Lle oeddwn i: Siôn Huw Davies a FFIT Cymru
- Cyhoeddwyd

Nos Fawrth, ar ôl wyth wythnos, cafodd gwylwyr FFIT Cymru weld ffrwyth llafur y pump arweinydd sydd wedi ymdrechu i wella eu ffitrwydd, eu hiechyd a thrawsnewid eu bywydau.
Un o'r rheiny oedd Siôn Huw Davies, athro 50 oed o Brestatyn. Llwyddodd y tad i dri golli dwy stôn a dau bwys drwy ddilyn cynllun FFIT Cymru, ond nid yw'r siwrne drosodd eto, meddai...

Er mod i'n gallu rhoi'r masg ymlaen ac actio fel mod i'n hapus, o'n i'n ymwybodol iawn mod i ddim yn hapus efo'n hun, a bod rhaid i bethau newid.
Welis i hysbyseb FFIT Cymru, a nes i ddeud 'iawn, ti'n gwneud hwn rŵan, ac os ti'm yn ei 'neud o rŵan, 'nei di fyth gwneud'. Nes i lenwi'r ffurflen yn y fan a'r lle, ac agor fy ffôn a bwrw mol ar fideo, a'i yrru o, cyn i mi ddifaru.
Ddechrau mis Chwefror, 'nath FFIT Cymru ffonio, a nes i ddeud mod i'n tynnu nôl, a rhoi'r ffôn i lawr! Ond mi ddywedodd Rachel, 'ti'n ffonio nhw nôl rŵan, ti'n ei 'neud o'. A mi nes i.

Ar ddechrau'r gyfres, roedd Siôn Huw yn pwyso 21 stôn 8 pwys, ac er ei fod yn ymddangos yn hapus, roedd yn gwybod fod rhaid i rywbeth newid
Cefnogaeth
Mae'r arbenigwyr wedi bod yn anhygoel. I ni fel pump, mae 'na bedwar arbenigwr, achos mae Lisa hefyd yn un ohonyn nhw. Lisa, Sioned, Dr Ioan a Rae; maen nhw wedi bod yn gefn i ni - a phawb arall tu ôl i'r llen hefyd.
A'r pedwar arall - 'da ni wedi bod yn gry' efo'n gilydd ers y cychwyn, ac mae hynny'n parhau. Mae ganddon ni grŵp Whatsapp, ac os dwi heb edrych ar y ffôn am rhyw hanner awr, ti'n gwybod mi fydd 'na un ohonyn nhw 'di deud rhywbeth.
I feddwl, wyth wythnos yn ôl do'n i'm yn 'nabod nhw o gwbl... mae'n anhygoel pa mor agos 'da ni wedi dod.
'Dan ni wedi bod yn rhan o rywbeth anhygoel.

Arweinwyr FFIT Cymru yn barod amdani: Leah, Dylan, Bronwen, Siôn Huw a Lois
Trawsnewid
Y peth sydd wedi newid mwya' ydi yn feddyliol, y pethau 'di neb yn gweld. Mae'n hawdd gweld mod i 'di colli pwysau, ond dwi 'di newid fy agwedd tuag at bethau, dwi 'di dysgu lot am fwyd, fy mherthynas i efo bwyd, a fy agwedd i at symud... mae pob dim 'di newid.
Roedd yr abseilio a'r nofio dŵr oer yn heriau corfforol - heb y pedwar arall, dwi'm yn meddwl 'swn i 'di gwneud.
Ond yr her mwya' oedd dechrau, wyth wythnos yn ôl. Ond fel ddywedodd Rhys Patchell yn y dasg gynta', 'cam wrth gam'...

Cam wrth gam... cwblhaodd Siôn Huw ei ras 5km gyntaf yn ystod y gyfres
Mae 'na lawer iawn o ffordd i fynd, ond erbyn y rhaglen chwe mis, dwisho gweld gwahaniaeth mawr; dwisho gweld newid i fi.
Mae pob diwrnod yn fricsen yn y wal - a mewn ffordd, dwi'm yn gorfod poeni am y wal o gwbl. Be' dwi'n gorfod poeni amdano fo ydi rhoi bricsen heddiw i lawr; 'neith y wal adeiladu am ei hun wedyn.
Jyst gwneud yn siŵr mod i'n rhoi y fricsen nesa' sy'n bwysig.
Achub bywyd
'Naeth David, o gyfres 2, ddeud fod FFIT Cymru wedi achub ei fywyd o, ac mae hynny'n wir amdana i - mae o wedi achub fy mywyd i, ond mae o hefyd wedi rhoi bywyd i mi.
Dwi'n annog pawb i gychwyn, achos dyna 'di'r rhan anodd. Ar ôl 'chydig wythnosau, ti'n gweld y gwerth, a mae o werth pob ymdrech.

Am drawsnewidiad! Siôn Huw a gweddill arweinwyr FFIT Cymru, sydd yn parhau i fod yn gefn i'w gilydd
Dwi'n teimlo'n od oherwydd, naw wythnos yn ôl, mi o'n i'n un o'r bobl 'na oedd yn ista ar y soffa, ac yn meddwl 'mi ddylwn i ddechrau hwn', a dwi rŵan yn un o'r bobl 'na sy'n deud 'mae o mor werth ei 'neud'.
'Di'r daith ddim 'di gorffen. Mae'r daith hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel, ond dwi'n cario 'mlaen.
Gwyliwch bob pennod o FFIT Cymru ar wefan S4C Clic, dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: