Ffrainc 3-0 Cymru: Cerdyn coch dadleuol i'r ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Danny Ward yn arbed y gic o'r smotyn wedi cerdyn coch Neco WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Danny Ward yn arbed y gic o'r smotyn wedi cerdyn coch Neco Williams

Fe gollodd Cymru o 3-0 yn erbyn Ffrainc mewn gêm baratoadol ar gyfer Euro 2020 yn Stade Allianz Riviera nos Fercher.

Roedd yna gryn syndod yn yr hanner cyntaf wedi i Neco Williams gael cerdyn coch gan y dyfarnwr - hynny wedi i dechnoleg VAR ddangos ei fod wedi llawio ergyd Karim Benzema yn y cwrt cosbi.

Roedd Cymru, o ganlyniad, lawr i 10 dyn ond fe wnaeth y golwr Danny Ward arbed cic Benzema o'r smotyn.

Wedi arbediad arall gan Danny Ward, fe ddaeth gôl i Ffrainc wedi 34 munud wrth i Kylian Mbappé roi'r tîm cartref ar y blaen ac 1-0 oedd y sgôr ar hanner amser.

Ym munudau cynta'r ail hanner fe wnaeth Antoine Griezmann sgorio gôl arbennig gan ddyblu mantais Ffrainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Neco Williams ddim yn chwarae ddydd Sadwrn ond fe fydd yn cael chwarae yng ngemau Euro 2020

Wedi 58 munud fe wnaeth Gareth Bale, Joe Allen, Chris Mepham a Harry Wilson adael y cae ac yn eu lle daeth Aaron Ramsey, Ben Davies, Dylan Levitt a Kieffer Moore.

Roedd yna gyfle i Ramsey, Davies a Daniel James yn fuan wedi hynny ond wedi 79 munud roedd yna gôl arall i Ffrainc - Ousmane Dembélé y tro hwn yn ymestyn y mantais o dair gôl i ddim.

Wedi 83 o'r chwarae, daeth Rubin Colwill, 19, chwaraewr canol cae Caerdydd, ymlaen i'r cae am y tro cyntaf i'r tîm cenedlaethol.

Daeth cadarnhad na fydd Neco Williams yn gorfod methu gêm gyntaf yr Euros ond ni fydd yn cael chwarae yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Albania yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd 4,000 o gefnogwyr yn cael bod yn bresennol yn y gêm honno ddydd Sadwrn.

Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch Euro 2020 yn erbyn y Swistir yn Baku ar 12 Mehefin cyn wynebu Twrci a'r Eidal yng ngrŵp A.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Aaron Ramsey ymlaen i chwarae hanner awr olaf y gêm

Carfan Cymru ar y gyfer Euro 2020

Gôl-geidwaid: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies.

Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Joe Rodon, James Lawrence, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango.

Canolwyr: Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Harry Wilson, Daniel James, David Brooks, Joe Morrell, Matt Smith, Dylan Levitt, Rubin Colwill.

Ymosodwyr: Gareth Bale, Kieffer Moore, Tyler Roberts.