Mwy o dirlithriadau yn creu problem i gronfeydd dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae tirlithriadau sy'n llygru cronfeydd dŵr yfed ym Mannau Brycheiniog yn arwydd pendant o effaith newid hinsawdd, medd arbenigwyr.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Dŵr Cymru, mae cyfnodau o law trwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gynnydd yn y llithriadau.
Maen nhw'n arwain at ddŵr pinc wedi'i siltio - dŵr sydd angen llawer o waith trin.
Bellach, mae miloedd o goed yn cael eu plannu i geisio sefydlogi tir o amgylch y cronfeydd.
Mae'n enghraifft bendant a phryderus o effaith cynhesu byd-eang ar Gymru, yn ôl Keith Jones, ymgynghorydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar newid hinsawdd.
Wrth sefyll o flaen craith oren anferth yn ochr dyffryn Cwm Crew yn ne'r Bannau mae Mr Jones yn pwyntio at y nant islaw sy'n cludo malurion tirlithriad i gronfa gyfagos Cantref.
Mae'n cyflenwi dŵr yfed i Gaerdydd, a rhannau o Abertawe.
"Mae yna dirlithriadau o hyd" ar y llethrau serth hyn, eglura Mr Jones. "Ond ar hyn o bryd rydyn ni'n gweld mwy ohonyn nhw."
Wrth gymryd cipolwg cyflym ymhellach i fyny'r dyffryn tuag at gopa Pen y Fan - y mynydd uchaf yn ne Cymru - mae dau arall i'w gweld yn glir, gyda "saith neu wyth" arall o'r golwg, meddai.
"Mae'r hyn sydd ganddo ni yma yn ddangosydd o newid eithaf dramatig, mwy o lawiad yn y gaeaf, llai yn yr haf ac mae'r cyfuniad o hynny yn achosi problemau ar raddfa tirwedd."
"[Chi'n cofio] yr hen ddywediad hwnnw am ganeri yn y pyllau glo yn synhwyro perygl? I mi, dyma'r caneri ar newid hinsawdd ac maen nhw'n canu yn uchel iawn nawr".
Cynllun peilot
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar y tir o amgylch pum cronfa ddŵr ym Mannau Brycheiniog ac yn gweithio gydag awdurdod y parc cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar ddulliau i fynd i'r afael â'r broblem.
Maen nhw'n cynnwys prosiect peilot i blannu 9,000 o goed helyg ar lethrau sy'n cael eu hystyried yn risg uchel, i geisio arafu llif y dŵr pan fydd hi'n bwrw glaw ac atal pridd rhag llithro i ffwrdd.
Mae rhannau o'r ardal yn dir comin - felly mae cynnwys ffermwyr lleol sy'n ei ddefnyddio i bori eu defaid yn allweddol i'r cynllun.
Dywedodd Huw Barell, ceidwad lleol gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y byddai'r tirlithriadau yn dod yn "broblem sylweddol" pe byddent yn parhau i siltio'r cronfeydd dŵr.
"Mae angen i ni ailblannu ar gymaint o'r ardal â phosib mewn gwirionedd er mwyn atal dŵr sy'n llifo'n gyflym rhag gwthio i'r cyrsiau dŵr."
I lawr ger y gronfa ddŵr ei hun mae Philippa Pearson, pennaeth gwyddoniaeth gwasanaethau dŵr Dŵr Cymru yn cytuno ei bod "yn ymddangos mai newidiadau yn yr hinsawdd, yn enwedig glawiad dwysach" sydd ar fai am y problemau.
"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn ystod y flwyddyn [mewn tirlithriadau], yn y gorffennol byddem wedi eu gweld yn ystod misoedd y gaeaf ond nawr maen nhw trwy gydol y flwyddyn," meddai.
"Hen dywodfaen coch yw'r daeareg yma ac mae hwnnw'n torri i lawr yn ronynnau mân iawn sy'n galul cael eu cludo trwy'r nentydd i'r gronfa ddŵr. Maen nhw'n eistedd mewn yn y dŵr ac yn creu golwg goch," eglura Dr Pearson.
Mae'r achosion yn cael eu brandio fel "digwyddiadau coch" gan y cwmni, oherwydd y ffordd y mae dŵr y cronfeydd wedi'i staenio.
Mae'r tirlithriadau mwyaf difrifol wedi arwain at Ddŵr Cymru yn cau eu gwaith trin dros dro yn Cantref, tra gellir trin y digwyddiadau mwy cyffredin yn lleol.
Ond "o ganlyniad i fwy o ronynnau yn y dŵr mae angen i ni ddefnyddio mwy o gemegau a mwy o ynni i'w gael yn iawn i'n cwsmeriaid," meddai Dr Pearson.
Ar ôl gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i fapio'r ardaloedd risg uchel, dywedodd fod y cwmni'n awyddus i archwilio datrysiadau naturiol fel plannu coed.
"Fe allen ni newid ein gwaith trin, adeiladu prosesau mwy soffistigedig ond rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n iawn ceisio mynd i'r afael â gwraidd y broblem, a gwneud ein tirweddau'n fwy gwydn fel ein bod ni'n gallu wynebu bygythiadau fel newid hinsawdd yn y dyfodol."
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - sydd wedi disgrifio newid hinsawdd fel y "bygythiad mwyaf" i'r tir a'r eiddo y mae'n gofalu amdanynt - hefyd wedi treulio blwyddyn yn mapio peryglon eraill ledled Cymru.
Gan weithio yn ôl y model 'achos-gwaethaf-posib' - sy'n rhagdybio na wneir unrhyw ymyriadau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr - bwriad y map yw tynnu sylw at broblemau fel y gall y sefydliad baratoi.
Mae'r ymchwil yn dangos bod Bannau Brycheiniog yn cynhesu ac yn wlypach - y ddau yn cynyddu'r risg o dirlithriadau - ac wedi'u labelu ymhlith yr ardaloedd sydd mewn mwyaf o beryg.
Mewn mannau eraill, mae llifogydd, erydiad arfordirol, tanau gwyllt ac amodau sychder hefyd yn fygythiadau sylweddol.
"Rydyn ni wedi dod â chymaint o ddata a gwybodaeth at ei gilydd i weld sut fydd 2050 yn edrych ac nid yw'n edrych yn dda," meddai Keith Jones.
"Rwy'n ceisio peidio â meddwl amdano, os ydym yn gostwng ein [allyriadau] carbon heddiw ac yn y blynyddoedd i ddod nid oes rhaid iddo fod - rydym yn cynllunio ar gyfer y gwaethaf, gan obeithio am y gorau."
"Er ei fod yn dipyn o her, rwy'n dal i orfod deffro yn y bore a meddwl ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn ei gylch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2020