Y Drenewydd yn trechu Caernarfon am le yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
James DaviesFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Yr eilydd James Davies oedd seren y gêm wedi iddo sgorio dwy gôl i'r Drenewydd

Mae'r Drenewydd wedi sicrhau eu lle yn Ewrop y tymor nesaf wedi iddyn nhw drechu Caernarfon o 3-5 yn ffeinal gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru.

Bydd y Robiniaid felly yn chwarae yng nghynghrair newydd Cyngres Europa y tymor nesaf, gyda gwobr ariannol o oddeutu €250,000.

Aeth Caernarfon ar y blaen wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae wrth i Jack Kenny godi'r bêl dros ben golwr Y Drenewydd, Dave Jones, i'r rhwyd.

Daeth yr ymwelwyr yn gyfartal gyda phum munud yn weddill o'r hanner cyntaf, gyda Nick Rushton yn sgorio o'r smotyn wedi i golwr Caernarfon, Lewis Brass droseddu yn erbyn Lifumpa Mwandwe yn y cwrt cosbi.

Cyn hanner amser aeth Y Drenewydd ar y blaen wedi i Mwandwe lwyddo i fanteisio ar gamgymeriad arall gan Brass.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o gefnogwyr i'w gweld o amgylch y stadiwm yn gwylio'r gêm ar sgaffaldiau neu ysgolion

O fewn awr o chwarae roedd hi'n gyfartal 2-2, gyda'r 'Cofi Messi' Darren Thomas yn rhwydo gydag ergyd bwerus gyda'i droed dde o ganol y cwrt cosbi.

Ychwanegodd Thomas ei ail gôl i roi Caernarfon ar y blaen eto gyda chwarter awr yn weddill, cyn i'r Drenewydd daro 'nôl yn syth gyda gôl gan yr eilydd James Davies.

Gyda 10 munud yn weddill roedd hi'n 4-3 i'r Drenewydd wedi i Davies sgorio ei ail, cyn i Jamie Breese ychwanegu pumed i selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Roedd y gêm wedi cael ei disgrifio fel yr un fwyaf yn hanes Clwb Pêl-droed Caernarfon, tra bo'r Drenewydd wedi ennill y gemau ail gyfle yn 2015.

Roedd Y Drenewydd, orffennodd yn seithfed yn y tabl, wedi llwyddo i drechu Penybont i gyrraedd y rownd derfynol, tra bo Caernarfon, orffennodd yn chweched, wedi curo'r Barri.

Ni chafodd y gêm ei chwarae o flaen torf ar Yr Oval yng Nghaernarfon er gwaethaf galwadau gan gefnogwyr a Phlaid Cymru, ond roedd amryw i'w gweld o amgylch y stadiwm ar sgaffaldiau neu ysgolion yn gwylio'r gêm.