Jack Quick: 'Mae'n gryfder i ofyn am help'

  • Cyhoeddwyd
Jack QuickFfynhonnell y llun, S4C

"Mae pobl dal yn meddwl fod e'n wendid ond mae'n beth cryf i allu neud y penderfyniad i ofyn am help."

Fel actor sy'n portreadu cymeriad sy' wedi cyrraedd pen ei dennyn yn Pobol y Cwm, mae Jack Quick o Glyn-nedd wedi dod i wybod dipyn am iechyd meddwl dynion ifanc.

A'i gyngor yw i ofyn am help ac i siarad yn agored am beth sy'n eich poeni: "Mae 'na lot o bwysau yn enwedig yn ddiweddar (yn ystod y pandemig) os mae pobl 'di bod yn byw ar ben eu hunain.

"Mae social interation yn beth masif, yn enwedig gyda dynion ifanc sy'n mynd mas ac yn ran o glybiau a pethau.

"Os mae hwnna i gyd yn mynd, ti'n teimlo'n unig ac unigrwydd yw lot o'r broblem 'da dynion ifanc dwi'n meddwl, a theimlo bod nhw ar ben eu hunain a bod nhw ddim yn gallu siarad gyda unrhyw un.

"'Na'r neges ni'n trio gwthio yw fod e'n olréit i siarad a s'dim rhaid teimlo cywilydd am deimlo'n isel. Mae angen siarad amdano fe."

Rhannu teimladau

Mae Jack yn chwarae rhan Rhys Llywelyn yn Pobol y Cwm ac mi fyddwn yn gweld cyflwr meddyliol y cymeriad yn dirywio ymhellach dros yr wythnosau nesaf.

Yn ogystal â thynnu sylw at iechyd meddwl dynion ifanc a'u hannog i rannu eu teimladau a'u pryderon, mae'r stori yn cynnwys cyngor i'r bobl sy'n agos i'r person sy'n dioddef i gadw llygad am arwyddion problem iechyd meddwl.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Jack yn chwarae rhan Rhys Llywelyn yn Pobol y Cwm

Dywedodd yr actor ifanc: "Mae'r person mae Rhys yn agor lan i ddim yn un o'i ffrindiau gorau fe ond mae'n dangos pwysigrwydd siarad gyda unrhyw un.

"'Nathon ni neud golygfa pan mae Rhys yn agor lan ac 'oedd e'n teimlo fel gymaint o rhyddhad fod e di cael hyn off ei chest a dweud sut oedd e'n teimlo.

"Mae'n teimlo fel rhyw fath o win - mae ar y ffordd i gael help achos mae'n dechrau siarad am y peth."

Profiad personol

Mae Jack wedi gweld canlyniadau peidio siarad am deimladau a phroblemau ymhlith pobl mae e'n adnabod: "Dwi wedi bod o gwmpas pobol sydd wedi delio gydag iselder a dwi'n credu fy mod i wedi bod mewn a mas o gael anxiety a phethau fel 'na dros y blynydde.

"Ond dwi'n lwcus bod fy nheulu a ffrindie wastod wedi bod yn bobl sy'n gallu siarad yn agored am unrhyw beth. 'Dyw lot o bobl ddim yn y sefyllfa 'na lle maen nhw'n teimlo eu bod nhw gallu neud hynna."

Mae'n credu bod pethau'n dechrau newid a bod dynion ifanc yn dechrau teimlo yn fwy parod i siarad yn agored ac i ofyn am help: "Gyda dynion yn enwedig mae'r embarrassment factor o siarad ac agor lan ond dwi'n meddwl bod hyn yn gwella nawr gyda mwy o bobl yn siarad ac yn agored i siarad am eu teimladau, felly fi'n credu ein bod ni yn mynd yn y ffordd iawn."

Mae'n cofio am ddyn ifanc lleol yn lladd ei hun: "Roedd y bois lleol 'di delio gyda hynny drwy greu grŵp whatsapp lle mae cyfle i bobl siarad a rhannu teimladau.

"Mae'n bwysig fod pobl yn gwybod fod 'da nhw'r gefnogaeth 'na o gwmpas nhw."

Cyflwyno

Yn ogystal ag actio, mae Jack hefyd yn cyflwyno ar raglenni Stwnsh Sadwrn ac Y Wal Goch (cyfres arbennig ar gyfer pencampwriaeth Euro 2020) ar S4C, gwaith sy' wedi bod yn ddihangfa iddo tra'n ffilmio golygfeydd dwys ar gyfer Pobol y Cwm: "Sai'n actor sy'n cymryd gwaith gartref da fi - ond os ti'n neud rhywbeth fel 'na am gyfnod hir, mae'r stwff emosiynol yn gallu bod yn draining.

"Os o'n i'n mynd draw i'r Wal Goch neu Stwnsh wedyn a gallu chwarae'r ffŵl a chael hwyl, oedd e'n codi calon ti. Ti'n cael y balans wedyn, ti ddim jyst yn y stad emosiynol 'na trwy'r amser."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack hefyd yn cyflwyno Stwnsh Sadwrn

Cyfle

Gadawodd Jack y coleg yn Gorseinion ar ôl i ffrind i'w dad weld swydd actio gyda Theatr na nÓg wedi ei hysbysebu yn y papur newydd. Doedd yr actor ifanc ddim yn llwyddiannus ar gyfer y swydd yna ond cafodd gynnig gwaith arall gyda'r cwmni.

Fel mae'n dweud: "Dysgu 'ar y job' dwi wedi gwneud.

"Fi'n lwcus achos ni ddim yn ffilmio ar y penwythnosau ar Pobol y Cwm ac ni'n neud Stwnsh Sadwrn ar foreau Sadwrn.

"Ar y dechre oedd e'n eitha tricky i ddod i'r arfer ag e. Ti'n chwarae rhyw fath o gymeriad, fel enlarged version o dy hun.

"Oedd e'n ffordd dda o ddysgu a ti'n gallu cuddio tu ôl y ffŵl fi'n chwarae arno fe. Mae wedi bod yn od heb y gynulleidfa yn y stiwdio yn ddiweddar achos Covid. Mae'n neis pan maen nhw 'na achos maen nhw'n creu awyrgylch ffantastig yn y stiwdio."

Ffynhonnell y llun, Matthew Richards
Disgrifiad o’r llun,

Jack ar raglen Y Wal Goch

Fel ffan pêl-droed ers yn blentyn, mae Jack yn edrych ymlaen i weld ymgyrch Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2020: "'Oedd e'n fraint i allu neud y rhaglen Y Wal Goch a ni gyd yn edrych mlaen at yr Ewros nawr. Fin meddwl dewn ni mas o'r grwpiau ac wedyn pwy a wŷr?"

Gwyliwch Pobol y Cwm ar S4C bob nos Lun i nos Iau am 8.00.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig