Covid: Dysgu sut i fwydo o'r fron wedi bod yn 'anodd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Charley Greatrix yn bwydo'i babiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Charley Greatrix wedi troi at dudalennau Facebook i'w chefnogi gyda bwydo o'r fron

Mae diffyg cefnogaeth yn ystod y pandemig wedi achosi i nifer o famau sy'n bwydo o'r fron i deimlo'n ddigalon, meddai un fam sy'n bwydo o'r fron ac sy'n cefnogi eraill i wneud hynny.

Dywedodd Stacey Davies, sy'n bwydo dau o'i phedwar plentyn o'r fron, nad yw'r "cyfeillgarwch" y mae grwpiau cefnogaeth yn ei ddarparu yn gallu cael ei efelychu ar-lein.

Dywedodd academydd bod cyfnodau clo wedi bod yn "anodd iawn" i rai ond bod eraill wedi cael profiad gwell o fwydo o'r fron.

Yn ôl data Llywodraeth Cymru roedd y nifer sy'n bwydo o'r fron yn uwch yn 2020.

Dengys data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer tri mis diwethaf 2020 bod 26.7% o famau yn bwydo eu babanod o'r fron pan oedden nhw'n chwe mis oed - 23.2% oedd y ganran yn ystod yr un cyfnod yn 2019.

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020 roedd y ffigyrau yn 26.4% - 22.5% oedd y ganran yn ystod yr un cyfnod yn 2019.

'Amser anodd'

Mae Charley Greatrix, 27 yn byw yn Y Barri, Bro Morgannwg, gyda'i mab Theo sy'n 16 mis oed.

Rhoddodd enedigaeth i Theo yng nghanolbarth Lloegr yn Ionawr 2020 cyn symud gartref i Gymru ym mis Mawrth wedi iddi hi a'i phartner ddod â'u perthynas i ben.

Dywedodd roedd yn ddechreuad "anodd iawn" gyda dim cefnogaeth wyneb-yn-wyneb am sut i fwydo o'r fron.

Mae cyfyngiadau Covid yn caniatáu i hyd at 30 person i gwrdd tu fewn ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu ond mae nifer o grwpiau cefnogi bwydo o'r fron yn parhau i gael eu cynnal yn rhithiol.

"Heblaw am aelodau o'r teulu, dydw i ddim wedi cael lot o gefnogaeth emosiynol ac mae wedi bod yn amser anodd," meddai.

Ond dywedodd ei bod hi'n hapus ei bod wedi parhau i fwydo o'r fron: "Mae bwydo o'r fron wedi cadw ni'n gall yn ystod y pandemig."

Ychwanegodd fod grwpiau cefnogaeth ar-lein wedi bod yn "bwysig iawn" a'i bod wedi defnyddio tudalennau Facebook i'w helpu.

"Unrhyw fath o gwestiynau sydd gyda chi, unrhyw bryderon, gallwch chi roi nhw'n syth lan yna ac o fewn dau i dri munud mae gennych chi dri neu bedwar ymateb..."

Ond nawr mae hi'n barod i gwrdd wyneb-yn-wyneb: "Rydw i wedi bod yn cadw llygaid ar pryd fydd pobl yn cael cwrdd lan gyda'r grwpiau yma oherwydd mae mor bwysig, yn enwedig i fi."

'Rhywun i wrando'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stacey Davies yn bwydo dau o'i phlant a hefyd yn cefnogi mamau eraill sy'n bwydo o'r fron

Mae Stacey Davies, 31 o Bort Talbot, yn fam i bedwar ac yn bwydo dau o'i phlant o'r fron. Ar hyn o bryd mae'n hyfforddi gyda'i bwrdd iechyd lleol i fod yn gefnogwr i famau eraill sy'n bwydo o'r fron.

Dywedodd: "Roedd gen i lot fwy o gyfleoedd i eistedd a bwydo achos does dim pryderon wedi bod am orfod tywys plant i'r ysgol a bod allan... rydyn ni wedi bod adref."

Ond dywedodd ei bod wedi colli "cyfeillgarwch" grwpiau wyneb-yn-wyneb.

Mae'n dweud ei bod hi'n cydymdeimlo gyda rhai o'r mamau newydd sy'n bwydo o'r fron am y tro cyntaf.

"Maen nhw'n edrych fel petai nhw ar goll - rydyn ni i gyd ar y we ac mae hynny'n iawn ond does dim person yn eistedd ar eich pwys yn gwrando arnoch chi go iawn ac fel mam newydd, weithiau mae angen rhywun arnoch chi - person o'ch blaen yn gwrando a'n deall a'n cyfnewid straeon".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Amy Brown wedi bod yn ymchwilio i brofiadau mamau sydd wedi bod yn bwydo o'r fron yn ystod y pandemig

Dywedodd yr Athro Amy Brown, sy'n arbenigo mewn iechyd cyhoeddus plant ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae mamau yn tueddu cael un o ddau brofiad - maen nhw naill ai'n cael amser anodd iawn neu'n cael amser lot gwell.

"Cafodd y rheiny sydd mewn sefyllfaoedd mwy breintiedig sydd gyda lot o gefnogaeth ta beth amser lot gwell, a chafodd y rheiny sy'n ei chael hi'n anodd mewn nifer o ffyrdd gwahanol amser lot gwaeth."

Fe gyhoeddodd yr Athro Brown a Dr Natalie Shenk o Brifysgol Coleg Imperial Llundain bapur ym mis Medi a wnaeth ganfod bod amser cynyddol adref, llai o bwysau a llai o ymwelwyr wedi bod yn beth positif i rai menywod sy'n bwydo o'r fron yn y DU.

Ond fe wnaeth ganfod fod eraill wedi profi amgylchiadau mwy heriol, megis methu cael cefnogaeth, poeni am ddiogelwch bwydo a theimlo'n ynysig - roedd hynny yn eu gwneud yn fwy tebygol o stopio bwydo o'r fron cyn roedden nhw'n barod.

Roedd y papur hefyd yn dweud bod menywod o gefndiroedd du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig arall yn ogystal â'r rheiny oedd ag addysg is yn fwy tebygol o fod yn y grŵp oedd wedi ei chael hi'n anodd.

'Pwysau ychwanegol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod fod y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd.

"Ers cofnodi canrannau, roedd cyfraddau bwydo o'r fron yn 2020 gyda'r uchaf.

"Parhaodd bydwragedd ac ymwelwyr iechyd i ddarparu cefnogaeth i fenywod i fwydo o'r fron trwy gydol y pandemig. Mae grwpiau cefnogaeth wyneb-yn-wyneb nawr hefyd yn ailddechrau wrth i'r cyfyngiadau lacio."