Y prosiect ysgol a drodd yn frand dillad rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Anaml iawn mae gwaith prosiect yn yr ysgol yn troi'n fusnes llwyddiannus, ond dyna ddigwyddodd i ddau gyfaill o Ynys Môn.
Tra'n astudio ar gyfer y BAC Cymreig yn chweched dosbarth Ysgol David Hughes, datblygodd Siôn Emlyn Davies a Siôn Owen syniad am fusnes dillad awyr agored.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae'r busnes - Dillad Arfordir - yn ffynnu, gan ennill gwobr Dewis y Cyhoedd yng Ngwobrau Busnes Ifanc Gogledd Cymru ac eleni mae'r ddau wedi ymddangos ar gyfres deledu'r BBC, Young, Welsh and Bossin' It.
Felly sut ddatblygodd y syniad am gwmni dillad?
Siôn Owen: Prosiect bach oedd o o gychwyn. 'Naethon ni feddwl 'mae 'na farchnad sydd heb gychwyn yn iawn yng Nghymru, fel brandiau dillad'. 'Naethon ni weld y gap ac aethon ni amdano fo.
Gawson ni'r holl gymorth gan yr ysgol a 'dan ni 'di mynd o flwyddyn i flwyddyn yn cynyddu faint o stoc 'da ni efo, faint o bres 'dan ni'n 'neud.
Siôn Emlyn: ['Dan ni'n gwneud] dillad ymarfer, mynydda, lan môr a dydd-i-ddydd; fleeces, cotiau, hoodies, crysau t - dillad i bawb.
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i nifer o fusnesau - sut ydych chi wedi dygymod?
SE: Pan ddaeth y lockdown Mawrth 2020, 'nath Siôn a fi eistedd i lawr a meddwl 'be' 'da ni am neud rŵan?', achos roedd manufacturers ni wedi cau - doedden ni methu cael dillad i mewn, mond beth oedd gennym ni'n barod ar y wefan.
Pan 'naeth y lockdown ddechrau lleihau tua mis Mehefin, aeth hi'n boncyrs; pobl yn mynd ar y wefan, llwyth o sales - doedden ni'n methu dal i fyny! Mae'r lockdown, mwy neu lai, wedi dangos i ni bod ni'n gallu ei 'neud o, ac wrth eistedd i lawr a cysidro sut i 'neud pethau, mae'n dangos bod ni'n gallu mynd yn bell.
SO: Busnes ar y we 'da ni, a does ganddon ni ddim siop - ac o'dd nifer o siopau wedi cau, a 'nath hwnna weithio i ni.
'Dan ni wedi gweld llwyth o fusnesau bach yn cychwyn brandiau Cymraeg dillad newydd hefyd. Mae'n dangos fod y pandemig wedi hybu pobl i ddechrau busnesau newydd.
Pwy yw eich cwsmeriaid chi?
SO: 'Dan ni wedi cael archebion ar draws y byd - Awstralia, America, a Ffrainc hefyd, ond dwi'n meddwl mai Cymry yn byw dramor ydi'r farchnad yna. Mae 'na farchnad eitha' mawr ar gyfer busnesau Cymraeg rŵan i ddeud y gwir, ac ar gyfer twristiaeth yn dod i Gymru. Mae'r cyfle yn anhygoel.
Mae Siôn Owen wedi bod yn astudio Rheoli Busnes yn y brifysgol yn Lerpwl, a Siôn Emlyn yn astudio Cadwraeth Amgylcheddol ym Mangor - sut mae hyn wedi eich helpu i ddatblygu'r busnes?
SO: Mae o 'di gweithio'n dda, cael y balans 'na. Rheoli busnes - mae hwnna ddydd-i-ddydd, ac mae Siôn wedi gallu pigo fyny ar lot o stwff dwi 'di ddysgu yn Lerpwl. A rŵan beth mae Siôn yn ei 'neud efo cadwraeth, achos ei fod o'n foi amgylcheddol, fedrwn ni ddod â phethau o ran cynaliadwyedd i mewn i'r brand - mae o'n dallt lot o bethau fel'na.
SE: Mae'r ddau ohonon ni efo'n cryfderau a'n gwendidau - 'dan ni'n bownsio oddi ar ein gilydd.
'Dan ni 'di chwarae pêl-droed efo'n gilydd ers bo' ni'n hogiau bach. O'n i byth yn meddwl pan o'ddan ni'n ista lawr yn y stafell ddosbarth yn Ysgol David Hughes bod y busnes yma am droi i fewn i fusnes sy'n curo gwobrau, ac ar BBC One a BBC Three! Mae o 'di gweithio'n dda, y ddau ohonon ni efo'n gilydd.
SO: Mae wedi bod yn fraint i gael y ddau ohonon ni'n gweithio efo'n gilydd.
Rydych chi wedi ymddangos ar y gyfres BBC Young, Welsh and Bossin' It yn ddiweddar, fu'n dilyn entrepreneuriaid ifanc sy'n llwyddo yng Nghymru ar hyn o bryd - sut deimlad oedd hynny?
SE: O'dd o'n annisgwyl pan gawson ni'r alwad i fynd ar y sioe. Doedden ni methu coelio. I fod ar y sioe rŵan a'n gweld ni ar BBC One neu BBC Three mae o jest yn anhygoel!
Pan aeth o allan ar BBC iPlayer, aeth o'n boncyrs; o'ddan ni'n gweld lot o bobl o Loegr yn mynd ar y wefan. Mae o wedi cynyddu ein cynulleidfa Saesneg, dangos bod yr iaith Gymraeg yna a bod 'na frand Cymraeg allan yna, a bod ni'n gallu cystadlu efo'r brandiau mawr 'ma.
SO: Mae o wedi bod yn brilliant o brofiad.
Beth yw'r gobaith ar gyfer y dyfodol?
SE: Mae'r ddau ohonon ni'n gobeithio graddio yr haf. 'Da ni'n sbio ymlaen i'r dyfodol; dod â mwy o ddillad allan, ella cael i mewn i siopau lleol, a chael yr iaith Gymraeg allan 'na.
Mae'r Gymraeg ar ein dillad ni, a 'dan ni'n gweld bod lot o fusnesau newydd sydd yn cychwyn, lot o rai Saesneg... dwi'n meddwl ma' 'na gap i'r iaith Gymraeg yma yng Nghymru, a 'dan ni isho mynd i fewn i'r gap 'na a chael yr iaith Gymraeg allan yna.
Dwi'n meddwl fod y dyfodol yn un disglair, dwi'n gobeithio, i'r ddau ohonon ni.
Gwrandewch ar Siôn a Siôn yn siarad ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru
Hefyd o ddiddordeb: