Prosiect i fynd i'r afael â gwastraff plastig tecawê

  • Cyhoeddwyd
Prydau o fwyd mewn tuniau metel

Dros fisoedd hir y cyfnodau clo, trodd y cyfle i archebu pryd ar glud yn un o bleserau bach pwysig bywyd i nifer.

Un o sgil effeithiau hynny - waeth pa mor flasus oedd y tecawê - yw pentyrrau o gynwysyddion plastig mewn bocsys ailgylchu a chypyrddau.

Mynd i'r afael â'r gwastraff hwn yw nod prosiect peilot Naked Takeaway yn Sir y Fflint.

Mae chwe busnes yn Yr Wyddgrug a Chaerwys nawr yn cynnig eu prydau mewn tuniau metel fydd yn cael eu hailddefnyddio.

Y syniad yw bod y cwsmer yn dychwelyd y cynhwysydd, neu yn eu cael nhw'n barod at y tro nesaf y byddan nhw'n archebu o'r bwytai sy'n rhan o'r prosiect.

Dyw'r busnesau ddim yn gofyn am flaendal am y tuniau - byddai hynny'n gofyn gormod, yn ôl Chris Ansloos o gaffi Spoons and Forks.

"Dydy pobl ddim yn ymddiried yn ei gilydd ddigon y dyddiau yma," esbonia, gan ychwanegu bod eu cwsmeriaid pryd ar glud yn tueddu i fod yn archebu bob wythnos.

"Os byswn i'n gofyn iddyn nhw dalu am bryd ac am flaendal o £10, mi fyddai'n llawer o arian i bobl sy'n mynd drwy gyfnod anodd ac sy'n cefnogi ein busnes. Mi wna'i ymddiried ynddyn nhw am eu bod nhw'n eu cefnogi ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Ansloos a Ste Spooner yn dweud bod y fenter yn llwyddiant

Mae Chris yn dweud bod pawb sydd wedi cael y cyfle i ddewis y tuniau cynaliadwy wedi gwneud hynny.

"Maen nhw wrth eu boddau efo nhw ac mae 100% - dwi'n meddwl - wedi dweud y byddan nhw'n hoffi eu cael nhw eto. Maen nhw'n cadw'r bwyd yn gynhesach ac yn well i'r amgylchedd. Mae ambell un yn gwneud sylw am y ffaith bod angen eu golchi nhw - ond does dim ots gan bobl mewn gwirionedd!"

Disgrifiad o’r llun,

Mewn un maint mae'r tuniau metel yn dod ar hyn o bryd

Peilot blwyddyn o hyd yw hwn, wedi ei gefnogi gan fenter Lleihau Plastig Yr Wyddgrug ochr yn ochr â chynghorau tref Yr Wyddgrug, Caerwys a Llangollen. Mae wedi derbyn arian o gronfa economi gylchol Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Carmen Lim o fwyty Asia Sensation, byddai'n well pe bai tuniau o wahanol feintiau a siapiau ar gael, ond mae'n gweld mantais i'r busnes o fod yn rhan o'r fenter.

"Yn gyntaf, rydan ni'n arbed llawer o arian ar y cynwysyddion plastig," meddai. "Yn ail, mae'n lanach. Ac mae'n cael ei ailgylchu'n ôl felly mae'n fwy addas i'r bwyty hefyd."

Plastig yn broblem

Mae'r cynghorydd tref Andrea Mearns, sy'n un o sylfaenwyr Lleihau Plastig Yr Wyddgrug, yn dweud bod y prosiect wedi deillio o adborth y gymuned am broblem "enfawr" gwastraff plastig.

"Roedden ni'n gwybod ei fod yn bwysig am fod pobl wedi dweud ei fod yn bwysig," meddai.

Mae'n gobeithio y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r peilot, a bydd trefi eraill yn efelychu'r prosiect. Un peth allweddol, meddai, yw bod dim rhaid i'r busnesau dalu am y tuniau, sydd wedi eu prynu drwy'r grant.

"Y rhwystr mwyaf i fusnesau, yn ôl Cymdeithas Bwytai'r DU, yw cost defnyddio cynwysyddion sydd ddim yn niweidio'r amgylchedd. Felly mae'n hollbwysig ein bod yn rhoi'r cyfle i'r busnesau yma ddefnyddio rhywbeth sy'n gwbl gynaliadwy ac sy'n gallu cael ei ailddefnyddio."

Pynciau cysylltiedig