallwch ddod o hyd iddi yn crwydro siopau elusen - neu hyd yn oed sgipiau - yn chwilio am defnyddiau amddifad, er mwyn rhoi ail-fywyd iddyn nhw.
"Dwi'n ffeindio hen ffabrigau, hen lieiniau bwrdd, hen rubanau, hen lenni - unrhywbeth alla' i gael gafael arno - a dwi'n eu troi nhw yn ddyluniadau.
"Dwi'n defnyddio hen ffabrig yn hytrach na chreu ffabrigau newydd, achos byddai'n well gen i ddefnyddio ffabrig sydd mas 'na yn barod, sy'n eistedd yng nghwpwrdd rhywun neu sydd ar silff mewn siop elusen. I mi un o'r pethau pwysicaf ydi defnyddio defnydd ail-law, wedi ei ailgylchu neu ei uwch-gylchu, neu ddefnydd diwedd stoc.
"Dwi'n defnyddio ffabrigau hwyl, diddorol, a lot o'r amser sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dim byd erbyn hyn, gan fod pobl ddim wir yn eu prynu nhw. Fel lês; dyw e ddim wir beth mae pobl yn ei brynu, felly mae llawer ohono yn cael ei daflu.
"Mae popeth dwi'n ei ddefnyddio, i lawr i'r manylion lleiaf, fel trims, mor egwyddorol ag y galla i."
Corsedau clytwaith
Corsedau steil Elisabethaidd yw prif gynnyrch Rosie. Hi sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith ei hun, ac mae hi'n ceisio gwneud yn siŵr ei bod hi'n defnyddio'r ffabrig mae hi'n dod o hyd iddo yn y modd mwyaf ystyrlon posib.
"Dwi'n gwneud yn siŵr mod i'n cadw unrhyw dameidiau sbâr o ddefnydd, ac yn eu hailddefnyddio mewn clytwaith, fel fod ganddyn nhw ail-gyfle, ac mae llai yn cael ei wastraffu.
"Dyna lle mae'r rhan 'araf' yn dod mewn - mae hynny'n golygu fod y broses yn mynd yn un hir.
"Ond dwi'n meddwl ei fod yn dda fod pobl yn gwybod, yn enwedig gyda phrisio hefyd - mae gen i brisiau ychydig uwch na phobl eraill - mod i'n rhoi llawer o amser ac ymdrech i mewn i sicrhau mod i'n defnyddio dulliau cynhyrchu egwyddorol."
'Cyfrifol ac egwyddorol'
Mae busnes dillad Rosie newydd ddathlu ei ben-blwydd yn flwydd oed - er ei bod wedi bod wrthi'n gwnïo yn ei hystafell wely cyn hynny - ond ers y dechrau, roedd hi am i'w chwmni lynu at ethos cynaliadwyedd. Mae hi'n creu dillad unigryw, wedi ei wneud i archeb, neu'n gwneud nifer cyfyngedig o ddilledyn penodol, er mwyn osgoi gwastraff.
"Pan es i i'r brifysgol ym Mryste, nes i ddysgu mwy am y diwydiant ffasiwn a pha mor wastraffus yw e, a bod cynhyrchu pethau newydd yn y byd ddim wir yn beth da.
"Felly pan nes i ddechrau'r busnes, nes i sgwennu rhestr - jest i mi - o'r pethau fyddai yn fy nghadw i at beth o'n i'n ei wneud.
"Nes i benderfynu mod i ddim eisiau bod yn berson sy'n masgynhyrchu. Dwi ddim yn teimlo'r angen i wneud lot o gopïau o'r un peth, a dwi'n meddwl fod pobl yn parchu hynny hefyd. Mae prynu pethau unigryw wedi dod yn llawer mwy poblogaidd.
10%o allyriadau carbon y byd yn cael ei achosi gan y diwydiant ffasiwn
200 galwyn o ddŵryn cael ei ddefnyddio i wneud un pâr o jîns
85%o decstiliau yn cael eu hanfon i gladdfeydd sbwriel bob blwyddyn
"Byddai hi jest yn haws 'sen i'n prynu 6m o ddefnydd ac yn creu mas o hwnna a'i werthu yn syth bin; dwi'n meddwl fyddai dipyn o bobl yn prynu. Ond dwi wir ddim eisiau gwneud hynny.
"Dwi ddim yn meddwl fydden i'n teimlo'n gyfforddus iawn yn cael brand lle alla i ddim dweud fod eitem wedi cael ei wneud mor gyfrifol ac egwyddorol â phosib."
Peidio bod yn wastraffus
A hithau wedi bod yn gwnïo ers iddi fod yn ferch fach, mae hi'n teimlo fod ei magwraeth wedi cael effaith ar ei daliadau heddiw o ran cynaliadwyedd.
"O'n i wastad yn gwybod am ailgylchu, peidio gwastraffu pethau, trio peidio gor-ddefnyddio. Pan o'n i'n tyfu lan, dyna oedd y norm.
"A hefyd dod o Gaerdydd, a ddim o Lundain neu ddinas sydd â scene ffasiwn fawr, doedd yna ddim llawer o siopau o'n i'n gallu mynd iddyn nhw i brynu ffabrig drud.
"Beth bynnag, mewn siopau elusen dwi wedi ffeindio peth o'r defnyddiau o'r safon gorau. Bydden i'n prynu dillad o siopau elusen, achos o'dd gen i ddim mynediad at frandiau mawr adref.
"Dwi'n meddwl fod pobl wedi sylwi mod i'n eithaf da am ddod o hyd i ddefnyddiau diddorol yn hawdd. Os chi'n tyfu lan gyda phopeth ar flaenau eich bysedd, efallai fyddech chi ddim yn gwybod sut i wneud."
Mae hi wedi sylwi fod mwy o ddiddordeb wedi bod yn ei busnes yn ddiweddar, wrth i fwy o bobl ddod i wybod am ffasiwn cynaliadwy, meddai. Fodd bynnag, mae hi'n credu fod yna dal fwy o waith i'w wneud er mwyn i bobl fod yn gydwybodol gyda ffasiwn.
"Dwi'n gwneud yn siŵr mod i ond yn torri dillad lan os nad oes modd eu trwsio. Os fydden i'n mynd i siop elusen ac yn prynu parau o jîns sydd mewn cyflwr da... wel mae hwnna'n bâr o jîns y gallai person fod wedi ei wisgo.
"Os ti'n gwneud pâr o jîns mas o 30 jîns gwahanol, wyt, ti'n defnyddio 30 pâr lan, ond os oedden nhw'n barau allai fod o ddefnydd i bobl, dwi'n teimlo fod hynny'n wastraffus."
Newid o fewn y diwydiant?
Pinacl y flwyddyn hyd yma i Rosie oedd pan ymddangosodd ei gwaith yng nghylchgrawn Vogue, fel rhan o gasgliad gan y dylunydd cynaliadwy, Bethany Williams.
Bethany oedd enillydd gwobr y Vogue Fashion Fund eleni, ac mae Rosie yn gobeithio fod llwyddiant y dylunydd sydd bob amser wedi bod â chynaliadwyedd wrth galon ei dillad, yn arwydd fod yna newid ar ddod i'r byd ffasiwn.
"Dwi'n meddwl fod hyn yn drobwynt. Dwi'n gobeithio y bydd yn arwain at fwy o bobl yn dysgu am gynaliadwyedd - mai dim jest ffrogiau o gotwm organig yw 'ffasiwn cynaliadwy' - mae'n greadigol ac yn gyffrous iawn.
"Mae'n opsiwn ymarferol o fewn y byd ffasiwn, dim jest yn chwiw o syniad i rai pobl. Gobeithio fydd 'na newid."
Hefyd o ddiddordeb: