Antur cwpl o Gymru yn creu cartref yn Ne America
- Cyhoeddwyd
Yn 2015 fe benderfynodd Gwion Elis-Williams a'i bartner Nia Jones adael Cymru am Dde America.
Mae hi wedi bod yn dipyn o antur dros y blynyddoedd diweddar i Gwion a Nia, gyda'u merch Celyn yn cael ei geni allan ym Mhatagaonia yn 2018.
Yma mae Gwion yn rhannu hanes ddiddorol ei deulu sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nhrevelin.
Mae hi'n chwe blynedd ers i fi a'm mhartner Nia benderfynu cael dipyn o newid byd, a gadael Cymru fach am Dde America. Glanio yn Quito, Ecuador, a dilyn ein trwynau oedd y syniad.
Mewn cadwraeth natur mae fy nghefndir i, ac mae Nia'n athrawes, felly'r gobaith oedd y buasai yno ddigon o gyfleoedd i wirfoddoli neu i weithio. Ddim yn hir cyn gadael, cafodd Nia gynnig swydd yn dysgu Cymraeg yn y Wladfa, felly roedd hynny wedi rhoi amcan i ni - teithio 4,000 o filltiroedd o Quito lawr i Batagonia.
Setlo yn Nhrevelin
Wedi rhyw bedair i bum mis o deithio, gan gynnwys mis o wirfoddoli gyda phrosiect cadwraethol yn yr Amazon a mis arall yn gweithio mewn gwersyllfa y tu allan i La Paz, fe gyrhaeddon ni Drevelin, tref wrth droed yr Andes rhyw 1000 o filltiroedd i'r de o Buenos Aires.
Er ein bod ni'n byw yma ers dros bum mlynedd erbyn hyn, dwi'n pinsio fy hun weithiau wrth glywed y Gymraeg yn cael ei siarad yma - mae'n rhywbeth i'w ddathlu ac i ymfalchïo ynddo.
Nid y Cymry yn unig sydd wedi ymfudo yma i Chubut - mae cymunedau Sbaenaidd, Eidalaidd, Chileaidd, Syriaidd a Lebanaidd, ymysg eraill, i'w cael yma - ond Cymraeg ydi'r unig iaith sydd wedi goroesi (ar wahân i Sbaeneg, wrth gwrs).
Mae arwyddion stryd tairieithog - Cymraeg, Sbaeneg a Mapudungun, sef iaith y bobl Mapuche - i'w gweld o gwmpas y dref.
Dysgu Cymraeg a gwaith cadwraethol
Mae Nia'n athrawes yn Ysgol y Cwm, dolen allanol, un o dair ysgol Gymraeg y Wladfa, a'r unig un yn ardal yr Andes. Mae tua 150 o blant yn mynychu, ac mae cefnogaeth noddwyr a chefnogwyr o Gymru wedi bod yn hollbwysig er mwyn talu am athrawon ac ariannu gwaith adeiladu.
Mae'r ysgol hefyd yn ganolfan dysgu Cymraeg i oedolion a phobl ifanc - dyma Ysgol Gymraeg yr Andes, ble dwi'n dysgu dosbarth lefel canolradd.
Ynghyd â dysgu Cymraeg, dwi hefyd wedi gallu parhau i wneud 'chydig o waith cadwraethol ac awyr agored. Ar ôl cyrraedd yn 2016, treuliais chwe mis yn gwirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces, un o barciau cenedlaethol harddaf yr Ariannin, sydd hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd. Dwi hefyd yn helpu criw o ecolegwyr o ganolfan ymchwil lleol i gyhoeddi papurau gwyddonol drwy gyfrwng y Saesneg.
Dechrau teulu
Ddim yn hir ar ôl cyrraedd Trevelin fe fabwysiadon ni gi strae, oedd wedi dod i fyw yng ngardd Tŷ Capel, ble roedden ni'n byw ar y pryd.
Mae Arth bellach yn aelod o'r teulu, ac yn hoff iawn o'i home comforts!
Ac wedyn, ym mis Mehefin 2018, cafodd Celyn Mai ei geni... cychwyn antur arall!
Mae Trevelin yn lle braf i fagu plant - digon o gefn gwlad ac awyr agored, ac mae agwedd pobl tuag at blant yn wahanol iawn yma, ychydig bach yn fwy goddefol ella. Tydi hi ddim yn anghyffredin gweld plant bach iawn allan gyda'r teulu oll mewn bwytai a thafarndai, ymhell ar ôl amser gwely.
Syndrom Dravet
Yn flwydd oed, cafodd Celyn ei diagnosio gyda Syndrom Dravet, dolen allanol. Roedd hi wedi bod yn dioddef o ffitiau ers iddi fod yn bedwar mis oed, rhai cyn hired ag awr a hanner yn ddi-stop.
Ar ôl treulio pythefnos yn Buenos Aires yn gwneud profion cynhwysfawr, daeth y newyddion fod gan Celyn random mutation yn y gennyn SCN1A. Dyma sut y cafwyd y diagnosis ar gyfer Syndrom Dravet.
Mae'r mwtaniad yn un de novo, sy'n golygu ei fod wedi ymddangos fwy neu lai o nunlle, yn hytrach na ei fod yn rhywbeth teuluol.
Mae'r hap a siawns genetig yma'n chwarae rhan bwysig mewn esblygiad a detholiad naturiol, a'r amrywiaeth o fywyd sydd o'n cwmpas, p'un ai yn fforestydd yr Amazon, ar lethrau'r Andes neu yn yr ardd gefn. Ochr arall y geiniog am wn i yw afiechydon a chyflyrau prin, fel Syndrom Dravet.
Mae'n effeithio tua un ym mhob 20,000 o enedigaethau, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel cyflwr catastroffig, sy'n dod law-yn-law gyda comorbidities eraill, fel anawsterau dysgu, awtistiaeth ac ataxia, sy'n effeithio'r system nerfol.
Mae'r cyflwr hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd o SUDEP, sef Sudden Unexplained Death in Epilepsy. Mae hyn yn digwydd i tua 20% o'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr.
Fe ddaeth y diagnosis yn dipyn o sioc, yn enwedig wrth ddarllen mwy amdano, ond 'da ni bellach wedi dygymod â'r cyflwr, er bod rhai diwrnodau pan mae'r holl beth yn teimlo'n fawr iawn.
Mae gan Celyn dîm gwych o therapyddion, gan gynnwys cynorthwyydd therapiwtig sy'n edrych ar ei hôl hi am gwpwl o oriau bob wythnos. Mae hi'n dilyn diet cetogenig arbennig er mwyn lleihau'r nifer o ffitiau, ac ar hyn o bryd mae pethau'n mynd yn dda iawn.
'Da ni'n obeithiol iawn wrth edrych tua'r dyfodol, ac mae triniaethau genetig newydd sbon wrthi'n cael eu datblygu er mwyn trin y cyflwr.
Effaith coronafeirws
'Da ni wedi bod yn gymharol lwcus yma o ran COVID-19. Wnaeth y feirws ddim ein cyrraedd ni yma yn yr Andes tan ddiwedd 2020, felly gobeithio y gallwn osgoi'r gwaethaf ohono rŵan fod y brechiadau wedi dechrau cyrraedd.
Mae'r cyfnod clo wedi bod yn rhyfedd iawn, gan fod bywyd fel arfer yn cylchdroi o gwmpas y digwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol - yr asados, y nosweithiau llawen, y prynhawniau te Cymreig a'r actos sy'n coffau digwyddiadau hanesyddol.
Mae hefyd wedi golygu fod Celyn wedi colli allan ar brofiadau fel mynd i'r ysgol feithrin, a chael cymdeithasu gyda phlant bach eraill.
Mae ffiniau'r Ariannin dal ar gau i dwristiaid rhyngwladol ar hyn o bryd, ond cyn i bopeth gau ro'n i wedi dechrau tywys twristiaid o gwmpas rhai o atyniadau'r ardal. Mae twristiaeth yn rhan reit bwysig o'r economi lleol, a gorau po gynted y bydd pethau'n dychwelyd i'r arfer.
Antur newydd
Ein bwriad ni ydi aros yma yn Nhrevelin am gyfnod. 'Da ni'n teimlo'n gartrefol iawn yma - mae pobl wedi bod yn hynod groesawgar o'r cychwyn un.
Ar hyn o bryd, 'da ni'n brysur yn adeiladu hostel chwe llofft fydd yn darparu gwely a brecwast, a golygfeydd anhygoel o Drevelin a'r Andes.
Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan bensaer lleol, Marcelo Roberts, sydd â gwreiddiau teuluol yn ardal Llanrwst.
Mae system oeri a chynhesu naturiol yn rhan o'r adeilad a byddwn yn ychwanegu paneli a thanciau cynhesu dŵr solar yn y pendraw.
Mae ambell i oediad wedi bod, rhwng y pandemig a gaeaf caled y llynedd, ond 'da ni'n gobeithio y bydd y lle'n barod cyn diwedd y flwyddyn.
Gobeithio hefyd y bydd y ffiniau'n agor, er mwyn cael croesawu ymwelwyr o Gymru a thu hwnt - felly dewch i ddweud helo!
Hefyd o ddiddordeb: