Brentford yn trechu Abertawe yn ffeinal y gemau ail gyfle

  • Cyhoeddwyd
Ivan ToneyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ivan Toney (dde) serennu i Brentford, fel y mae wedi gwneud ar sawl achlysur y tymor hwn

Bydd Abertawe'n dal i chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf wedi iddyn nhw gael eu trechu o 2-0 gan Brentford yn ffeinal y gemau ail gyfle yn Wembley.

Aeth Brentford ar y blaen wedi 10 munud gyda Ivan Toney yn rhwydo o'r smotyn wedi i golwr Abertawe, Freddie Woodman faglu Bryan Mbeumo yn y cwrt cosbi.

O fewn 20 munud llwyddodd y tîm o Lundain i ddyblu eu mantais wrth i Emiliano Marcondes sgorio yn dilyn gwaith da gan Mbeumo a Mads Roerslev.

Bu bron i Toney ychwanegu trydedd eiliadau'n unig yn ddiweddarach wrth i'w hanner foli o ymyl y cwrt cosbi daro'r traws a'r llinell gôl cyn bownsio i ddiogelwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Jay Fulton gerdyn coch am dacl flêr ar Mathias Jensen

Ym munud cyntaf yr ail hanner roedd cyfle euraidd i'r Elyrch ond fe aeth peniad André Ayew heibio i'r postyn, a gyda 25 munud yn weddill fe aeth pethau o ddrwg i waeth.

Fe welodd Jay Fulton gerdyn coch haeddiannol i'r Cymry am gamu ar gefn coes Mathias Jensen, er ei bod yn ymddangos nad oedd wedi bwriadu gwneud hynny.

Wedi hynny roedd Brentford yn ddigon cyfforddus, ac yn haeddiannol o'u lle yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 5,000 o gefnogwyr Abertawe wedi cael mnychu'r achlysur yn Wembley

Roedd tua 5,000 o gefnogwyr wedi cael teithio o dde Cymru i fynychu'r achlysur yn Llundain, gyda chyfanswm o 11,689 o gefnogwyr yn Wembley brynhawn Sadwrn.

Roedd Yr Elyrch wedi gobeithio efelychu eu llwyddiant 10 mlynedd yn ôl, pan enillon nhw ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair yn ffeinal y gemau ail gyfle yn erbyn Reading.

Ond tymor arall yn y Bencampwriaeth sy'n eu hwynebu - eu pedwerydd ers disgyn o'r Uwch Gynghrair yn 2018.

Roedd Abertawe wedi trechu Barnsley i gyrraedd y rownd derfynol, tra bod Brentford wedi curo Bournemouth.

Y gred yw y bydd ennill ffeinal gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth gwerth tua £160m i Brentford oherwydd y sylw a'r nawdd sydd ar gael i glybiau'r Uwch Gynghrair.