Pobl ifanc yn achosi anhrefn mewn gorsaf yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y bydd ganddynt bresenoldeb amlwg mewn tref glan-y-môr yn Sir Gâr dros y penwythnos yn dilyn trafferthion diweddar mewn gorsaf reilffordd.
Fe gafodd yr heddlu eu galw ar ôl adroddiadau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan grŵp o hyd at 100 o ieuenctid yng Ngorsaf Porth Tywyn yr wythnos diwethaf.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, gafodd hefyd eu galw, fe waethygodd y sefyllfa wrth i'r ieuenctid, nifer yn feddw, ddod yn fwy afreolus ar y platfform ac yna ar y trên.
Dywedodd yr arolygydd Dawn Fencott-Price o Heddlu Dyfed-Powys i ddau sarjant ddioddef ymosodiadau wrth geisio rhwystro dau grŵp rhag ymladd.
"Cafodd nifer o bobl eu harestio ar gyhuddiad o ymosod ac ar gyhuddiad o ymosod ar yr heddlu."
Fe wnaeth yr anhrefn barhau yng ngorsaf Llanelli, a chafodd rhagor eu harestio yno ar gyhuddiadau o fod yn feddw ac yn afreolus, ac ar gyhuddiadau yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.
"Fe gymerodd hyn oll amser ac adnoddau sylweddol i ddod â'r digwyddiad i derfyn diogel, a hynny ar adeg pan fod yna alw mawr am ein hadnoddau beth bynnag.
"Does yna ddim esgus am y math yma o ymddygiad, sy'n creu pryder i drigolion a'r gymuned leol," meddai.
Apêl ar rieni
Dywedodd yr arolygydd bod plismyn yn apelio ar rieni i fod yn ymwybodol o ble yn union mae eu plant, a beth maen nhw'n ei wneud.
"Rydym wedi derbyn nifer uchel o alwadau gan drigolion Porth Tywyn dros beth amser, gan ddweud eu bod yn poeni am ymddygiad grwpiau mawr o bobl ifanc yn y dref."
Dywedodd y cwnstabl Rhys Lewis o'r Heddlu Trafnidiaeth fod eu swyddogion, ynghyd â rhwydwaith o gamerâu cylch cyfyng yn monitro'r rheilffyrdd 24/7.
"Ein blaenoriaeth yw i gadw teithwyr a staff y rheilffyrdd yn ddiogel, a bydd y math yma o ymddygiad ddim yn cael ei ddioddef," meddai.