Undeb Rygbi Cymru: 'Gobaith' cael 10,000 i wylio gemau haf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
The stadiumFfynhonnell y llun, WRU

Mae gobaith y bydd hyd at 10,000 o gefnogwyr yn cael mynd i gemau rygbi rhyngwladol Cymru dros yr haf.

Bydd Cymru'n croesawu Canada ac Ariannin i Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar 3, 10 ac 17 Gorffennaf.

Dywedodd pennaeth Undeb Rygbi Cymru Steve Phillips mai ei "obaith ydy cyrraedd 10,000".

Ychwanegodd: "O'r hyn dwi wedi ei glywed 'dyn ni'n debygol o gael yr isaf o 25% neu 10,000."

Mae disgwyl cadarnhad ddechrau Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu nifer o ddigwyddiadau prawf, er mwyn asesu effaith torfeydd ar gyfraddau heintio Covid-19.

Hyd yn hyn does dim gemau rygbi Cymru wedi bod yn eu plith.

Dywedodd Mr Phillips: "Roedd 10,000 yn Twickenham y penwythnos diwetha' i'r rowndiau terfynol Ewropeaidd ac mae gan y Llewod 17,000 yn Murrayfield ar 26 Mehefin."

"Cyn belled bod Llywodraeth Cymru'n fodlon gyda'r amrywiolyn Indiaidd, fe fydden ni'n obeithiol am y gemau'n erbyn Canada ac Ariannin."

Dywedodd bod "nifer o broblemau" ynghylch rhannu tocynnau, a bod yr undeb yn "gweithio ar bwy fydd yn cael tocynnau ar hyn o bryd".

Roedd Cymru i fod i deithio i Dde America dros yr haf eleni, ond cafodd y gemau eu symud i Gaerdydd oherwydd cyfyngiadau teithio.