CPD Casnewydd yn targedu dyrchafiad i Adran Un
- Cyhoeddwyd
Bydd Clwb Pêl-droed Casnewydd yn herio Morecambe yn Wembley brynhawn Llun wrth i'r ddau dîm frwydro am ddyrchafiad i Adran Un yn ffeinal y gemau ail gyfle.
Fe fydd yr Alltudion yn gobeithio am ganlyniad gwell na dwy flynedd yn ôl, pan gafodd y clwb eu trechu gan Tranmere yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Llwyddodd Casnewydd i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwrnod ola'r tymor, ac yna threchu Forest Green Rovers dros ddau gymal cyffrous i gyrraedd y ffeinal.
Fe wnaeth Morecambe orffen y tymor yn y trydydd safle yn Adran Dau - gan golli allan ar ddyrchafiad awtomatig o un pwynt yn unig - a llwyddon nhw i drechu Tranmere yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Bydd y gic gyntaf yn Wembley am 15:00 brynhawn Sadwrn.
Dydy Casnewydd ddim wedi bod yn nhrydedd haen pyramid pêl-droed Lloegr ers 1987, ac fe allai eu hanes diweddar fod yn wahanol iawn heb y rheolwr Mike Flynn wrth y llyw.
Pedair blynedd yn ôl roedd Casnewydd ar fin disgyn i'r Gynghrair Genedlaethol cyn i Flynn gymryd yr awennau.
Llwyddodd i'w cadw yn Adran Dau y tymor hwnnw, ac ers hynny mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth, gan gyffroi cefnogwyr gyda rhediadau gwych yng Nghwpan FA Lloegr a wynebu enwau mawr fel Manchester City, West Ham, Newcastle, Tottenham Hotspur a Leeds.
Fe fyddai dyrchafiad yn goron ar waith arwrol y rheolwr felly, ac yn arwain at lwyddiant na welwyd ers yr 80au i'r Alltudion.
Mae elfen arall i'r gêm ddydd Llun hefyd, gydag asgellwr 42 oed Casnewydd, Kevin Ellison wedi cynrychioli Morecambe am naw mlynedd.
Fe adawodd Morecambe yn 2020 a honni bod y rheolwr Derek Adams wedi dangos "diffyg parch" tuag ato, ac wedi iddo sgorio yn erbyn ei gyn-glwb yn gynharach y tymor hwn fe aeth i wyneb Adams i ddathlu.
Ellison oedd arwr Casnewydd oddi ar y fainc yn y rownd gynderfynol, ac felly mae'n debygol o chwarae o leiaf rhyw ran yn yr achlysur yn Wembley.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021