Frankie Morris: Cwest yn agor i farwolaeth dyn ifanc o Fôn

  • Cyhoeddwyd
Frankie MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Frankie Morris ar goll am dros fis cyn i'w gorff gael ei ddarganfod

Mae gwrandawiad agoriadol cwest yn achos dyn ifanc o Ynys Môn oedd ar goll am dros fis wedi clywed mai'r gred yw iddo farw o ganlyniad i grogi.

Cafwyd hyd i gorff Frantisek 'Frankie' Morris, 18 oed ac o Landegfan, mewn coedwig yn ardal Caerhun ar gyrion Bangor ddydd Iau diwethaf.

Cafodd ei weld ddiwethaf ddydd Sul, 2 Mai yn gwthio ei feic heibio tŷ tafarn ym Mhentir, rhyw ddwy filltir o'r goedwig, ar ôl bod mewn rêf y noson gynt yn ardal Waunfawr.

Roedd yna ymgyrch fawr i geisio dod o hyd iddo, gyda dwsinau o wirfoddolwyr yn chwilio amdano ynghyd â'r heddlu.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i'r corff yn yr ardal goediog yma ger Caerhun

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru'r wythnos ddiwethaf nad oedden nhw'n trin ei farwolaeth fel un amheus.

Clywodd y gwrandawiad ddydd Mercher bod archwiliad post-mortem yn awgrymu i Mr Morris farw o ganlyniad i gywasgiad ar y gwddf yn sgil crogi.

Cafodd y cwest ei ohirio tra bo ymchwiliadau'n parhau.

Roedd mam Mr Morris, Alice Morris yn bresennol, ac fe ddywedodd yr uwch grwner dros dro, Kate Sutherland wrthi ei bod yn gobeithio cynnal y cwest llawn ym mis Medi.