Cartref plant yn gwadu bod 'elw yn bwysicach na gofal'

  • Cyhoeddwyd
A sign
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y rheolwyr Orbis Education and Care Ltd eu bod yn ystyried yr honiadau o ddifri

Mae cartref i blant yng Nghaerdydd wedi gwadu honiadau gan gyn-aelodau o staff sydd yn dweud bod y rheolwyr yn rhoi mwy o flaenoriaeth i elw na gofal.

Daw'r honiadau wedi i ymchwiliad gan BBC Cymru gael ar ddeall bod plant yn cael eu "cam-drin" yn Nhŷ Coryton.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw eto ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwneud elw o ofal cymdeithasol plant yn cael ei wahardd.

Mae Orbis Education and Care Ltd wedi dweud bod unrhyw awgrym fod elw yn cael mwy o flaenoriaeth na gofal yn gelwydd.

Dywed y rheolwyr hefyd eu bod yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kristy Edwards bod awyrgylch y cartref yn "risg uchel" i staff a phlant

Dywed Kristy Edwards, a oedd yn gweithio yn Nhŷ Coryton rhwng 2019 a 2020: "Yn ystod y cyfnod hyfforddi ry'ch yn cael gwybod fod Orbis yn mynd i fod y darparwr gofal iechyd a chymdeithasol mwyaf yng Nghymru, y mwyaf yn y DU, ry'n ni'n mynd i fod y darparwr gorau - ry'n ni'n fusnes. Ry'n ni yma i wneud arian, mae'n rhaid i fusnes wneud elw."

Roedd y plant a oedd yn cael eu rhoi yn Nhŷ Coryton yn hynod o fregus ac roedd ganddynt anghenion cymhleth - yn aml roedd eu hymddygiad yn heriol.

O ganlyniad mae'r gost mewn cartref fel Tŷ Coryton yn gallu bod yn filoedd o bunnau y flwyddyn.

Mae cyn-aelodau o staff yn honni hefyd bod cwmni Orbis yn defnyddio bwyd rhad a bod yna fyth digon o ddeunyddiau glanhau na PPE.

Dywed un cyn-aelod o staff fod y cwmni yn gwrthod prynu pethau yn lle y rhai roedd y plant wedi'u torri - pethau roeddent eu hangen yn aml ar gyfer eu lles.

Yn ôl honiadau "arian oedd y flaenoriaeth ac roedd hynny yn niweidiol i'r plant".

Dywedodd un cyn-aelod arall o staff fod yna wrthdaro posib rhwng y gofal am y plant a buddiannau ariannol y cwmni.

Yn ôl honiadau does gan gwmni Orbis ddim cymhelliad i sicrhau fod y plant yn byw'n fwy annibynnol gan fod y cwmni yn gyfrifol am gartrefi i oedolion hefyd a'r teimlad, honnir, yw bod y plant yn breswylwyr posib yn y cartrefi i oedolion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Comisiynydd Plant, Sally Holland, bod elw yn fater "moesol"

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, wedi adnewyddu ei galwadau ar i Lywodraeth Cymru gael gwared ag elw o ofal cymdeithasol plant.

Dywedodd: "I fi mae'n fater moesol - pam ddylai cwmnïau preifat elwa o ofal ein plant mwyaf bregus?

"Dylai pob punt o arian trethdalwyr fod yn talu'n uniongyrchol am ofal y plant yma - boed e'n cael ei ddarparu gan awdurdod lleol, bwrdd iechyd, elusen neu gwmni arall na sy'n gwneud elw.

"Mae plant wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu prynu a'u gwerthu mewn marchnad."

Dywed Ms Holland bod elwa ar ofal yn golygu bod rhai plant yn cael gofal ymhell o adref.

Dywedodd hefyd bod tai rhatach yng Nghymru yn golygu bod cwmnïau preifat yn prynu tai yma ond nad plant lleol sydd wastad yn cael byw ynddynt.

Adroddiad Ofsted

Roedd gan gwmni Orbis Education and Care Ltd gartref yn Tewksbury ar un adeg.

Cafodd y cartref, Orbis Abbey Road, ei gau dros dro yn Rhagfyr 2019 wedi i adroddiad gan Ofsted godi cwestiynau am ddiogelwch a gofal am y plant.

Dywed Orbis Care and Education Ltd eu bod yn flin ganddynt ond eu bod wedi dewis cau'r cartref yn barhaol yn Hydref 2020.

Dywedodd llefarydd: "Roedd materion rheoleiddio yn golygu ein bod wedi methu cymryd preswylwyr newydd am gyfnod. Fe ddeliwyd â'r materion hynny ond oherwydd cyfyngiadau Covid roedd hi'n amhosib sicrhau arolygiaeth bellach ac fe fyddai hynny, gobeithio, wedi golygu y buaswn yn gallu ailagor y cartref."

Maen nhw'n dweud bod yr awgrym eu bod yn rhoi mwy o flaenoriaeth i elw na gofal yn "anwiredd" a'u bod yn "parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau i'r rhai maent yn eu cefnogi, eu teuluoedd a chomisiynwyr awdurdod lleol".

"Mae'r buddsoddiad yn cynnwys hyfforddiant, adnoddau, gofal therapiwtig a chefnogi cydweithwyr.

"Ry'n hefyd yn buddsoddi mewn cartrefi newydd, yn aml ar gais awdurdodau lleol, a wastad yn ystyried barn teuluoedd wrth benderfynu lle i leoli'r gwasanaethau.

"Mae Orbis yn ceisio bod yn ddarparwr y gwasanaeth cymdeithasol gorau, nid y mwyaf, yn y DU, Ry'n yn gobeithio datblygu partneriaeth gyda chomisiynwyr a theuluoedd sy'n gwerthfawrogi ac angen y gofal ry'n yn ei ddarparu.

"Mae gan Orbis ystod gynhwysfawr o bolisïau a gweithdrefnau rheoli, sy'n cael eu cefnogi gan dîm safonol ymroddedig er mwyn sicrhau gwasanaeth diogel o'r safon uchaf.

"Ry'n wedi ymrwymo i barhau i sicrhau awyrgylch hapus i'n preswylwyr fel eu bod yn byw bywyd hapus a chyflawn."

Elw 'ddim yn brif flaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sicrhau nad oes elw yn cael ei wneud drwy ofalu am blant yn un o'n prif flaenoriaethau.

"Ry'n yn credu bod gofal cyhoeddus yn golygu y dylai plant fod yn cael gofal gan awdurdodau lleol neu ddarparwr na sy'n gwneud elw - darparwyr sy'n gweithredu er budd gorau y plant yn unig.

"Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaethau sy'n hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr.

"Ry'n am weld mwy o'r math yma o ddarpariaeth ar gyfer plant sy'n cael gofal yng Nghymru. Ry'n yn gwybod bod gennym waith arwyddocaol i'w wneud gydag amrywiaeth o randdeiliaid ac ry'n yn edrych ymlaen i gydweithio gyda nhw."