Ryan Giggs i wynebu achos llys ym mis Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd Llys y Goron Manceinion fore Gwener

Bydd yr achos yn erbyn rheolwr pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Manceinion ym mis Ionawr.

Mae'r cyn-chwaraewr 47 oed wedi ei gyhuddo o daro ei gyn-gariad â'i ben ac o'i rheoli drwy orfodaeth.

Ymddangosodd Mr Giggs yn y llys fore Gwener wedi honiadau ei fod wedi ymosod ar Kate Greville, 36 oed, ac achosi niwed corfforol iddi yn ei gartref ym Manceinion ar 1 Tachwedd 2020.

Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth rhwng Rhagfyr 2017 a Thachwedd 2020.

Mae Mr Giggs wedi ei gyhuddo hefyd o ymosod ar chwaer ieuengaf ei gyn-gariad, Emma Greville.

Mae Mr Giggs eisoes wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau.

Yn y gwrandawiad byr, fe wnaeth ond siarad i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.

Yn y llys fore Gwener nodwyd y bydd yr achos yn ei erbyn yn cychwyn ar 24 Ionawr.