Carchar am achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Ellie BryanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ellie Bryan, oedd yn dod o Aberystwyth, wedi'r ddamwain ar 16 Tachwedd 2019

Mae dyn 19 oed o Aberystwyth wedi cael dedfryd o garchar ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth menyw 18 oed trwy yrru'n beryglus.

Cafodd Dylan Wyn Benjamin o Bontnewydd ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis yn sgil gwrthdrawiad a laddodd Ellie Bryan ar yr A487 ger troad Comins Coch ym mis Tachwedd 2019.

Plediodd yn euog hefyd i ddau gyhuddiad o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Abertawe bod Benjamin yn gyrru'n rhy gyflym wrth deithio tua'r troad ar gyrion Aberystwyth a bod y gwrthdrawiad felly'n "anochel".

Cafodd Benjamin a dau deithiwr arall oedd yn y cerbyd anafiadau difrifol.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd ac wyth mis.

Arwydd yr heddlu ger safle'r gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd yr heddlu ger safle'r gwrthdrawiad

Collodd Benjamin reolaeth ar y car ar droad ger Comins Coch, taro coeden ac yna taro cerbyd arall oedd yn teithio tuag ato.

Yn ôl tystiolaeth yr heddlu, roedd cloc cyflymder y car wedi stopio ar 72 mya, a 50 mya oedd y cyflymder uchaf o ran gyrru trwy'r troad yn ddiogel.

Nid oedd Ellie Bryan na merch arall oedd yng nghefn y car yn gwisgo gwregysau. Cafodd Ellie ei lladd.

Cafodd Benjamin a'r ddau deithiwr arall yn y Vauxhall Astra anafiadau difrifol, ac fe gafodd gyrrwr y cerbyd arall anaf hefyd.

'Teimlo'r golled yn ddyddiol'

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen ar ei rhan, dywedodd mam Ellie, Charlotte Bryan bod y teulu wedi methu â dod i delerau gyda'i marwolaeth.

Roedd perthnasau yn eu dagrau wrth iddi ddatgan bod "marwolaeth Ellie wedi gadael bwlch enfawr yn ein bywydau ac rydym yn parhau i deimlo'r golled yn ddyddiol".

Ychwanegodd: "Dweud wrth ein plant eraill bod eu chwaer wedi marw oedd y peth anoddaf rwy' wedi gorfod ei wneud erioed."

A487 ger Commins Coch
Disgrifiad o’r llun,

Blodau yn nodi lleoliad y gwrthdrawiad a laddodd Ellie Bryan

'Edifar'

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn bod Benjamin "mor edifar ag y gallai unrhyw un fod" a'i fod "yn talu'r pris am yr hyn ddigwyddodd".

Clywodd y llys mai dyma'r tro cyntaf i'r diffynnydd gael ei erlyn, ac nad oedd alcohol na chyffuriau'n ffactor yn y digwyddiad.

Ychwanegodd bod Benjamin yn cofio dim o'r digwyddiad. Treuliodd 10 wythnos yn yr ysbyty, ac roedd mewn coma am bythefnos wrth i glotiau gwaed gael eu tynnu o'i ymennydd.

Wrth ddedfrydu Benjamin, dywedodd y Barnwr Geraint Walters bod yr hyn a wnaeth wedi cael "effaith ddinistriol ar nifer o bobl".

Dywedodd na fyddai'r un ddedfryd "yn gwneud y boen a'r dioddefaint yn haws" a bod y creithiau'n para am byth i'r teulu.

Pynciau cysylltiedig