Unigrwydd ysbytai yn 'dinistrio enaid' pobl hŷn
- Cyhoeddwyd
Mae dynes sydd wedi bod mewn ysbytai am dros 10 wythnos heb ymwelwyr yn dweud bod yr unigrwydd wedi "dinistrio fy enaid".
Mae Margaret Evans, 86 o Nefyn, Gwynedd, yn dweud ei bod yn teimlo'n isel iawn gan nad yw wedi cael gweld ffrindiau a theulu yn sgil gwaharddiad i ymwelwyr gan Ysbyty Alltwen, Tremadog.
Nid yw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn caniatáu ymwelwyr ar hyn o bryd, ond mae eithriadau i'r rheol yn golygu bod rhai cleifion yn cael gweld eu hanwyliaid tra bod eraill ddim.
Er nad oedd Ysbyty Alltwen yn caniatáu ymwelwyr, roedd Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli yn croesawu ymwelwyr ar sail apwyntiad yn eu gardd.
Mae rhai cleifion a'u teuluoedd yn dweud bod elfen o lwc i gael gweld eu hanwyliaid ai peidio.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod yn gwerthfawrogi bod y cyfyngiadau wedi bod yn anodd i gleifion a'u teuluoedd, ac y bydd newidiadau yn cael eu gweithredu ar draws y bwrdd yr wythnos hon i ganiatáu ymwelwyr ar sail apwyntiad.
Mae rhai byrddau iechyd eraill yng Nghymru eisoes yn caniatáu ymwelwyr ar sail apwyntiad, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
'Ddim yn deg'
Dywedodd Margaret Evans bod y sefyllfa presennol "ddim yn deg", yn enwedig gan ei bod wedi bod yn yr ysbyty am dros ddau fis heb gael gweld wyneb cyfarwydd.
Roedd yn cael ei thrin yn Ysbyty Gwynedd, Bangor cyn iddi gael ei symud i Ysbyty Alltwen. Nid oedd yr un ohonynt yn caniatáu ymwelwyr oni bai am mewn sefyllfaoedd eithriadol.
"Dwi'n teimlo fy mod wedi cael fy nhorri i ffwrdd o'r byd. Mae'n gam yn rhy bell i gau pethau i lawr yn gyfan gwbl erbyn hyn," meddai.
Mae Elaine Beer o Minffordd o'r un farn. Mae ei mam 83 oed wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ers pythefnos ac yn teimlo'n unig iawn yno.
"Mae mam yn ffonio fi mewn dagrau yn dweud bod hi'n unig," meddai.
"Dydi o ddim yn deg, dylai un ai pawb gael mynd [i ymweld] neu neb o gwbl."
Dywedodd Ms Beer ei bod hi hefyd yn anodd cyfathrebu gyda'i mam ar adegau gan nad oes ganddi hi ffôn, ac ei bod hi felly yn dibynnu ar staff yr ysbyty i siarad drosdi hi.
"Weithiau dwi'n cael gwahanol straeon am be sy'n mynd ymlaen 'efo Mam, ac mae cael atebion gwahanol gan wahanol bobl yn anodd," meddai.
Roedd mam Helena Jones o Bontllyfni wedi gorfod derbyn newyddion drwg ar ei phen ei hun yn Ysbyty Gwynedd cyn cael ei symud i Bryn Beryl, ble mae ymweliadau yn cael digwydd ar sail apwyntiad yn eu gardd.
"Dwi'n gweld gwahaniaeth mawr yn Mam ers 'da ni di bod yn mynd yna bob dydd i'w gweld hi. Ma 'na sgwrs i gael, ma hi'n fwy hi ei hun er bo' hi'n ddynes wael," meddai.
Mae Ms Jones yn werthfawrogol iawn o gael ymweld â'i mam, ond dywedodd ei bod yn brofiad anodd iawn gyda'r masgiau a'r pellter cymdeithasol.
"Mae'r pellter dal yna, mae o'n oeraidd. Mae o fel bod fi'n mynd i weld rhywun dwi ddim yn 'nabod.
"Mi fysa mam yn gwerthfawrogi os fyswn i'n cael gafael ynddi," meddai.
Ymateb y bwrdd iechyd
Dywedodd Debra Hickman, Cyfarwyddwr Nyrsio Gofal Eilaidd: "Rydym yn llwyr werthfawrogi pa mor anodd y gall y cyfyngiadau ymweld cyfredol fod i gleifion a'u hanwyliaid - ond eu diogelwch nhw a'n ein staff yw ein prif flaenoriaeth.
"Rydym yn parhau i gefnogi cleifion gyda ffyrdd amgen o gadw mewn cysylltiad hefo anwyliaid. Mae hyn yn cynnwys defnyddio WiFi am ddim ein hysbytai i ddefnyddio FaceTime neu alwadau fideo.
"Gall pobl hefyd gadw mewn cysylltiad â ffrindiau neu berthnasau mewn ysbytai gan ddefnyddio ein gwasanaeth Llythyr i Anwyliaid.
"Mae ein canllawiau ymweld wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru a bydd newidiadau'n cael eu gweithredu yr wythnos hon, gan ganiatáu ymwelwyr ar sail apwyntiad yn unig lle bod modd. Bydd hyn yn llacio ychydig ar reolau ymweld, sydd ar hyn o bryd ond yn cael ei ganiatáu mewn amgylchiadau eithriadol.
"Bydd hyn yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd, a gall newid ar fyr rybudd yn seiliedig ar lefel trosglwyddiad cymunedol Covid-19, a nifer y cleifion â'r feirws yn ein hysbytai. Bydd manylion pellach ar ein gwefan yn fuan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021