Plentyn mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro gan gar

  • Cyhoeddwyd
Ffordd CyttirFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bachgen ei daro gan gar Mazda glas ar Ffordd Cyttir yng Nghaergybi

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi i fachgen 11 oed gael anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghaergybi brynhawn Llun.

Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 17:00 wedi gwrthdrawiad rhwng beic a char ar Ffordd Cyttir.

Cafod y seiclwr 11 oed ei gludo gan hofrennydd i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a deallir fod ganddo anafiadau sy'n bygwth ei fywyd. 

Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Ry'n yn annog unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys car Mazda glas, i gysylltu â ni ar unwaith.

"Roedd y Mazda yn teithio ar hyd Ffordd Cyttir i gyfeiriad Ffordd Llundain ac roedd y seiclwr yn dod o gyfeiriad Ffordd Ty'n Pwll.

"Gofynnwn i unrhyw un sydd â lluniau CCTV o Ffordd Cyttir neu Ffordd Ty'n Pwll, neu unrhyw un sydd â lluniau dash cam i gysylltu â ni."

Pynciau cysylltiedig